Galwadau a negeseuon dieisiau

Weithiau rydyn ni'n derbyn galwadau ffôn a negeseuon nad ydym eu heisiau nhw. Efallai eu bod nhw'n alwadau gwerthu neu farchnata, galwadau mud, neu alwadau a negeseuon gan sgamwyr.

Mae'n bwysig eich bod yn gwybod sut i nodi'r rhain, yn ogystal â gwybod sut i ddelio â nhw.

Yn yr adran hon o'n gwefan gallwch chi gael mwy o wybodaeth am y mathau gwahanol o alwadau a negeseuon dieisiau y byddwch efallai yn eu derbyn. Byddwn yn dweud wrthych chi beth i gadw llygad allan amdano, a beth i'w wneud os byddwch chi'n derbyn un.

Byddwch hefyd yn gweld manylion at bwy y dylid rhoi gwybod amdanynt. Gan ddibynnu ar natur yr alwad neu neges, mae bosib mai hynny fydd Ofcom, eich darparwr, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), y Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn (TPS), Action Fraud, neu'r heddlu. Action Fraud yw'r ganolfan adrodd ar gyfer twyll a seiberdroseddu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Dylid adrodd am dwyll neu unrhyw drosedd ariannol arall yn Yr Alban i'r heddlu ar 101.

Featured content

Canllaw darllen-hawdd

Mae canllawiau darllen hawdd yn gwneud gwybodaeth yn fwy hygyrch, yn enwedig i bobl sydd ag anableddau dysgu.

Darllenwch ein canllaw darllen hawdd ar sut i gael llai o alwadau ffôn dieisiau (PDF, 1012.2 KB).