Dewis y darparwr band eang, symudol a llinell dir gorau


Rydym eisiau i bawb gael y gorau o'u ffonau a'u band eang.

Rydym wedi cywain gwybodaeth gan bobl, busnesau a darparwyr i greu darlun o ansawdd gwasanaeth yn y DU heddiw.

Gallwch chwilio gan ddefnyddio'r tablau isod i weld perfformiad prif ddarparwyr symudol, band eang a ffôn cartref y DU.

Mae mwy o fanylion am ddiffiniadau a methodoleg ar gael yn  ein hadroddiad Cymharu Gwasanaeth i Gwsmeriaid llawn.

Am ba wasanaeth ydych chi'n chwilio?


Symudol

0 results are shown

Pethau eraill i'w hystyried wrth ddewis darparwr symudol

DarparwrBoddhad ar y gwasanaeth yn gyffredinol (cyfartaledd 87%)Boddhad ar dderbyniad neu gryfder y signal (cyfartaledd 81%) Boddhad ar werth am arian (cyfartaledd 82%) Cwsmeriaid gyda rheswm dros gwyno (cyfartaledd 12%) Boddhad cyffredinol ar sut yr ymdriniwyd â'r gŵyn (cyfartaledd 53%) Cwynion i Ofcom fesul 100,000 o danysgrifwyr (cyfartaledd 8) Amser aros cyfartalog mewn galwad (MM:EE) (cyfartaledd 02:23)
BT Dd/B         Dd/B Dd/B  18% Dd/B 14                 1:45
EE 87%  80% 74%  12%  55%  6 3:41
Giffgaff 95% 83% 93% 11% 52% Dd/B Dd/B
ID MobileDd/B Dd/BDd/B 4% Dd/B 10 1:52
O2 85% 78% 79% 9% 53% 10 2:33
Sky 88%         79%Dd/B  14% 54%          5 1:51
Tesco Mobile 95% 92% 95% 7% 50% 5 1:05
3 83% 75% 84% 21% 50% 9 0:47
Virgin Mobile 81% 75% 81%* 12% 54% 12 1:39
Vodafone86% 84% 76% 17% 56% 9 2:03

*Boddhad ar werth am arian: Roedd gan Virgin Mobile faint sylfaen isel (88) a lled gwall eang cysylltiedig, felly dylid trin y canlyniadau fel rhai dangosol yn unig.

Noder:Pan fydd gan ddarparwr faint sylfaen is (gan nodi bod maint sylfaen darparwr yn adlewyrchu ei gyfran o'r farchnad berthnasol), mae'n bosib, er gwaethaf canlyniad sydd yr yn peth â chyfartaledd y sector a/neu ddarparwyr eraill neu'n agos ato, nad yr un peth mohono o safbwynt ystadegol. Mae hyn oherwydd lled gwall ehangach. Er enghraifft, mae hyn yn berthnasol i sgorau rheswm dros gwyno BT ac iD Mobile. Mae gan sgorau'r darparwyr hyn led gwall ehangach o'i gymharu ag O2, Tesco Mobile a Sky. Felly, ni nodir bod y canlyniadau ar gyfer BT ac iD Mobile, er eu bod yr un peth â'r rhai a adroddir gan y darparwyr eraill hyn, yn arwyddocaol o wahanol i'r cyfartaledd.

Marcir canlyniadau fel ‘Dd/B’ pan fydd y gyfran o'r farchnad islaw 4%, neu pan fydd maint y sampl yn rhy isel i gynnwys canfyddiad h.y. llai na 50. Gweler Atodiad 1 a 2 am fanylion pellach ar feintiau sylfaen darparwyr a phrofi arwyddocâd. Gweler Atodiad 3 am gwynion i Ofcom a methodolegau amserau aros cyfartalog mewn galwad.


Band eang

0 results are shown

Pethau eraill i'w hystyried wrth ddewis darparwr band eang

Darparwr Boddhad ar y gwasanaeth yn gyffredinol (cyfartaledd 82%) Boddhad ar gyflymder y gwasanaeth (cyfartaledd 80%)Cwsmeriaid gyda rheswm dros gwyno (cyfartaledd 20%) Boddhad cyffredinol ar sut yr ymdriniwyd â'r gŵyn (cyfartaledd 51%) Cwynion i Ofcom fesul 100,000 o danysgrifwyr (cyfartaledd 44) Amser aros cyfartalog mewn galwad (MM:EE) (cyfartaledd 02:37)
BT 83% 80% 19% 55% 352:45
EE 85%  81%  13%  55% 22 1:06
KCOM Dd/B Dd/B Dd/B Dd/B Dd/B 4:13
NOW Dd/B Dd/B 10% Dd/B Dd/B 0:51
Plusnet 89% 83% 20% 53% 46 2:08
ShellDd/BDd/BDd/BDd/B1088:14
Sky 82% 80% 18% 55% 16 2:14
TalkTalk 78% 76% 24% 46% 67 1:22
Virgin Mobile 81% 82% 25% 46% 66 3:07
Vodafone 83% 81% 22% 49% 64 3:19

*** Cafodd Vodafone ei gynnwys fel darparwr band eang yn ein tracwyr ymchwil am y tro cyntaf eleni, felly nid yw cymariaethau o flwyddyn i flwyddyn ar gael ar gyfer y darparwr hwn. Gweler Atodiad 2 am fay o fanylion.

Noder:Pan fydd gan ddarparwr faint sylfaen is (gan nodi bod maint sylfaen darparwr yn adlewyrchu ei gyfran o'r farchnad berthnasol), mae'n bosib, er gwaethaf canlyniad sydd yr yn peth â chyfartaledd y sector a/neu ddarparwyr eraill neu'n agos ato, nad yr un peth mohono o safbwynt ystadegol.Mae hyn oherwydd lled gwall ehangach. Er enghraifft, yn y sector band eang mae hyn yn berthnasol i foddhad ar EE a Plusnet o ran trin cwynion.Mae gan sgorau'r darparwyr hyn led gwall ehangach o'i gymharu â TalkTalk. Felly, ni nodir bod y canlyniadau ar gyfer EE a Plusnet, er eu bod yr un peth â TalkTalk, yn arwyddocaol o wahanol i'r cyfartaledd.Marcir canlyniadau fel ‘Dd/B’ pan fydd y gyfran o'r farchnad islaw 4%, neu pan fydd maint y sampl yn rhy isel i gynnwys canfyddiad h.y. llai na 50. Gweler Atodiad 1 a 2 am fanylion pellach ar feintiau sylfaen darparwyr a phrofi arwyddocâd. Cyfrifir amserau aros cyfartalog mewn galwad ar gyfer llinell dir a band eang gyda'i gilydd.Gweler Atodiad 3 am gwynion i Ofcom a methodolegau amserau aros cyfartalog mewn galwad.


Llinell dir

0 results are shown

Pethau eraill i'w hystyried wrth ddewis darparwr llinell dir

Darparwr Boddhad ar y gwasanaeth yn gyffredinol (cyfartaledd 77%) Cwsmeriaid gyda rheswm dros gwyno (cyfartaledd 7%) Boddhad cyffredinol ar sut yr ymdriniwyd â'r gŵyn (cyfartaledd 51%) Cwynion i Ofcom fesul 100,000 o danysgrifwyr (cyfartaledd 26) Amser aros cyfartalog mewn galwad (MM:EE) (cyfartaledd 2:37)
BT 78% 7% 51% 22 2:45
EE 90%  6%  56% 10 1:06
KCOMDd/B Dd/B Dd/B Dd/B 4:13
NOWDd/B2%Dd/BDd/B0:51
Plusnet 78% 6% 51%* 29 2:08
ShellDd/BDd/BDd/B878:14
Sky 77% 6% 53% 9 2:14
TalkTalk 73% 10% 44% 42 1:22
Virgin mobile70% 7% 51% 40 3:07
Vodafone77%8% 52% 33 3:19

*Boddhad ar drin cwynion: Roedd gan Plusnet faint sylfaen isel (89).
** Ym mis Mawrth 2021 cwblhaodd Swyddfa'r Post werthu ei wasanaethau band eang a llinell dir i Shell Energy ac fe ymadawodd â'r farchnad delathrebu.

Noder:Pan fydd gan ddarparwr faint sylfaen is (gan nodi bod maint sylfaen darparwr yn adlewyrchu ei gyfran o'r farchnad berthnasol), mae'n bosib, er gwaethaf canlyniad sydd yr yn peth â chyfartaledd y sector a/neu ddarparwyr eraill neu'n agos ato, nad yr un peth mohono o safbwynt ystadegol. Mae hyn oherwydd lled gwall ehangach. Er enghraifft, yn y sector llinell dir mae hyn yn berthnasol i sgôr rheswm dros gwyno Vodafone, gan fod gan y darparwr hwn led gwall ehangach o'i gymharu â BT. Felly, ni nodir bod y canlyniadau ar gyfer Vodafone, er eu bod yr un peth â BT, yn arwyddocaol o wahanol i'r cyfartaledd.Marcir canlyniadau fel "Dd/B" pan fydd y gyfran o'r farchnad islaw 4%, neu pan fydd maint y sampl yn rhy isel i gynnwys canfyddiad h.y. llai na 50.Gweler Atodiad 1 a 2 am fanylion pellach ar feintiau sylfaen darparwyr a phrofi arwyddocâd. Gweler Atodiad 3 am gwynion i Ofcom a methodolegau amserau aros cyfartalog mewn galwad.


Pethau eraill i'w hystyried wrth ddewis darparwr symudol

A fyddaf yn cael signal?

Mae cryfderau signal yn amrywio o fan i fan ac o ddarparwr i ddarparwr. Mae'n cael ei effeithio gan bethau fel pellter o'r mast a pha un a oes unrhyw adeiladau neu rwystrau naturiol yn y ffordd. I wirio pa signal rydych yn debygol o'i dderbyn yn y lleoedd rydych yn byw ac yn gweithio, gallwch fwrw golwg ar declyn gwirio darpariaeth symudol Ofcom.

Faint fydd yn costio?

Gall pris gwasanaeth symudol amrywio yn ôl y darparwr, faint o ddata neu negeseuon testun/munudau rydych eu hangen, unrhyw nodweddion ychwanegol, hyd y contract a pha un a ydych yn prynu ffôn ai beidio hefyd. Mae'n bwysig ystyried y gost fisol yn ogystal ag unrhyw daliadau'n syth ar y dechrau.

Un ffordd o benderfynu a yw'r pris yn iawn i chi yw defnyddio gwefan cymharu prisiau. Mae Ofcom yn achredu gwasanaethau cymharu prisiau sy'n dryloyw, hygyrch, cywir, cynhwysfawr ac yn ddiweddar, ac mae'n rhaid i'n holl aelodau restru eu cynigion o'r rhataf i'r drutaf (ar draws y contract cyfan). Gweler rhestr o wefannau achrededig.

Mae'n rhaid dweud wrth gwsmeriaid band eang, ffôn a theledu-drwy-dalu am fargeinion gorau eu darparwr pan fydd eu contract cychwynnol yn dod i ben, a bob blwyddyn wedi hynny os byddant yn parhau allan o gontract. Gweler mwy o wybodaeth am yr hysbysiadau hyn.

Pethau eraill i'w hystyried wrth ddewis darparwr band eang

Faint fydd yn costio? A allaf gael llinell dir a theledu?

Gall pris contract amrywio, yn ôl y darparwr, y math o dechnoleg a ddefnyddir i ddarparu'r gwasanaeth, cyflymder pennawd y pecyn, unrhyw nodweddion ychwanegol neu gynhyrchion a fwndelir, hyd y contract, a pha un a oes ffioedd gosod ai beidio. Mae'n bwysig ystyried y gost fisol yn ogystal ag unrhyw daliadau'n syth ar y dechrau.

Un ffordd o benderfynu a yw'r pris a'r pecyn yn iawn i chi yw defnyddio gwefan cymharu prisiau. Mae Ofcom yn achredu gwasanaethau cymharu prisiau sy'n dryloyw, hygyrch, cywir, cynhwysfawr ac yn ddiweddar, ac mae'n rhaid i'n holl aelodau restru eu cynigion o'r rhataf i'r drutaf (ar draws y contract cyfan). Gweler rhestr o wefannau achrededig.

Pa gyflymder fyddaf yn ei dderbyn?

Mae'n amhosib gwybod yn union pa gyflymder y byddwch yn ei dderbyn oherwydd y gall gael ei effeithio gan gynifer o bethau, gan gynnwys yr amser o'r dydd, faint o bobl a dyfeisiau sydd wedi'u cysylltu ar yr un pryd a pha un a ydych yn defnyddio cysylltiad dros Wi-Fi neu wifrau. Bydd darparwyr sy'n llofnodeion y codau ymarfer cyflymder band eang yn rhoi amcangyfrif o gyflymder i chi ar eu gwefan ac ar y pwynt gwerthu. Gall gwefannau cymharu prisiau ddweud wrthych chi hefyd pa lefelau cyflymder sydd ar gael yn eich ardal, a bydd teclyn gwirio darpariaeth band eang Ofcom yn nodi beth yw'r uchafswm cyflymder y gallwch ei gael.

Pethau eraill i'w hystyried wrth ddewis darparwr llinell dir

Faint fydd yn costio?

Gall pris contract amrywio, yn ôl y darparwr, unrhyw nodweddion ychwanegol, hyd y contract, a pha un a oes ffioedd gosod ai beidio. Mae'n bwysig ystyried y gost fisol yn ogystal ag unrhyw daliadau'n syth ar y dechrau.

Os ydych yn prynu band eang hefyd, mae'n rhatach i'w prynu gyda'i gilydd fel arfer yn hytrach nag ar wahân. Os nad ydych ond yn prynu llinell dir, mae gennym gyngor ar ddewis y gwasanaeth iawn.

Un ffordd o benderfynu a yw'r pris yn iawn i chi yw defnyddio gwefan cymharu prisiau. Mae Ofcom yn achredu gwasanaethau cymharu prisiau sy'n dryloyw, hygyrch, cywir, cynhwysfawr ac yn ddiweddar, ac mae'n rhaid i'n holl aelodau restru eu cynigion o'r rhataf i'r drutaf (ar draws y contract cyfan). Gweler rhestr o wefannau achrededig.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?