Tegwch i Gwsmeriaid

Logo Tegwch i Gwsmeriaid

Mae Ofcom eisiau i gwsmeriaid gael bargen deg ar gyfer eu gwasanaethau. Mae caniatáu i gwmnïau telegyfathrebiadau a theledu gystadlu ac arloesi wedi arwain at brisiau is, mwy o ddarpariaeth a gwell dibynadwyedd.

Ond, gall dewis fod yn ddryslyd, ac nid yw darparwyr bob amser yn ei gwneud hi'n hawdd i gwsmeriaid gael y fargen orau.Mae ein rhaglen waith i hyrwyddo Tegwch i Gwsmeriaid yn sicrhau bod pobl yn cael y fargen orau ac yn cael eu trin yn deg gan eu darparwyr.

Featured content

Diweddariad ar gynnydd – 7 Mai 2021

Yn 2021, bu i ni adolygu cynnydd ar yr ymrwymiadau Tegwch i Gwsmeriaid. Gwnaethon ni weld bod llofnodeion wedi cymryd camau i hybu tegwch i'w cwsmeriaid, ond mae cynnydd wedi bod yn gymysg ac rydym yn herio darparwyr i wneud mwy.

Adroddiad Monitro Ymrwymiadau Tegwch – 7 Mai 2021 (PDF, 1.4 MB)