Mae yna nifer o wahanol fathau o alwadau a negeseuon niwsans, sy'n cynnwys yn bennaf galwadau telewerthu, negeseuon testun sbam, galwadau marchnata awtomatig, galwadau mud a galwadau sy'n cael eu gadael.
Mae cyfrifoldeb rheoleiddiol i fynd i'r afael â galwadau niwsans yn cwmpasu nifer o sefydliadau.
Fodd bynnag, mae'r prif gyfrifoldebau yn nwylo Ofcom a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Yn benodol:
Yn Ionawr 2013 cyhoeddodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac Ofcom gynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r niwed a achosir i ddefnyddwyr gan negeseuon a galwadau niwsans. Mae ein diweddariad blynyddol diweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2019, yn nodi'r meysydd gwaith dan sylw:
Mae ein diweddariad ar gyfer Mai 2020 yn adrodd ar y cynnydd yn yr holl feysydd uchod dros y 12 mis diwethaf ac yn nodi sut mae ein hymdrechion ar y cyd yn gwneud gwahaniaeth bositif i ddefnyddwyr.
Negeseuon a galwadau niwsans: diweddariad ar y cynllun gweithredu (PDF, 312.3 KB)
Nodwch fod y dogfennau isod ar gael yn Saesneg yn unig.
ICO and Ofcom Joint Action Plan - 2018 update (PDF, 277.0 KB)
ICO and Ofcom Joint Action Plan - 2016 update (PDF, 563.9 KB)
ICO and Ofcom Joint Action Plan - 2015 update (PDF, 239.8 KB)
ICO and Ofcom Joint Action Plan - 2014 update (PDF, 239.8 KB)
Mae ymchwil rheolaidd Ofcom am alwadau niwsans yn mesur amlder y galwadau niwsans mae defnyddwyr y DU yn eu derbyn ar eu ffonau llinell dir yn y cartref. Rydym yn casglu data amser real am y mathau hyn o alwadau, yn cynnwys dyddiad, amser a hyd y galwadau niwsans a disgrifiad llawn o'r profiad e.e. y cwmni/person sy'n galw, cynnwys yr alwad ac os oedd modd adnabod rhif y person oedd yn galw.
Panel ymchwil galwadau niwsans
Mae Ofcom yn gweithredu arolygon tracio omnibws. Mae Ofcom yn gofyn i gyfranwyr i adrodd, am gyfnod o bedair wythnos cyn yr arolwg, eu profiad o alwadau niwsans wnaethon nhw dderbyn ar eu llinell dir a/neu eu ffonau symudol. Ar hyn o bryd, mae Ofcom yn cynnal yr ymchwil hwn deirgwaith y flwyddyn, ym mis Ionawr, Mai a Medi. Mae'r adroddiadau hyn yn cael eu cyhoeddi ar ein calendr gwybodaeth ystadegol
Mae gan Ofcom bwerau dan adrannau 128 i 130 o'r Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 ("y Ddeddf") i weithredu, gan gynnwys gosod dirwyon, yn erbyn unrhyw un sydd yn camddefnyddio rhwydwaith neu wasanaeth gyfathrebu yn barhaus mewn ffordd sy'n achosi neu sy'n debygol o achosi dicter nad yw'n angenrheidiol, neu anghyfleustra neu boen meddwl.
Mae'n ofynnol bod Ofcom yn cynhyrchu polisi cyffredinol sy'n egluro sut rydym yn bwriadu defnyddio'r pwerau hyn ac i ystyried y polisi wrth eu gweithredu. Rydym wedi cyhoeddi datganiad sy'n esbonio sut rydym yn gweithredu ein polisi cyffredinol sydd wedi bod yn weithredol ers 1 Mawrth 2017.
Rydym hefyd yn cynnal rhaglen archwilio barhaus sy'n monitro ac yn gorfodi mewn achosion o alwadau mud ac sy'n cael eu gadael sy'n achosi niwed ac yn cyhoeddi diweddariadau am ein gwaith gorfodi ffurfiol yn ein Bwletin Gorfodi Cystadleuaeth a Defnyddwyr
Mae Ofcom wedi sefydlu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda naw darparwr cyfathrebiadau sylweddol. Mae hwn yn gosod fframwaith ar gyfer cydweithio gwirfoddol am fesurau technegol rhwng y sefydliadau sy'n gweithio gyda'i gilydd, yn cynnwys sut fyddan nhw'n cyflawni'r nod cyffredin o leihau effaith galwadau niwsans anghyfreithlon ar ddefnyddwyr.
Mae'r ddogfen isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Nuisance Calls (Technical Measures) Memorandum of Understanding (MoU) (PDF, 255.1 KB)