Defnydd Plant o'r Cyfryngau a'u Hagweddau Atynt


Mae ymwybyddiaeth o'r cyfryngau'n galluogi pobl i gaffel y sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnynt er mwyn gallu manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil gwasanaethau cyfathrebu traddodiadol a newydd. Mae ymwybyddiaeth o'r cyfryngau hefyd yn helpu pobl i reoli cynnwys a chyfathrebiadau, ac i ddiogelu eu hunain a’u teuluoedd rhag y risgiau posib sydd ynghlwm wrth ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.

Mae ein hymchwil yn cynnwys canfyddiadau sy’n ymwneud â safbwyntiau rhieni am ddefnydd eu plant o gyfryngau, a’r ffordd mae rhieni yn ceisio - neu’n penderfynu peidio - monitro neu gyfyngu ar ddefnydd eu plant o wahanol fathau o gyfryngau.

Rhodd Deddf Cyfathrebiadau 2003 ddyletswydd ar Ofcom i hyrwyddo a chynnal ymchwil ym maes ymwybyddiaeth o'r cyfryngau. Mae ein gwaith ymchwil ar ymwybyddiaeth plant o'r cyfryngau'n helpu i sicrhau bod Ofcom yn cyflawni’r ddyletswydd hon, ac yn ffurfio rhan o'n rhaglen Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau ehangach.

Plant a rhieni: adroddiad agweddau a defnydd o gyfryngau 2024 (Saesneg yn unig)

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar y defnydd o'r cyfryngau, agweddau a dealltwriaeth ymhlith plant a phobl ifanc 3-17 oed. Mae hefyd yn cynnwys canfyddiadau ar farn rhieni am ddefnydd eu plant o'r cyfryngau, a sut mae rhieni plant a phobl ifanc 3-17 oed yn monitro ac yn rheoli defnydd eu plant. Mae'r adroddiad yn rhoi darlun cynhwysfawr o brofiadau plant yn y cyfryngau yn 2023 fel cyfeiriad ar gyfer diwydiant, llunwyr polisi, academyddion a'r cyhoedd yn gyffredinol.

Y Cyfryngau ym Mywyd Plant (Saesneg yn unig)

Mae prosiect Y Cyfryngau ym Mywyd Plant yn dilyn, cyn belled ag y bo modd, yr un grŵp o 21 o blant 8 i 17 oed, gan gynnal cyfweliadau wedi'u ffilmio bob blwyddyn i ddysgu am eu harferion a'u hagweddau yn y cyfryngau. Dechreuodd yr ymchwil hon yn 2014 fel ffordd o ddarparu cyflenwad ansoddol bach, cyfoethog a manwl i arolygon meintiol Ofcom o ymwybyddiaeth o'r cyfryngau.

Older research is available through the National Archives.