Plant a rhieni: adroddiad ar ddefnydd o'r cyfryngau ac agweddau atynt 2023

29 Mawrth 2023

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar y defnydd o'r cyfryngau, agweddau a dealltwriaeth ymhlith plant a phobl ifanc 3-17 oed.

Mae hefyd yn cynnwys canfyddiadau ar farn rhieni am ddefnydd eu plant o'r cyfryngau, a sut mae rhieni plant a phobl ifanc 3-17 oed yn monitro ac yn rheoli defnydd eu plant. Bwriad yr adroddiad yw rhoi darlun cynhwysfawr o brofiadau plant yn y cyfryngau yn 2021 fel cyfeiriad ar gyfer diwydiant, llunwyr polisi, academyddion a'r cyhoedd yn gyffredinol.

Mae Deddf Cyfathrebu 2003 yn gosod cyfrifoldeb ar Ofcom i hyrwyddo, a chynnal ymchwil i ymwybyddiaeth o'r cyfryngau. Rydym yn diffinio ymwybyddiaeth o'r cyfryngau fel 'y gallu i ddefnyddio, deall a chreu'r cyfryngau a chyfathrebu mewn amrywiaeth o gyd-destunau'. Mae'r adroddiad hwn yn rhan o'n rhaglen ehangach Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau.

Plant a Rhieni: Adroddiad ar Agweddau a Defnydd o Gyfryngau 2023 (PDF, 3.2 MB)

Annex 1: Sources and methodologies (PDF, 214.8 KB)

Children and parents: media use and attitudes report 2023 – interactive data