Tueddiadau prisio gwasanaethau cyfathrebu

23 Ionawr 2024

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar dueddiadau prisio ar gyfer gwasanaethau band eang sefydlog, ffôn symudol, llinell dir a theledu-drwy-dalu preswyl yn y DU.

Mae'n ymdrin â'r prisiau y cynigir gwasanaethau unigol a bwndeli ar eu cyfer a'r hyn y mae cwsmeriaid yn ei dalu am y gwasanaethau hyn. Mae hefyd yn edrych ar fforddadwyedd, dyled ac ymgysylltu â defnyddwyr.

Adroddiad 2023

Pricing trends for communications services in the UK (PDF, 3.4 MB)

Tueddiadau prisio ar gyfer gwasanaethau cyfathrebu yn y DU (PDF, 874.4 KB)

Pricing trends for communications services in the UK: interactive report

Blynyddoedd blaenorol

Tueddiadau prisio gwasanaethau cyfathrebu

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar dueddiadau prisio ar gyfer gwasanaethau ffôn, band eang a theledu preswyl yn y DU. Mae’n ymchwilio i brisiau’r gwasanaethau unigol ac wedi'u bwndelu  a’r hyn mae defnyddwyr yn ei dalu amdanynt.

Hefyd, mae'n cynnwys canlyniadau ein hymchwil ymgysylltu â defnyddwyr, a fu'n edrych ar y rhesymau pam nad yw defnyddwyr efallai’n ymgysylltu â'r farchnad.

Adroddiad 2022

Tueddiadau prisio ar gyfer gwasanaethau cyfathrebu yn y DU (PDF, 814.2 KB)

Adroddiad 2021

Tueddiadau prisio ar gyfer gwasanaethau cyfathrebu yn y DU (PDF, 1.2 MB)

Adroddiad 2019

Tueddiadau prisio ar gyfer gwasanaethau cyfathrebiadau yn y DU (PDF, 1.2 MB)

Adroddiad 2018

Tueddiadau o ran prisiau gwasanaethau cyfathrebu yn y Deyrnas Unedig (PDF, 239.7 KB)

Adroddiad 2017

Dogfen Ymchwil: Adroddiad ar brisiau - Crynodeb gweithredol  (PDF, 301.1 KB)

Dadansoddiad econometraidd o duedidadau prisio yn y DU

Wrth fonitro a yw'r sector symudol yn parhau i sicrhau canlyniadau ffafriol i ddefnyddwyr sy'n dewis symud neu fabwysiadu cynlluniau tariff newydd, mae safbwyntiau gwrthgyferbyniol ar dueddiadau prisio gwasanaethau symudol diweddar yn y DU. Mae asesu tueddiadau mewn prisiau symudol yn dasg gymhleth oherwydd gradd gwahaniaethu mewn tariffau a gynigir gan weithredwyr symudol. Gall gwahaniaethau prisiau rhwng gweithredwyr symudol neu rhwng tariffau gwahanol o'r un gweithredwr adlewyrchu gwahaniaethau yn nodweddion y tariff neu'r set llaw.

Mae'r ddogfen hon yn nodi ein dadansoddiad o dueddiadau prisio symudol yn y DU ar gyfer tariffau a oedd ar gael rhwng 2013 a 2017. O ystyried yr anawsterau gyda chymharu contractau symudol yn uniongyrchol, rydym wedi mabwysiadu ymagwedd econometreg sy'n rheoli ar gyfer y gwahanol elfennau o dariffau sydd ar gael, a'u setiau llaw cysylltiedig. Mae hyn yn ein galluogi i nodi tueddiadau prisio sylfaenol defnyddwyr sy'n dewis symud neu fabwysiadu cynlluniau tariff newydd. Nid yw'n cynnwys tariffau a gafodd eu tynnu o'r farchnad cyn y cyfnod hwn (y mae defnyddwyr efallai wedi aros arnynt).

An econometric analysis of pricing trends in the UK (PDF, 896.7 KB) 19 October 2018 (Saesneg yn unig)