Cynnwys ar-lein a ddefnyddir wrth gyflawni twyll – argaeledd trwy wasanaethau chwilio

18 Medi 2023

Cynhaliodd Ofcom ymchwil i archwilio a ellid dod o hyd i gynnwys ar-lein yn ymwneud â cyflawni twyll - fel gwefannau sy'n honni eu bod yn cyflenwi manylion cardiau credyd wedi'u dwyn – gan ddefnyddio peiriannau chwilio mwyaf y DU. Yn ogystal â phennu a ellid dod o hyd i'r fath gynnwys o gwbl, ceisiodd y gwaith hwn ddarparu gwell dealltwriaeth o ba mor gyffredin yr oedd, ac a oedd swyddogaethau peiriannau chwilio'n cyfeirio defnyddwyr at y math hwn o gynnwys wrth chwilio amdano, a sut.

Mae'r gwaith hwn yn cyfrannu at sylfaen dystiolaeth gynyddol Ofcom ar y risg bosibl o niwed ar draws ystod eang o feysydd a throseddau penodol sy'n ddarostyngedig i'r Bil Diogelwch Ar-lein.

Ni ddylid ystyried bod y canfyddiadau'n adlewyrchu unrhyw safbwynt polisi terfynol y gallai Ofcom ei fabwysiadu pan fyddwn yn ymgymryd â'n rôl fel y rheoleiddiwr diogelwch ar-lein.

Adroddiad

Cynnwys ar-lein a ddefnyddir wrth gyflawni twyll – argaeledd trwy wasanaethau chwilio (PDF, 168.8 KB)