Ymosodiad Buffalo: Heriau a chyfleoedd o ran diogelwch ar-lein

12 Hydref 2022

Ar 14 Mai 2022, cafwyd ymosodiad yn ninas Buffalo, Efrog Newydd, a arweiniodd at farwolaeth deg o unigolion gan adael tri arall wedi’u hanafu. Cafodd yr ymosodiad ei ffrydio’n fyw ar-lein a chafodd fersiynau o’r fideo eu dosbarthu ar nifer o wasanaethau ar-lein, gan adael defnyddwyr y DU yn agored i gynnwys yn ymwneud â therfysgaeth.

Fel rheoleiddiwr llwyfannau rhannu fideos (VSPs) sydd wedi'u lleoli yn y DU yn ogystal â darpar reoleiddiwr Diogelwch Ar-lein y DU, roeddem wedi ceisio dysgu o’r digwyddiad trasig drwy adolygu ymatebion y diwydiant i’r ymosodiadau byw a’r cydweithredu sy’n bodoli ar draws y diwydiant i atal lledaenu cynnwys cysylltiedig.

Ymosodiad Buffalo: Heriau a chyfleoedd o ran diogelwch ar-lein (PDF, 159.5 KB)