Mae Ofcom yn rheoleiddio cynnwys golygyddol (rhaglenni) ar wasanaethau ‘fideo ar-alwad’ yn y DU. Ein hen gyd-reoleiddiwr, yr Awdurdod Teledu Ar-Alwad, oedd yn arwain ar hyn.
Mae gwasanaethau fideo ar-alwad yn cynnwys gwasanaethau dal i fyny teledu a ffilmiau ar-lein. Nid oes ots ar ba lwyfan y caiff y gwasanaethau ar-alwad hyn eu darparu, felly mae'n bosibl fod gwasanaethau ar setiau teledu cysylltiedig, apiau ar ffonau symudol a rhaglenni rydych chi'n eu gwylio drwy focsys pen-set i gyd yn cael eu rheoleiddio.
Mae'r ffordd y mae Ofcom yn rheoleiddio BBC iPlayer yn wahanol i wasanaethau fideo ar-alwad eraill. Cwyno am rywbeth rydych wedi’i weld ar BBC iPlayer.
Mae modd i chi weld rhestr o'r gwasanaethau rhaglenni fideo ar-alwad (PDF, 343.3KB) rydyn ni'n eu rheoleiddio. Nid yw Ofcom yn rheoleiddio gwasanaethau radio ar-alwad.
Rhaid i wasanaethau rhaglenni ar-alwad sy’n cael eu rheoleiddio sicrhau'r canlynol:
Diogelu'r rhai dan 18 oed:
Cymhelliant i gasineb:
Cyfeiriadau masnachol mewn rhaglenni:
Os oes gennych chi gŵyn am gynnwys golygyddol (hy rhaglenni) ar wasanaeth rhaglenni fideo ar-alwad sy’n cael ei reoleiddio, cysylltwch â darparwr y gwasanaeth ar-alwad. Rydyn ni wedi llunio rhestr o’r rhain a sut mae cysylltu â nhw (PDF, 343.3KB). Os ydych chi’n anfodlon ar yr ymateb a gewch chi, neu os na allwch chi ddod o hyd i’r darparwr gwasanaeth fideo ar-alwad ar y rhestr, cewch gwyno wrth Ofcom drwy ddefnyddio ein ffurflen gwyno gwasanaeth rhaglenni ar-alwad.
Mae rheolau ynghylch pa hysbysebion y gallwch eu gweld wrth wylio rhaglen fideo ar-alwad hefyd. Mae'n rhaid i'r math hwn o hysbysebu gadw at y rheolau canlynol:
Os oes gennych chi gŵyn ynglŷn â hysbyseb ar wasanaeth fideo ar-alwad sy'n cael ei reoleiddio, dylech gwyno wrth yr Awdurdod Safonau Hysbysebu gan ddefnyddio ei ffurflen gwyno ar-lein neu ffonio 020 7492 2222.
Yn ogystal â rheolau ynghylch y rhaglenni a'r hysbysebion y mae darparwyr gwasanaethau yn eu dangos, mae rheolau ynghylch sut gall darparwyr gwasanaethau weithredu