Trwyddedigion teledu a radio
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu Gweithdrefnau Ofcom ar gyfer delio â chwynion a datrys cwynion (neu ar gyfer cynnal ei ymchwiliadau ei hun) ynghylch cydymffurfiad darlledwyr1 â'r safonau cynnwys sydd wedi cael eu gosod o dan adran 319 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (“Deddf 2003”). Daw’r Gweithdrefnau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.3
Gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i dorri safonau cynnwys ar gyfer teledu a radio (PDF, 231.1 KB)
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r Gweithdrefnau er mwyn i Ofcom ystyried a dyfarnu ynghylch cwynion sy’n ymwneud â Thegwch a Phreifatrwydd mewn perthynas â rhaglenni sy’n cael eu darlledu ar y teledu ac ar y radio, a chydymffurfiad darlledwyr â “chod tegwch” Ofcom dan adran 107 o Ddeddf Darlledu 1996 (fel y’i diwygiwyd), (“Deddf 1996”) gweler y “fframwaith statudol” isod. Daw’r Gweithdrefnau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.
Gweithdrefnau ar gyfer ystyried a dyfarnu ynghylch cwynion Tegwch a Phreifatrwydd (PDF, 236.4 KB)
Mae Ofcom wedi cynhyrchu gweithdrefnau penodol sy’n berthnasol i ymchwiliadau i achosion posibl o dorri categorïau penodol o ofynion rheoleiddiol nad ydynt yn dod o dan y gweithdrefnau isod.
Categori gofyniad rheoleiddiol | Gweithdrefn benodol |
Amcanion safonau cynnwys a nodir o dan adran 319 o Ddeddf 2003 ac sydd yng Nghod Darlledu Ofcom a chodau eraill. | Gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i dorri safonau cynnwys ar gyfer teledu a radio. |
Gofynion tegwch a/neu breifatrwydd a nodir o dan Ran 5 o Ddeddf 1996 ac sydd yng Nghod Darlledu Ofcom. | Gweithdrefnau ar gyfer ystyried a dyfarnu ynghylch cwynion Tegwch a Phreifatrwydd. |
Amodau trwydded a chodau perthnasol i sicrhau cystadleuaeth deg ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau darlledu. | Gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i achosion o dorri amodau sy’n ymwneud â chystadleuaeth mewn trwyddedau Deddf Darlledu; Cyngor i’r rheini sy’n cwyno: cyflwyno cwyn i Ofcom. |
Y gweithdrefnau cyffredinol a nodir yn y ddogfen hon ydy’r rheini y bydd Ofcom fel rheol yn eu dilyn er mwyn ymchwilio i weld a dorrwyd “gofyniad perthnasol” (fel y nodir ym mharagraff 1.13 isod), cyn bod modd cymryd unrhyw gamau dan y Gweithdrefnau ar gyfer ystyried sancsiynau statudol mewn achosion o dorri amodau trwyddedau darlledu (“y gweithdrefnau sancsiynau”).
Caiff Ofcom lansio ymchwiliadau ei hun yn ogystal ag ymchwilio i gwynion sydd wedi cael eu gwneud gan bobl eraill. Mae’r Gweithdrefnau Cyffredinol mewn ymchwiliad sy’n cael ei arwain gan gŵyn ac ymchwiliad sydd wedi’i gychwyn gan Ofcom yr un fath.
Mae’r Gweithdrefnau Cyffredinol a nodir yn y ddogfen hon yn dod i rym ar 3 Ebrill 2017. Gall y rhain gael eu hadolygu a'u newid ar unrhyw adeg.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r Gweithdrefnau y bydd Ofcom fel rheol yn eu dilyn wrth ystyried penderfynu ar sancsiwn yn erbyn darlledwyr am dorri unrhyw un o ofynion eu trwydded (ac eithrio torri amodau sy’n ymwneud â chystadleuaeth mewn trwyddedau Deddf Darlledu); neu yn achos S4C, nad oes ganddynt drwydded, unrhyw ofyniad gorfodadwy perthnasol (gweler paragraff 1.11 isod). Yn y ddogfen hon, cyfeirir at yr holl ofynion hyn fel “gofyniad perthnasol”. Daw’r Gweithdrefnau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.
Mae'r cynnwys hwn yn Saesneg yn unig.
These Guidelines set out how Ofcom will investigate compliance with and approach enforcement of competition-related conditions in Broadcasting Act licences.
Gweithdrefnau'r BBC
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu Gweithdrefnau Ofcom ar gyfer delio â chwynion a datrys cwynion (neu ar gyfer cynnal ei ymchwiliadau ei hun) am gydymffurfiad y BBC â'r safonau cynnwys sydd wedi cael eu gosod o dan adran 319 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (“Deddf 2003”) a Siarter a Chytundeb y BBC. Daw’r Gweithdrefnau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r Gweithdrefnau y bydd Ofcom fel rheol yn eu dilyn wrth ystyried penderfynu ynghylch sancsiwn yn erbyn y BBC mewn perthynas â thorri safonau cynnwys (gan gynnwys mewn perthynas â Thegwch a Phreifatrwydd) ar Wasanaethau Darlledu Cyhoeddus yn y DU (“gwasanaethau darlledu’r BBC”) a Gwasanaethau Rhaglenni Ar Alwad Cyhoeddus yn y DU (“gwasanaethau rhaglenni ar alwad”) a ddarperir gan y BBC. Daw’r Gweithdrefnau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r Gweithdrefnau y bydd Ofcom yn eu defnyddio i ystyried a dyfarnu ynghylch cwynion sy’n ymwneud â Thegwch a Phreifatrwydd mewn perthynas â chydymffurfiad y BBC â “chod tegwch” Ofcom sydd wedi'i osod o dan adran 107 o Ddeddf Darlledu 1996 (“Deddf 1996”) a Siarter a Chytundeb y BBC. Daw’r Gweithdrefnau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.
Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.
This document sets out our procedures for investigating:
Mae'r cynnwys isod yn Saesneg yn unig.
This document sets out how Ofcom enforces compliance with the competition requirements by the BBC.
Procedures for enforcement of BBC competition requirements (PDF, 188.2 KB)
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r gweithdrefnau y bydd Ofcom yn eu dilyn fel arfer wrth ymdrin â chwynion am safonau golygyddol deunydd ar-lein y BBC.
Gweithdrefnau ar gyfer trin cwynion safonau golygyddol deunydd ar-lein y BBC
Darparwyr Gwasanaethau Ar-Alwad
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu Gweithdrefnau Ofcom er mwyn trin a datrys cwynion (neu gynnal ei ymchwiliadau ei hun) am achosion posibl o dorri rheolau sy’n berthnasol i wasanaethau rhaglenni ar-alwad gan ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alwad. Daw’r Gweithdrefnau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r gweithdrefnau bydd Ofcom fel rheol yn eu dilyn wrth ystyried penderfynu ar sancsiwn yn erbyn darparwr gwasanaeth rhaglenni ar-alwad am fynd yn groes i un (neu ragor) o’r gofynion a roddwyd arnynt o dan Ran 4A o Ddeddf Cyfathrebiadau 20032 (y “Ddeddf”). Yn y ddogfen hon, cyfeirir at y gofynion hyn fel “gofyniad perthnasol."