Mae cwmnïaeth AI yn cyfeirio at y gweithgaredd o ymgysylltu â systemau AI ar gyfer sgwrsio mewn rhyngweithiadau parhaus, tebyg i ryngweithio dynol, a gall profiad defnyddwyr deimlo’n ystyrlon yn emosiynol.
Mae nifer cynyddol o ddefnyddwyr yn y DU yn ymgysylltu â sgwrsfotiau AI at ddibenion cwmnïaeth. Yn y papur trafod hwn, rydym yn amlinellu golwg archwiliadol ar gwmnïaeth AI, y mathau o sgwrsfotiau y mae defnyddwyr ar-lein yn cael mynediad at gwmniaeth AI, a theipoleg pedair rhan o weithgareddau cwmnïaeth AI. Mae hyn yn cynnwys iechyd meddwl a chymorth emosiynol; meithrin perthnasoedd; ceisio cyngor; ar gyfer adloniant, chwarae rôl neu ddianc rhag realiti. Gall defnyddwyr symud rhwng y gweithgareddau hyn dros amser neu o fewn un rhyngweithiad. Mae'r papur trafod hwn hefyd yn cynnwys canfyddiadau dau arolwg newydd gan Ofcom, sy'n archwilio defnydd oedolion a phlant o sgwrsfotiau AI ac apiau cyfaill, a’u hagweddau tuag atynt.
Mae'r papur hwn hefyd yn edrych yn fanylach ar y prif gydrannau technegol sy'n sail i sgwrsfotiau cyfaill AI ac yn eu galluogi i gynhyrchu ymatebion a all deimlo'n sgwrsiol, wedi'u personoli ac yn agos at fod yn ddynol. Mae hefyd yn archwilio'r manteision canfyddedig a'r risgiau sy'n dod i'r amlwg o gwmnïaeth AI a'i heffeithiau ar ddefnyddwyr, yn ogystal â'r mesurau diogelu y gallai datblygwyr cyfeillion AI ac eraill eu rhoi ar waith i ddiogelu defnyddwyr rhag niwed. Lle mae rhai gwasanaethau cyfaill AI eisoes o fewn cwmpas y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, mae hyn yn cynnwys mabwysiadu rhai o'r mesurau sydd eisoes wedi'u nodi yn ein Codau Ymarfer.
Bydd cyfaill AI yn parhau i fod yn bwnc sy’n destun diddordeb a chraffu parhaus gan Ofcom. Bydd mewnwelediadau'r papur yn llywio unrhyw ganllawiau y byddwn yn eu llunio yn y dyfodol, a fyddai'n berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau cyfaill AI sy’n dod o fewn cwmpas ein cylch gwaith.
Bwriedir i bapurau trafod daflu goleuni ar faterion newydd ac arferion gorau. Nid yw'r papur trafod hwn yn gyfystyr â chanllawiau ffurfiol nac yn safbwynt polisi swyddogol ar wasanaethau AI. Nid yw'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau AI gymryd unrhyw gamau penodol, ac nid yw ychwaith yn cymryd safbwynt ynghylch a yw sgwrsfotiau penodol yn wasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr, chwilio neu bornograffig a reolir yng nghyd-destun y Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023.