
Cristina Luna-Esteban - Cyfarwyddwr Defnyddwyr a Marchnadoedd Manwerthu Ofcom
Mae'n anodd dychmygu bywyd modern heb fand eang a ffonau symudol. Rydym yn dibynnu ar y gwasanaethau hyn bob dydd, felly mae'n bwysig bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg wrth ddelio â'u darparwr. Gallai hynny fod wrth gofrestru ar gyfer bargen newydd, newid darparwr neu gael cymorth os aiff rhywbeth o'i le.
Mae gennym set o reolau ac amddiffyniadau ar waith. Ac er bod rheolau clir yn bwysig, dim ond os ydynt yn gweithio’n ymarferol y maent yn gwneud gwahaniaeth.
Mae hynny'n golygu bod angen inni gadw llygad barcud ar sut mae darparwyr yn trin eu cwsmeriaid ac ymyrryd pan fydd darparwyr yn methu â chyrraedd y safonau yr ydym yn eu disgwyl. Er ein bod wedi gweld gostyngiad parhaus mewn cwynion telathrebu i Ofcom yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym yn gwybod na allwn fod yn hunanfodlon. Yn enwedig gan fod llawer o aelwydydd yn parhau i wynebu pwysau ariannol.
Ac wrth i'r farchnad esblygu, mae angen i'n dull ni gadw i fyny. Mae cwsmeriaid bellach yn derbyn gwasanaethau telathrebu gan gymysgedd eang o gwmnïau mawr sefydledig, darparwyr llai a newydd-ddyfodiaid, gan ddefnyddio technolegau sy'n amrywio o rwydweithiau sefydlog copr a ffibr llawn, i ffonau symudol a lloeren. Ond ni ddylai gwahaniaethau yn y ffordd y darperir gwasanaethau olygu gwahaniaethau yn y diogelwch y mae cwsmeriaid yn ei dderbyn.
Rydym wedi dwysáu ein rhaglen goruchwylio telathrebu defnyddwyr yn ystod y misoedd diwethaf, gan adnewyddu'r ffordd yr ydym yn goruchwylio cydymffurfiaeth ar draws y farchnad. Rydym yn ymgysylltu ag ystod ehangach o ddarparwyr, gan gynnwys darparwyr newydd, yn ogystal â grwpiau defnyddwyr i ddeall y problemau maent yn eu gweld a phrofiadau'r bobl y maent yn eu cefnogi.
Rydym hefyd yn datblygu offer newydd i gryfhau'r ffordd yr ydym yn monitro cwynion ac yn nodi tueddiadau sy'n dod i'r amlwg. Mae dod â'r wybodaeth hon ynghyd â'n monitro ac ymgysylltu uniongyrchol yn ein helpu i nodi problemau a chymryd camau gweithredu lle bo angen.
Mae ein gwaith goruchwylio yn arwain at newidiadau cadarnhaol i gwsmeriaid. Wrth edrych yn ôl dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi:
- Sicrhau bod cwsmeriaid yn cael gwybodaeth glir a chywir am gynnydd mewn prisiau mewn contract ac unrhyw newidiadau sy'n effeithio arnynt. Llynedd gwnaethom gymryd camau gweithredu ar ôl i O2 gynyddu prisiau’n annisgwyl ar gyfer cwsmeriaid symudol a oedd dal mewn contract. Gwnaethom sicrhau ei fod yn cywiro, ac yn gwneud gwybodaeth yn gliriach am hawl cwsmer i adael ar ei wefan ac wrth newid negeseuon fel y gallai cwsmeriaid wneud penderfyniadau gwybodus, ac yn unioni achosion lle codwyd tâl anghywir ar gwsmeriaid am adael yn dilyn y cynnydd mewn prisiau.
- Gwella sut mae darparwyr yn ymdrin â chwynion. Gwnaethom weithio gyda 10 o ddarparwyr i wella gwybodaeth trin cwynion i gwsmeriaid a sut maent yn nodi, yn olrhain ac yn cofnodi cwynion. Arweiniodd hyn at welliannau ystyrlon, gan gynnwys ei gwneud yn haws i gwsmeriaid godi cwyn a deall beth sy'n digwydd nesaf; darparwyr yn cynnig ystod ehangach o ffyrdd o gofrestru cwyn a chanllawiau gwell i staff ar gydadnabod a chofnodi cwynion.
- Gwneud ffioedd terfynu cynnar yn gliriach ac yn decach. Gwnaethom weithio gyda dau ddarparwr i newid sut maent yn cyfrifo ffioedd terfynu cynnar (ETCs), fel nad yw cwsmeriaid sy'n canslo o fewn y cyfnod contract gofynnol yn cael eu gor-godi. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda saith darparwr arall ar eu dull o ymdrin ag ETCs.
- Sicrhau y gall cwsmeriaid gael cymorth annibynnol pan na ellir datrys cwynion. Trwy ein gwaith gyda darparwyr llai, nodwyd 5 cwmni nad oeddent wedi cofrestru ar gyfer gynllun Datrys Anghydfodau Amgen ond, yn dilyn ein hymyrraeth, maent i gyd bellach wedi cofrestru. O ganlyniad, mae gan eu cwsmeriaid fynediad at asesiad annibynnol o gŵynion heb eu datrys. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda dau ddarparwr arall i wella'r ffordd y maent yn dweud wrth gwsmeriaid am eu hawl i ddefnyddio’r cynllun ADR, i sicrhau bod darparwyr yn cydymffurfio â rheolau diwygiedig Ofcom sy'n galluogi cwsmeriaid i uwchgyfeirio cwynion i gynlluniau ADR yn gynt, mewn chwe wythnos yn hytrach nag wyth wythnos.
- Gwell cymorth i gwsmeriaid mewn amgylchiadau bregus. Ers haf 2025, rydym wedi sicrhau gwelliannau i'r wybodaeth a ddarperir ar wefannau 15 o ddarparwr ynghylch sut maent yn cefnogi cwsmeriaid bregus. Mae'r newidiadau'n cynnwys cyhoeddi neu gryfhau polisïau bregusrwydd, eu gwneud yn haws i'w canfod, a gwella gwybodaeth am wasanaethau, fel fformatau hygyrch, atgyweirio namau blaenoriaeth, gwasanaethau cyfnewid a rheoli biliau trydydd parti.
- Atal ychwanegion yn awtomatig yn ystod gwerthiannau ar-lein. Gwnaethom atal dau ddarparwr llai rhag dewis ychwanegion ymlaen llaw'n awtomatig, fel meddalwedd gwrthfeirws a sicrwydd cynnyrch, yn ystod y broses werthu ar-lein, gan helpu cwsmeriaid i fod yn glir ynghylch yr hyn y maent yn cofrestru ar ei gyfer.
Nid defnyddwyr unigol yn unig sy'n elwa o'r gwaith hwn. Mae ein rhaglen oruchwylio hefyd yn cwmpasu busnesau bach gyda 10 neu lai o weithwyr, sy'n aml yn defnyddio ac yn ymgysylltu â gwasanaethau cyfathrebu yn fwy fel unigolion na busnesau mawr. Ar hyn o bryd rydym yn sicrhau gwelliannau gan ddarparwr sy'n gwasanaethu cwsmeriaid busnesau bach, er mwyn darparu gwybodaeth glir am brisiau a sicrhau cydymffurfiaeth â'n rheolau ynghylch hyd gontractau ac adnewyddu.
Mae ein gwaith goruchwylio yn seiliedig ar y gred y gall deallusrwydd mwy craff, cydweithio agos â grwpiau defnyddwyr a chynnal deialog agored â'r diwydiant ddatrys llawer o broblemau cwsmeriaid bob dydd heb ymchwiliadau hir. Mae hynny'n ganlyniad gwell i gwsmeriaid a chwmnïau fel ei gilydd.
Ond lle nad yw ymgysylltiad cychwynnol yn arwain at newid digonol, gallwn gymryd camau gorfodi ffurfiol, fel y dangoswyd yn ddiweddar gyda Virgin Media: roedd gennym bryderon am gwsmeriaid yn ei chael hi’n anodd canslo eu gwasanaethau band eang a, phan na welsom welliannau digonol yn ystod ein hymgysylltiad cychwynnol, gwnaethom agor ymchwiliad ffurfiol. O ganlyniad, ym mis Gorffennaf 2026, gwnaethom roi dirwy o £28 miliwn i Virgin Media.
Mae ein gwaith goruchwylio a pholisi defnyddwyr hefyd yn helpu cwsmeriaid drwy heriau costau byw
Ar adeg pan fo cyllidebau yn parhau i fod dan bwysau, mae'n bwysig i bobl fod yn chwilio am y cynigion gorau sydd ar gael pan ddaw eu contract i ben. Rydym wedi canfod y gall pobl wneud arbedion mawr, boed trwy ddiweddaru contract yn hytrach na pharhau allan o gontract, neu drwy newid i ddarparwr arall. Er enghraifft, mae ein hymchwil yn awgrymu, y gallai llawer o gwsmeriaid allan o gontract band eang, llinell dir a theledu-trwy-talu arbed mwy na £100 y flwyddyn drwy newid darparwr.
Mae helpu cwsmeriaid i ddeall ble y gallent arbed arian yn flaenoriaeth bwysig i ni. Mae ein Hwb Defnyddwyr newydd wedi'i gynllunio i wneud y wybodaeth honno'n haws i'w chanfod a'i deall. Mae’n cynnig cyngor ymarferol ar sut i gael bargen well ac arbed arian, yn ogystal â chymorth pan fydd pethau'n mynd o'i le, gan gynnwys problemau gwasanaeth cyffredin a sut i wneud cwyn.
Er mwyn cefnogi pobl ar incwm isel, rydym wedi cynyddu ein ffocws ar dariffau cymdeithasol band eang, gan bwyso ar ddarparwyr i'w gwneud yn haws i gwsmeriaid cymwys ddod o hyd a chofrestru iddynt. Mae'r newidiadau rydym wedi'u sicrhau yn cynnwys cyfeirio gwell at dariffau cymdeithasol ar eu gwefannau; gwell gwelededd o wybodaeth allweddol gan gynnwys prisiau; a phrosesau ymgeisio symlach a mwy cynhwysol, er enghraifft drwy ddileu'r angen am alwadau ffôn dilynol. Mae un darparwr hefyd wedi dileu taliadau terfyn cynnar (ETCs) ar gyfer cwsmeriaid sy'n symud i dariff cymdeithasol.
Rydym wedi amlinellu ein gwaith ar dariffau cymdeithasol mewn llythyr at y Llywodraeth, gan gynnwys y cynnydd rydym wedi'i gyflawni sicrhau drwy'r dull gwirfoddol presennol. Rydym hefyd yn nodi bod cyfyngiadau ar yr hyn y gall dull gwirfoddol ei gyflawni a'n bod yn barod i weithio gyda'r Llywodraeth i ystyried a oes angen camau pellach i helpu sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at fand eang fforddiadwy.
Rydym hefyd yn gwybod, pan fydd cyfnodau’n anodd, y gall pobl ei chael hi’n anodd talu biliau a syrthio i ddyled. Rydym yn poeni am sut y caiff pobl eu trin pan fyddant yn methu â gwneud taliadau ar amser, ac felly rydym yn gweithio i sicrhau bod cwsmeriaid sydd mewn ôl-ddyledion yn cael eu trin yn deg.
Yn ei hanfod, nod ein gwaith yw sicrhau bod cwsmeriaid yn cael canlyniadau da - rhywbeth sy'n bwysicach fyth pan fydd pobl angen cymorth gyda chostau byw Dylai pobl allu dibynnu ar eu darparwyr band eang a symudol i roi gwybodaeth glir a dewisiadau iddynt, dylent allu ymddiried y cânt eu trin yn deg, a’u bod yn gallu cael cymorth ychwanegol pan fydd ei angen arnynt.
Byddwn yn parhau i fonitro a yw darparwyr yn cyflawni'r canlyniadau i gwsmeriaid yr ydym am eu gweld, ac yn eu dwyn i pan fyddant yn methu â gwneud hynny.
Cynnwys cysylltiedig