Kid on phone HERO

Mae wyth o bob 10 o blant yn y DU bellach yn defnyddio sgwrsfotiau AI o gymharu â dau o bob tri oedolyn

Cyhoeddwyd: 24 Tachwedd 2026
  • Mae ymchwil newydd gan Ofcom yn datgelu bod 81% o unigolion 8-17 oed yn y DU yn dweud eu bod wedi defnyddio sgwrsfotiau AI yn ystod y chwe mis diwethaf, o gymharu â 64% o oedolion y DU
  • Mae 35% o blant sy'n defnyddio sgwrsfotiau AI yn dweud eu bod yn eu defnyddio bob dydd, gyda mwy na hanner yn eu defnyddio ar gyfer hobïau neu waith cartref
  • Mae 9% o ddefnyddwyr 8-17 oed wedi troi atynt am gwmni neu er mwyn cael rhywun i siarad â nhw
  • Mae 12% o oedolion sy’n defnyddio sgwrsfotiau yn dweud eu bod wedi rhyngweithio â chymeriad AI, gyda hanner o'r rhain yn teimlo bod ganddynt gysylltiad emosiynol â nhw
  • Mae 12% o oedolion sy’n defnyddio sgwrsfotiau yn dweud eu bod wedi'u defnyddio ar gyfer cyngor ar berthnasau a chyngor personol, 8% ar gyfer cymorth iechyd meddwl neu les emosiynol, ac mae 25% wedi ceisio cyngor meddygol

Mae pobl ifanc ar y blaen o ran mabwysiadu’r defnydd o sgwrsfotiau AI yn y DU, gyda phlant ac oedolion ill dau yn troi atynt am gwmni, yn ôl ymchwil newydd Ofcom. 

Daw cyhoeddiad Ofcom o'i bapur trafod ar gwmniaeth AI, ynghyd ag arolygon data newydd o ddefnydd oedolion a phlant y DU o sgwrsfotiau AI ac apiau cwmnïaeth, wrth i'r Llywodraeth gynllunio i gryfhau’r gwaith o reoleiddio sgwrsfotiau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. [1]

Sut mae plant ac oedolion yn defnyddio sgwrsfotiau

Yn ôl ein harolwg o blant 8-17 oed y DU sy'n defnyddio sgwrsfotiau:

  • Mae 35% yn dweud eu bod yn eu defnyddio bob dydd, tra bod 82% yn dweud eu bod yn eu defnyddio o leiaf bob wythnos;
  • Mae 54% yn dweud eu bod yn eu defnyddio i ateb cwestiynau neu archwilio diddordebau;
  • Mae 53% yn dweud eu bod yn eu defnyddio ar gyfer gwaith ysgol neu waith cartref; ac
  • Mae 35% o bobl ifanc 13-17 oed sy'n defnyddio sgwrsfotiau yn dweud eu bod wedi chwarae rôl gyda sgwrsfot.

Ymhlith y plant hynny sy'n dweud eu bod yn defnyddio sgwrsfotiau am gyngor neu er mwyn cael rhywun i siarad â nhw (48%), mae tri o bob deg (29%) yn dweud eu bod yn troi atynt am eu bod bob amser ar gael neu'n ymateb yn gyflymach na ffrindiau.

Ac ymhlith oedolion y DU sy'n defnyddio sgwrsfotiau:

  • Mae 8% yn dweud eu bod wedi defnyddio sgwrsfotiau at ddibenion iechyd meddwl neu les;
  • Mae 12% yn dweud eu bod wedi'u defnyddio ar gyfer cyngor personol, fel cymorth gyda pherthynas;
  • Mae 25% yn dweud eu bod wedi'u defnyddio i chwilio am gyngor meddygol;
  • Mae 12% yn dweud eu bod wedi rhyngweithio â chymeriadau a gynhyrchwyd gan AI.

Ymhlith yr oedolion sy'n defnyddio sgwrsfotiau ar gyfer gwahanol fathau o gyngor neu er mwyn cael rhywun i siarad â nhw (50%), mae chwarter yn dweud eu bod yn gwneud hynny oherwydd bod y dechnoleg yn ymateb yn gyflymach na ffrindiau.

Beth yw barn rhieni ar ddefnydd plant o sgwrsfotiau AI

Dangosodd canlyniadau ein harolwg fod y rhan fwyaf o rieni'n teimlo'n wybodus am ddefnydd AI eu plentyn. Mae tri chwarter y rhieni i blant sy’n ddefnyddwyr sgwrsfotiau (76%) yn dweud eu bod yn teimlo'n hyderus eu bod yn gwybod at beth y mae eu plentyn yn defnyddio sgwtsfotiau AI, gyda 68% yn meddwl bod eu plentyn yn eu defnyddio mewn ffordd debyg i beiriant chwilio traddodiadol.

Mae tua saith o bob 10 (68%) o rieni ar y cyfan yn dweud eu bod yn deall sut mae sgwrsfotiau AI yn gweithio, tra bod 72% o rieni i blant sy’n defnyddio sgwrsfotiau yn credu bod eu plentyn yn ymwybodol o gyfyngiadau ac anfanteision sgwrsfotiau. 

Mae tua wyth o bob 10 o rieni i blant sy’n defnyddio sgwrsfotiau  yn dweud eu bod yn gwerthfawrogi sgwrsfotiau AI sy'n helpu plant i ddysgu pethau newydd (85%), yn cefnogi gwaith ysgol a gwaith cartref (78%), yn annog dysgu annibynnol neu ddatrys problemau (77%), ac yn helpu plant i drefnu, cynllunio neu reoli tasgau (76%).

Fodd bynnag, mae tua hanner y rhieni i blant sy’n defnyddio sgwrsfotiau (49%) yn dweud eu bod yn poeni y gallai plant ddod yn ddiog neu ddirprwyo’r gallu i feddwl a dod o hyd i  atebion i sgwrsfotiau, tra bod bron i bedwar o bob deg (38%) yn credu efallai na fydd plant yn dysgu'n iawn neu'n gwneud digon o ymchwil annibynnol os ydynt yn dibynnu ar AI.

Dyfodiad cyfeillion AI

Mae ein hymchwil i gyfeillion AI yn awgrymu bod nifer cynyddol o bobl yn y DU yn defnyddio sgwrsfotiau at ddibenion cwmnïaeth, drwy offer AI pwrpas-cyffredinol a sgwrsfotiau sydd wedi'u cynllunio'n benodol fel cwmni i gefnogi sgyrsiau sy'n seiliedig ar gymeriadau neu chwarae rôl. Mae'n ymddangos bod pobl iau yn ymgysylltu mwy â chyfeillion  AI ac yn amlach na grwpiau oedran hŷn.

Gall cyfaill AI gynnig llawer o fanteision i ddefnyddwyr – o gyngor i gymorth iechyd meddwl. Fodd bynnag, mae risgiau difrifol yn gysylltiedig â nhw; er enghraifft, gallant gynhyrchu cynnwys niweidiol fel cynnwys anhwylderau bwyta a chynnwys hunanladdiad. Gallant hefyd gael eu dylunio mewn ffordd sy’n annog gorddefnydd ohonynt, gan fod rhyngweithio gormod â chyfaill AI yn gallu ystumio canfyddiadau defnyddwyr o realiti.

Mae ein hadroddiad yn archwilio sut y gall dyluniad technegol cyfeillion AI eu galluogi i gynhyrchu allbynnau sy'n teimlo fel sgwrs naturiol, bersonol ac yn debyg i berthynas. Yn ôl dadansoddiad Ofcom,  y tybycaf i fod dynol y mae sgwrsfot yn ymddangos i ddefnyddwyr, y mwyaf tebygol yw defnyddwyr o ymgysylltu â'r system. Ar yr un pryd, po hiraf y mae oedolion yn ymgysylltu â sgwrsfotiau AI, y mwyaf tebygol ydynt o ystyried eu bod yn debyg i bobl.

Sut y mae oedolion yn teimlo am sgwrsfotiau AI

Mae arolwg Ofcom o oedolion y DU yn datgelu bod 12% o oedolion sy’n defnyddio sgwrsfotiau yn dweud eu bod wedi rhyngweithio â chymeriad AI. O'r defnyddwyr hyn, mae hanner yn dweud eu bod yn teimlo cysylltiad emosiynol â nhw, mae 16% yn dweud bod ganddynt gysylltiad emosiynol 'iawn', ac roedd un o bob saith yn dweud eu bod weithiau'n anghofio nad person go iawn oedd y cyfaill AI (14%).

O gymharu â’r holl oedolion yn y DU sy’n defnyddio sgwrsfotiau (23%), roedd oedolion o grwpiau ethnig lleiafrifol (39%) a defnyddwyr iau 18-24 oed (34%) sy’n defnyddio sgwrsfotiau yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan eu sgwrsfotiau. 

Rheoleiddio sgwrsfotiau

Mae rhai sgwrsfotiau AI eisoes wedi'u rheoleiddio o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU. Fodd bynnag, mae rhai sgwrsfotiau ar hyn o bryd y tu allan i'r gyfundrefn – er enghraifft os ydynt ond yn caniatáu i bobl ryngweithio â'r sgwrsfot ei hun neu os nad ydynt yn chwilio sawl gwefan wrth roi ymatebion i ddefnyddwyr.

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cryfhau’r pwerau i reoleiddio sgwrsfotiau, gan gynnwys drwy gyflwyno gwaharddiad ar bobl dan 18 oed rhag cael mynediad at sgwrsfotiau rhywiol a thrwy gyflwyno seibiannau gorfodol i blant wrth ddefnyddio sgwrsfotiau, a allai gynnwys rhai mathau o gyfeillion AI. Mae'r Llywodraeth hefyd yn bwriadu cyflwyno dyletswyddau niwed anghyfreithlon ar ddarparwyr sgwrsfotiau.

Beth sydd nesaf

Byddwn yn parhau i archwilio sut mae oedolion a phlant yn y DU yn defnyddio cyfeillion AI a sgwrsfotiau, a’r manteision y gall y technolegau hyn eu cynnig, yn ogystal â'u risgiau.

Drwy ein gwaith llythrennedd yn y cyfryngau, bydd Ofcom yn parhau i feithrin dealltwriaeth o'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen ar oedolion a phlant ledled y DU i ymgysylltu â gwasanaethau sgwrsfotiau, gan gynnwys sut i werthuso dibynadwyedd cynnwys a gynhyrchir gan AI a gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch pryd a sut i ddefnyddio'r offer hyn.

Dywedodd Andrew Breeze, Cyfarwyddwr Polisi Technoleg Ofcom: "Mae sgwrsfotiau AI yn dod yn rhan gynyddol gyffredin o fywydau digidol pobl. Er bod yr offer hyn yn gallu cynnig profiadau cadarnhaol i ddefnyddwyr, maent hefyd yn gallu peri risgiau.

"Mae'n hanfodol ein bod ni’n deall sut a ble mae plant ac oedolion yn defnyddio'r gwasanaethau hyn, fel y gallwn ni sicrhau bod pawb yn gallu elwa arnynt yn ddiogel a bod y mesurau diogelu priodol ar waith."


Nodiadau i olygyddion

  1. Tyfu i fyny yn y byd ar-lein: ymateb y llywodraeth (Gorffennaf 2026)
  2. Rhwng Awst a Medi 2026, comisiynodd Ofcom ddwy astudiaeth i arolygu amrywiaeth o ddefnyddwyr rhyngrwyd oedolion a phlant ynghylch eu defnydd o sgwrsfotiau AI, a'u profiadau â hwy. Arolygodd yr asiantaethau 2,081 o oedolion GB a 2,004 o blant yn y DU 8-17 oed a'u rhieni, yn y drefn honno.