
Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Podlediadau, dathliad o ffurf gynyddol boblogaidd o gyfryngau sy'n gwneud newidiadau mawr i'r ffordd rydyn ni'n gwrando – ac yn gwylio – ein hoff gynnwys.
Mae ymchwil Ofcom wedi tynnu sylw at ba mor boblogaidd yw podlediadau bellach, yn ogystal â rhoi cipolwg ar sut mae pobl yn y DU yn eu defnyddio, a'r mathau o gynnwys y maent yn eu ffafrio.
Felly, er mwyn nodi'r diwrnod, rydym wedi casglu rhai o ganfyddiadau'n hymchwil diweddaraf, Cyfryngau’r Genedl, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Os hoffech fwy o fanylion gallwch edrych ar yr adroddiad yn llawn.
Poblogrwydd cynyddol podlediadau
Mae poblogrwydd cynyddol podlediadau yn amlwg. Mae nifer sy’n gwrando yn fisol wedi mwy na dyblu ers 2019, o 18% i 39% o bobl - hyd yn oed yn uwch fyth os ystyrir gwylio podlediadau fideo (43%). Hefyd, mae mwy na chwarter (27%) oedolion y DU yn dweud eu bod bellach yn gwrando ar bodlediadau yn wythnosol.
Ar ben hynny, ar adeg pan fo arferion gwrando yn parhau i esblygu, mae’r cyfran amser gwrando sy’n cael ei neilltuo i bodlediadau hefyd wedi mwy na dyblu, o 5% yn 2022 i 11% yn 2026.
Ddegawd yn ôl, ystyriwyd pobl dan 35 oed y rhai o’r cyntaf i fabwysiadu podlediadau, a bellach mae gan bodlediadau gyrhaeddiad uwch na'r cyfartaledd ymhlith pobl 45-54 oed. Mae’r cyrhaeddiad ymhlith gwrandawyr 65+ oed bellach yn 13%. Ac mae gwahaniaeth bach yn ôl rhywedd o ran cyrhaeddiad podlediadau, gyda 29% o ddynion a 24% o fenywod yn gwrando'n wythnosol.
Pa bynciau mae pobl yn eu ffafrio?
Ar gyfer pobl sy'n gwrando ar bodlediadau o leiaf unwaith yr wythnos, y genre mwyaf poblogaidd yw newyddion a materion cyfoes, gyda 47% o'r bobl hyn yn gwrando arnynt. Dilynir hyn gan adloniant (44%), comedi (41%) a rhaglenni sgwrsio a thrafodaethau (40%).
Fodd bynnag, ceir gwahaniaethau clir rhwng grwpiau oedran. Mae genres adloniant a chomedi mwyaf poblogaidd ymhlith pobl ifanc 18-34 oed, tra bod pobl dros 55 oed yn fwy tebygol o wrando ar bodlediadau am newyddion, materion cyfoes a gwleidyddiaeth. Mae gan rai genres dueddiadau cryf yn ôl rhywedd hefyd. Er enghraifft, mae 31% o wrandawyr podlediadau wythnosol yn gwrando ar bodlediadau pêl-droed, ond mae’r ffigwr hwn yn cynyddu i 45% ymhlith dynion a dim ond 14% ymhlith menywod.

Yn nodedig, dangosodd podlediadau eu gwerth yn ystod cyfnod etholiadau llywodraethau lleol a datganoledig 2026 ledled y DU, gyda 15% o bobl yn dweud eu bod wedi derbyn newyddion mewn perthyna sâ'r etholiad drwy'r radio neu bodlediadau.
Mae cyfleustra a dewis yn ffactorau pwysig
Mae pobl yn dweud eu bod yn gwerthfawrogi podlediadau am y cyfleustra a'r dewis maen nhw'n eu cynnig, ac mae rhai gwrandawyr yn dweud y byddent yn hapus i dalu am y manteision hynny. Ar y cyfan, mae 35% yn dweud y byddent yn hapus i dalu i danysgrifio i'w hoff bodlediadau - cyfran sydd wedi aros yn gymharol gyson dros y blynyddoedd diwethaf.
Fodd bynnag, mae hyn yn amrywio’n sylweddol yn ôl oedran, mae bron i hanner (48%) o’r rhai rhwng 16-34 oed yn dweud hyn, o'i gymharu â dim ond 16% o'r rhai dros 55 oed.
Hefyd, mae lleiafrif sylweddol (45%) o wrandawyr podlediadau yn dweud bod gormod o hysbysebion ar y podlediadau maen nhw'n gwrando arnynt - ffigwr sydd wedi cynyddu dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae Podlediadau'n fwy na sain yn unig
Mae podlediadau bellach yn pontio’r ffin rhwng sain a fideo. Gyda dros ddwy ran o dair (68%) o wrandawyr podlediad yn dweud eu bod yn gwrando ar bodlediadau sydd hefyd â fideos, ac mae hyn yn fwy cyffredin ymhlith y grŵp oedran 16-34. Mae lleiafrif mawr o bobl (44%) hefyd yn dweud eu bod wedi gweld podlediadau gyda fideos yn fwy deniadol.
O ran y dyfeisiau a ddefnyddir amlaf ar gyfer podlediadau, ffonau symudol sy'n arwain y ffordd gyda 64% o bobl yn dweud mai dyma'r brif ffordd o'u cyrchu. Mae hyn yn sylweddol fwy na dyfeisiau eraill fel cyfrifiaduron / gliniaduron (13%), setiau teledu (10%), tabledi (8%) ac seinyddion a reolir gan lais (5%).