Datganiad wedi'i gyhoeddi 24 Mehefin 2026
Heddiw, mae Ofcom wedi cwblhau cyfres o argymhellion sydd wedi'u cynllunio i ysgogi camau gweithredu gan blatfformau ar-lein, darlledwyr a gwasanaethau ffrydio i roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar bobl i ymgysylltu'n feirniadol ac yn ddiogel â'r cynnwys maen nhw'n ei weld.
Mae gan Ofcom ddyletswydd statudol i hyrwyddo llythrennedd yn y cyfryngau ac mae ein strategaeth tair blynedd yn amlinellu ein cynlluniau a'n dull o gyflawni'r gwaith hwn. Fel rhan o'r dyletswyddau hyn, mae'n ofynnol i ni gyhoeddi datganiad yn argymell ffyrdd y gallai gwasanaethau ddatblygu, dilyn a gwerthuso gweithgareddau neu fentrau sy'n berthnasol i lythrennedd yn y cyfryngau.
Gan ystyried adborth i'n hymgynghoriad, mae ein 10 argymhelliad terfynol yn nodi gweledigaeth glir, uchelgeisiol ac unedig ar gyfer sut y gall ystod eang o wasanaethau rymuso'r cyhoedd i lywio a ffynnu mewn tirwedd ddigidol sy'n esblygu'n gyflym.
Mae ein hargymhellion, yr ydym yn disgwyl i wasanaethau eu mabwysiadu, wedi'u cynllunio i gyflawni pedwar nod eang:
- Mae gwasanaethau wedi'u cynllunio i roi dewis ystyrlon i bobl o ran sut maen nhw'n ymgysylltu â chynnwys (Argymhellion 1 a 2). Mae hynny'n golygu gwneud dewisiadau dylunio a pholisi cynhwysol o'r cychwyn cyntaf a darparu gwybodaeth dryloyw – gan gynnwys esbonio sut mae systemau argymhellion yn gweithredu – ar adegau allweddol yn nhaith y defnyddiwr.
- Mae pobl yn cael eu grymuso i reoli eu profiad eu hunain yn weithredol (Argymhellion 3 i 6). Dylai gwasanaethau arfogi pobl ag offer ymarferol i reoli a phersonoli eu profiadau ar-lein a'u grymuso gyda'r sgiliau i asesu’n feirniadol hygrededd y cynnwys y maent yn dod ar ei draws. Dylai gwasanaethau hefyd gefnogi rhieni a gofalwyr i arwain defnyddwyr iau mewn ffordd sy'n briodol i'w hoedran ac ymgysylltu â thrydydd partïon i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith eu mentrau llythrennedd yn y cyfryngau.
- Mae gwasanaethau’n cyfrannu at y dirwedd llythrennedd yn y cyfryngau ehangach trwy bartneriaethau ac allgymorth i feithrin ymddiriedaeth (Argymhellion 7 i 9). Dylai gwasanaethau greu a hyrwyddo rhaglenni perthnasol neu fentrau addysgol perthnasol i gefnogi ymgysylltiad beirniadol â chynnwys. Rydym yn disgwyl i blatfformau ymrwymo i fuddsoddiad hirdymor, cynaliadwy mewn ymgyrchoedd, cynnwys a phartneriaethau llythrennedd yn y cyfryngau, gan gynnwys y rhai sy'n targedu cynulleidfaoedd amrywiol a heb eu gwasanaethu.
- Gyrru gwelliant parhaus trwy werthuso parhaus o'r hyn sy'n gweithio (Argymhelliad 10). Dylai gwasanaethau asesu effaith eu dewisiadau dylunio a'u gweithgareddau llythrennedd yn y cyfryngau yn rheolaidd a chyhoeddi eu canfyddiadau, yn ogystal â datganiad blynyddol.
Byddwn yn adrodd ar sut mae gwasanaethau ar-lein a darlledwyr wedi mabwysiadu'r argymhellion, cyn eu diwygio yn 2029.
Prif ddogfennau
Ymatebion
Gwybodaeth cyswllt
Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
Llundain SE1 9HA