Bwletin Gwneud Synnwyr O'r Cyfryngau - Medi 2026

Cyhoeddwyd: 22 Medi 2026

Nodyn golygyddol

Diolch i bawb a rannodd eu diweddariadau ar gyfer rhifyn hwn o fwletin 'Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau'. Rydym wedi darparu manylion cyswllt lle bynnag y bo modd, er mwyn hwyluso cydweithio rhwng aelodau'r rhwydwaith.

I'ch atgoffa - mae'r diweddariadau hyn yn cael eu darparu gan aelodau ein rhwydwaith ac yn adlewyrchu eu barn a'u cyfraniadau unigol. Nid yw eu cynnwys yn awgrymu bod Ofcom yn eu cymeradwyo. 

GWEITHGAREDD OFCOM:

CEFNOGI BATHODYN DEMOCRATIAETH NEWYDD Y SGOWTIAID 

Mae Ofcom yn partneru â'r Sgowtiaid, mudiad ieuenctid mwyaf y DU, i gefnogi lansiad eu bathodyn Democratiaeth newydd. Trwy bedair sesiwn Hyfforddi'r Hyfforddwr ar-lein sy’n cael eu cynnal ym mis Hydref a mis Tachwedd, bydd gwirfoddolwyr Sgowtiaid yn ennill y wybodaeth, yr hyder a'r adnoddau er mwyn arwain trafodaethau a gweithgareddau ar ddemocratiaeth a llythrennedd yn y cyfryngau gyda phobl ifanc. Bydd y rhaglen yn helpu gwirfoddolwyr i rannu’r hyn a ddysgwyd ar draws rhwydwaith ehangach y Sgowtiaid, gan ymestyn ei gyrhaeddiad i gannoedd o filoedd o bobl ifanc ledled y DU.

SESIYNAU 'DROS GINIO' LLYTHRENNEDD YN Y CYFRYNGAU  

Mae'r tîm llythrennedd yn y cyfryngau yn cynnal gweminarau ‘Dros Ginio’ misol sy'n gyfle gwych i edrych yn ddyfnach i ymchwil llythrennedd yn y cyfryngau, astudiaethau achos, prosiectau gweithredol a mwy.

Cynhelir ein sesiwn ‘Dros Ginio’ nesaf ar ddydd Iau 24 Medi 2026, 13:00-13:30 a bydd yn ymdrin â chanfyddiadau ar draws ein hymchwil ar ddylunio perswadiol. Beth mae oedolion a phlant yn ei feddwl am nodweddion dylunio perswadiol ar-lein:

  • Nodweddion dylunio perswadiol a niwed ariannol posibl i blant
  • Ymchwil ar ddylunio perswadiol ac amser plant ar-lein
  • Profiadau defnyddwyr o gymunedau ar-lein (oedolion a phlant)

 Cofrestrwch yma.

I ddathlu Wythnos Llythrennedd yn y Cyfryngau a Gwybodaeth Fyd-eang UNESCO, byddwn yn cynnal dwy sesiwn ‘Dros Ginio’ ym mis Hydref. Thema’r wythnos eleni yw "Mae pawb yn chwarae rhan”, felly bydd ein sesiynau yn ymdrin â dau o'r meysydd a amlygwyd – llythrennedd yn y cyfryngau mewn addysg a Deallusrwydd Artiffisial (AI). Byddwn yn cynnal y sesiynau yn gynt na’r wythnos er mwyn osgoi gwyliau ysgol y DU gan alluogi’r nifer mwyaf o bobl fynychu.

Dydd Mawrth 20 Hydref – Sut mae oedolion y DU yn defnyddio AI, 13:00-14:00

Mae AI yn dod yn rhan gynyddol amlwg o brofiadau ar-lein pobl, o offer AI cynhyrchiol pwrpasol i ganlyniadau chwilio a chrynodebau a gynhyrchir gan AI. Gan ddefnyddio mewnwelediadau o adroddiad Defnydd oedolion o’r cyfryngau a’u hagweddau atynt 2025 Ofcom, bydd y sesiwn hon yn archwilio sut mae oedolion yn defnyddio ac yn gwneud synnwyr o'r technolegau hyn, lle maent yn gweld gwerth a'r pryderon sydd ganddynt am ymddiriedaeth a dibynadwyedd.

Dydd Iau 22 Hydref – Beth sy'n gweithio wrth gyflwyno llythrennedd yn y cyfryngau mewn addysg

Bydd y sesiwn hon yn amlinellu arferion gorau i sefydliadau neu ysgolion sy'n ystyried cynnal prosiectau sgiliau llythrennedd yn y cyfryngau mewn lleoliadau addysgol, boed hynny ar gyfer athrawon neu ddysgwyr, yn seiliedig ar y dystiolaeth o’n rhaglenni hyd yn hyn. Yn ystod y sesiwn byddwn yn trafod:

  • Y dulliau mwyaf effeithlon o ennill cefnogaeth lleoliadau addysg.
  • Dylunio rhaglenni sy'n ennyn diddordeb athrawon a dysgwyr.
  • Dulliau cyflwyno sy'n arwain at sesiynau effeithiol.
  • Awgrymiadau gwerthuso i fesur effaith orau.
  • Canlyniadau y mae ein prosiectau wedi'u cyflawni.

Anfonir gwahoddiadau ar gyfer sesiynau ‘Dros Ginio’ at holl aelodau'r rhwydwaith yn ystod yr wythnosau nesaf.


CYNHADLEDD FLYNYDDOL LLYTHRENNEDD YN Y CYFRYNGAU OFCOM

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Cynhadledd Llythrennedd yn y Cyfryngau blynyddol Ofcom yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 1 Rhagfyr 2026, gan ddod â llunwyr polisi, ymarferwyr, ymchwilwyr, platfformau, darlledwyr a sefydliadau cymdeithas sifil ynghyd i archwilio dyfodol llythrennedd yn y cyfryngau.

Mae thema eleni, ‘Llywio’r Dyfodol’ (Beth sydd nesaf), yn cydnabod bod amgylchedd y cyfryngau byd-eang yn newid yn gyflym iawn. O batrymau o ddefnydd cyfryngau sy’n esblygu i gwestiynau ynghylch cyfranogiad ar-lein, AI, cynhwysiant digidol, ymddiriedaeth a thirweddau cyfreithiol a rheoleiddiol sy'n newid, bydd cyfle i’r rhai sy’n bresennol ystyried yr hyn a wyddom, y tueddiadau sy'n dod i'r amlwg, a pha gamau y gallwn eu cymryd gyda'n gilydd.

Drwy gyfuniad o drafodaethau panel, gweithdai, cyfleoedd rhwydweithio a thrafodaethau rhyngweithiol, bydd y gynhadledd yn archwilio'r sail dystiolaeth ar gyfer llythrennedd yn y cyfryngau, yn archwilio heriau a chyfleoedd yn y dyfodol, ac yn nodi blaenoriaethau ymarferol ar gyfer gweithredu ar y cyd ar draws y sector.

Rhannir manylion pellach, gan gynnwys gwybodaeth gofrestru a'r rhaglen lawn, mas o law. Am y tro cadwch y dyddiad:

Dyddiad: Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2026
Lleoliad: Coleg Brenhinol y Meddygon, Llundain, NW1 4LE

COMISIYNAU OFCOM:

Mae cyfleoedd tendro diweddar wedi cynnwys:

Llythrennedd yn y cyfryngau ar gyfer troseddwyr sy’n achosi niwed ar-lein i fenywod a merched.  Rydym wedi comisiynu rhaglen i leihau niwed ar-lein yn erbyn menywod a merched drwy feithrin sgiliau llythrennedd yn y cyfryngau ymhlith dynion a bechgyn sydd wedi cymryd rhan mewn ymddygiad niweidiol ar-lein, neu sydd mewn perygl o wneud hynny. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu meddwl yn feirniadol, deall sut mae platfformau digidol ac ymhelaethu cynnwys yn gweithio, a hyrwyddo dinasyddiaeth ddigidol gadarnhaol ac atebolrwydd ar-lein. Disgwylir i'r gwaith gael ei gyflwyno wyneb yn wyneb yn bennaf ac i grŵp targed penodol, gyda ffocws ar atal ac ymyrraeth gynnar. Bydd y rhaglen yn ategu'r mesurau presennol ym maes diogelu, cyfiawnder troseddol ac ymyriadau arbenigol, yn hytrach na'u disodli. Mae dyfarniad y cytundeb i’w bennu.


Safe Moves: cymorth i lywio twyll rhamant a buddsoddi.
Bydd y rhaglen hon yn datblygu ac yn cyflwyno ymyrraeth llythrennedd yn y cyfryngau er mwyn helpu bobl adnabod ac osgoi twyll rhamant. Bydd y rhaglen hefyd yn hyrwyddo adnoddau twyll buddsoddi presennol trwy rwydweithiau cymunedol a chymorth dibynadwy. Mae dyfarniad y cytundeb i’w bennu.


Llythrennedd yn y Cyfryngau i’r Gweithlu
– y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau yw 12:00pm 2 Hydref 2026. Mae Ofcom yn archwilio sut y gellir ymgorffori llythrennedd yn y cyfryngau mewn rhaglenni sgiliau digidol yn y gweithle a rhaglenni datblygu'r gweithlu. Trwy'r prosiect hwn, byddwn yn profi awydd cyflogwyr, yn nodi dulliau effeithiol, ac yn datblygu model sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer integreiddio llythrennedd yn y cyfryngau i hyfforddiant gweithlu presennol.

Cyhoeddir enwau’r sefydliadau a ddyfarnwyd yn llwyddiannus yn y mis nesaf. 


GWEITHIO GYDAG OFCOM:
A oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gydag Ofcom? I gael gwybod am gyfleoedd tendro a gyhoeddir gan y tîm llythrennedd yn y cyfryngau, rhaid i'ch sefydliad fod wedi'i gofrestru gyda'n porth eSourcing sy'n cael ei gynnal gan Jaggaer (BravoSolution). Gweler y ddolen hon am wybodaeth am Supplying Ofcom, sy'n cynnwys dolenni i gofrestru ar y Porth eSourcing.


YMCHWIL:

CYNGOR CELFYDDYDAU LLOEGR
Gallai llyfrgelloedd cyhoeddus chwarae rhan allweddol wrth helpu cymunedau yn y DU i fynd i'r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth, ond mae angen gweithredu cenedlaethol cydlynol i ddatgloi eu potensial llawn, yn ôl astudiaeth a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a ysgrifennwyd gan yr Athro Steven Buchanan o Brifysgol Stirling mewn cydweithrediad â'r Athro David McMenemy o Brifysgol Glasgow. The Role of the Public Library in Combating Misinformation and Disinformation; A Review and Action Plan.  Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Luke Burton. 


CANOLFAN DYFODOL DIGIDOL I BLANT (DFC)
Deallusrwydd artiffisial a hawliau plant: adolygiad naratif o'r dystiolaeth. Mae plant a phobl ifanc yn chwarae rhan unigryw yn yr ecosystem ddigidol. O oedran ifanc iawn, maent yn tyfu i fyny gyda systemau na wnaethant eu dylunio, na allant eu harchwilio, dim ond achlysurol yn cael eu holi, ac anaml iawn y maent yn dylanwadu arnynt. Hefyd yn peri pryder yw'r gyfradd gynyddol y mae'r sefydliadau sy'n penderfynu ar fynediad plant at wasanaethau, addysg, iechyd a hyd yn oed cyfiawnder yn ymgorffori AI yn eu gweithrediadau, fel bod technoleg yn dylanwadu ar hyd yn oed y plant hynny nad ydynt byth yn rhyngweithio'n uniongyrchol â hi. Mae'r adroddiad hwn yn gwerthuso tystiolaeth gyfoes ar blant ac AI, gan gynnwys arfer gorau sy'n dod i'r amlwg. Mae wedi'i drefnu yn unol â'r 11 thema'r Datganiad ar y Cyd ar Ddeallusrwydd Artiffisial a hawliau'r plentyn (2025), gyda'r nod o gasglu a gwerthuso'r dystiolaeth sy'n sail i'w argymhellion. Jayadeva, S. & Livingstone, S. (2026). Artificial intelligence and children's rights: a narrative review of the evidence. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â DFC.


INTERNET MATTERS
Yn yr erthygl 'One year of the Protection of Children Codes – what has changed?', mae Internet Matters yn asesu effaith mesurau diogelu Ofcom flwyddyn ar ôl iddynt ddod i rym. Mae ymchwil Internet Matters yn dangos bod plant yn parhau i wynebu niwed eang ar-lein, gan danlinellu'r angen am fesurau mwy cadarn o wirio oedran, camau gweithredu ar ddyluniadau caethiwus, a gwell diogelwch i blant sy'n defnyddio sgwrsfotiau AI.

Cyhoeddodd Internet Matters ddau flog: 'Deepening existing divides: AI and household income', sy'n archwilio sut mae incwm aelwydydd yn siapio profiadau plant o AI. Mae AI yn dod yn rhan gynyddol gyffredin o blentyndod, ond mae ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad rhieni yn amrywio'n sylweddol yn ôl incwm. Mae plant o aelwydydd incwm is hefyd yn llai tebygol o drafod AI yn yr ysgol, gan adlewyrchu anghydraddoldebau ehangach mewn addysg llythrennedd yn y cyfryngau.

Mae 'How to make social media restrictions work for families', yn archwilio’r cyfyngiadau ar gyfryngau cymdeithasol yn seiliedig ar oedran a gynigwyd gan y Llywodraeth. Mae'n amlinellu tri amod allweddol sydd eu hangen er mwyn i'r cynigion weithio'n ymarferol i blant a theuluoedd, ac yn tynnu sylw at feysydd lle mae angen camau gweithredu pellach o hyd. Cysylltwch â Katie Freeman-Tayler am ragor o wybodaeth. 


MAE'R
 NATIONAL LITERACY TRUST wedi cyhoeddi ymchwil sy'n olrhain newidiadau yn y defnydd o AI i gefnogi dysgu a llythrennedd ymhlith pobl ifanc, athrawon a theuluoedd yn 2026. Dangosa’r canfyddiadau pryderon cynyddol ymhlith athrawon, ond hefyd defnydd mwy bwriadol gan rai pobl ifanc; mae canrannau sylweddol uwch yn dweud eu bod yn gwirio allbynnau AI ac yn ychwanegu eu syniadau eu hunain o gymharu â 2025. Er bod ymgysylltu â llythrennedd yn gysylltiedig â defnydd mwy beirniadol, roedd tua 1 o bob 4 yn dal i gopïo allbynnau yn unig, ffigwr a gododd i 3 o bob 10 ymhlith bobl ifanc a dderbyniodd brydau ysgol am ddim. Darganfyddwch fwy yma: Young people, teachers’ and parents’ use of AI to support literacy in 2026. Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Irene Picton. 


PRIFYSGOL BRYSTE/ YSGOL NIHR AR GYFER YMCHWIL IECHYD Y CYHOEDD
Mae ymchwil newydd gan Ysgol NIHR ar gyfer Ymchwil Iechyd y Cyhoedd, yn cynnwys 27 o bobl ifanc yn eu harddegau o’r DU, gan archwilio sut mae cynnwys cyfryngau cymdeithasol a argymhellir yn algorithmig yn siapio iechyd meddwl a lles. Mae'r canfyddiadau'n dangos sut mae systemau argymell yn trefnu amlygiadau dro ar ôl tro i gynnwys amrywiol gydag effeithiau cadarnhaol a negyddol, gan dynnu sylw at bwysigrwydd llythrennedd algorithmig ochr yn ochr â dylunio platfform mwy diogel a rheolaeth ystyrlon gan ddefnyddwyr. Adolescents' Experiences of Social Media Content Types and Wellbeing: A Photo-Elicitation Interview Study  Journal of Adolescence.

Algorithmic recommendation and adolescent mental health: a grounded theory study of social and commercial determinants.

Canfu ymchwil ddiweddar gan Brifysgol Bryste a Sefydliad Molly Rose,  sy’n archwilio addysg cyfryngau cymdeithasol mewn ysgolion uwchradd, fylchau o ran hyder staff a darpariaeth - yn enwedig o ran algorithmau, gyda llawer o staff yn mynegi pryderon am ddisgyblion yn dod ar draws cynnwys yn ymwneud â hunanladdiad, hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta ar-lein. Mae'r canfyddiadau’n tynnu sylw at yr angen am fwy o gefnogaeth ac adnoddau i helpu ysgolion i feithrin llythrennedd algorithmig pobl ifanc a llywio’r broses o ymdrin â chynnwys a argymhellir a allai fod yn niweidiol. Supporting social media and algorithmic literacy in secondary schools: school staff confidence, provision, and online harms. Pastoral Care in Education. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Dr Lizzy Winstone.


DIGWYDDIADAU:

DIGWYDDIADAU LSE:
Cynhelir y digwyddiad cyhoeddus - gan y Ganolfan Ddyfodol Ddigidol i Blant a Sefydliad 5Rights, wyneb yn wyneb ac ar-lein Whose childhood, whose safety? Marginalised youth and social media bans ar 19 Tachwedd 2026, 6:30–8:00pm.

Wrth i lywodraethau symud tuag at gyfyngu ar fynediad plant i'r cyfryngau cymdeithasol er mwyn eu diogelu, mae'r ddarlith gyhoeddus hon yn gofyn: diogelwch i bwy, a rhag beth? Gan ddod â safbwyntiau ynghyd am bobl ifanc LHDT+, pobl ifanc o leiafrifoedd hiliol, plant mudol a dadleoledig, ac ymgyrchwyr ifanc, bydd y digwyddiad yn archwilio sut y gall gwaharddiadau cyfryngau cymdeithasol effeithio ar bobl ifanc ymylol ac o leiafrifoedd, a sut y gall dull sy'n parchu hawliau plant ymgorffori eu safbwyntiau. Siaradwyr: Lisa Dittmer (Amnest Tech), Dr Sakshi Ghai (LSE), Yr Athro Jessica Ringrose (UCL) a Dr Devina Sarwatay (City St George's, Prifysgol Llundain). Cadeirydd: Yr Athro Sonia Livingstone (LSE). Am ragor o wybodaeth cysylltwch â DFC. 


MAE MEDIA & LEARNING ASSOCIATION
yn cynnal gweminarau ar-lein misol Wednesday Webinars  sy’n canolbwyntio ar agweddau amrywiol ar lythrennedd digidol a chyfryngau. Mae pwnc pob sesiwn yn cael ei ddewis yn ofalus yn seiliedig ar brosiectau cyfredol, tueddiadau sy'n dod i'r amlwg mewn llythrennedd yn y cyfryngau, a chydweithrediadau â sefydliadau eraill, gyda mewnbwn gwerthfawr gan ein grwpiau diddordeb arbennig ar lythrennedd digidol a chyfryngau ac addysg athrawon. Mae'r digwyddiadau hyn sy’n para rhwng 75–90 munud, yn cynnig archwiliad manwl o'r pwnc ac yn aml yn cynnwys gweithgareddau ymarferol i wella'r profiad dysgu.

Financial Manipulation: how money, markets and misinformation intersect online
23 Medi 2026, 14:00 – 15:30 CEST

Media Literacy in closed environments: prisons, detention, and restricted information spaces
21 Hyd 2026, 14:00 – 15:30 CEST

CYNHADLEDD MEDIA & LEARNING ASSOCIATION 23 Hydref 2026, 13:00 – 17:15 CEST

MLA4MedLit 2026: Whose Literacy? Whose Rights? Interrogating Digital and Media Literacy for Everyone - Media and Learning Association. Eleni, mae'r gynhadledd yn edrych yn feirniadol ar y maes ei hun. Wrth i lythrennedd yn y cyfryngau ddod yn biler mwy canolog o ddinasyddiaeth ddigidol a gwytnwch cymdeithasol, mae'n gwahodd cyfranogwyr i gamu'n ôl a chwestiynu rhai o ragdybiaethau’r maes ei hun ynghylch pwy sy'n cael eu cyrraedd, pwy sy'n cael eu gadael allan, a phwy sy'n penderfynu beth mae "llythrennedd i bawb" yn ei olygu mewn gwirionedd. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Chloe Pete.


PARENT ZONE:

Be Internet Legends: Secure Live Lesson
Mae'r byd digidol yn newid, ac mae Be Internet Legends - rhaglen addysgu diogelwch ar-lein fwyaf y DU gan Google a Parent Zone - yn newid gydag ef. Ar ddydd Gwener 29 Medi, gwahoddir ysgolion ledled y DU i ymuno â Gwers Fyw Ddiogel sydd  â rhaglen wedi’i hail-ddyfeisio: sesiwn ystafell ddosbarth fyw, heb baratoi, sy'n rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i ddisgyblion oedran cynradd ddiogelu eu data a'u preifatrwydd ar-lein. Mae cofrestru yn rhad ac am ddim ac ar agor nawr.

Mae Parent Zone a Google wedi partneru i gynnig sesiwn hyfforddi wyneb yn wyneb am ddim i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Cynhelir yn swyddfeydd Google yn Llundain ddydd Mawrth 6 Hydref. Learn and explore, with Parent Zone and Google - mae'r sesiwn yn cwmpasu dau faes mewn un bore: sut mae offer diogelwch ar-lein teuluol yn gweithio, a sut y gall AI gefnogi addysgu neu ymarfer a lleddfu eich llwyth gwaith. Mae lle yn gyfyngedig.

Mae dyddiadau'r hydref ar gyfer Free AI literacy training for secondary schools yn llenwi'n gyflym. Nid yw technoleg byth yn sefyll yn llonydd, ac mae AI yn symud yn gyflymach na'r rhan fwyaf o bynciau y gofynnir i ysgolion eu haddysgu. Mae rhaglen AI Profiad Parent Zone yn trosi’r dirwedd sy'n newid yn gyflym hon yn hyfforddiant ymarferol am ddim yn yr ysgol i staff ysgolion uwchradd - gan adeiladu'r wybodaeth a'r sgiliau i ddod â llythrennedd AI i mewn i addysgu bob dydd, waeth beth fo'r pwnc neu'r adran. Mae argaeledd ar gyfer Hydref i fis Rhagfyr yn gyfyngedig, gydag ysgolion yn cael eu hannog i archebu'n gynnar i sicrhau lle y tymor hwn. Mae staff yn gadael gyda'r hyder i gefnogi disgyblion i ddeall a llywio AI yn gyfrifol. Archebwch hyfforddiant yma.

Mae’r galw Be Internet Citizens am hyfforddiant llythrennedd yn y cyfryngau gan YouTube a Parent Zone wedi bod yn gryf yr hydref hwn, gyda’r sesiwn bellach yn llawn. Nid oes angen i addysgwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc aros, fodd bynnag: mae hyfforddiant hunan-dywys 15 munud am ddim ar gael ar alw, gan drosi materion byw – ffugiau dwfn AI, camwybodaeth, pentyrrau ar-lein - yn gymorth ymarferol, parod i'w defnyddio. Mae'r hyfforddiant yn eistedd ochr yn ochr â chwe chyflwyniad gwers a gweithdy, gan roi'r adnoddau a'r dulliau llythrennedd yn y cyfryngau i unrhyw weithiwr proffesiynol i fynd i'r afael â'r materion hyn mewn ystafelloedd dosbarth a lleoliadau ieuenctid.


YSGOL ASTUDIAETHAU UWCH, PRIFYSGOL LLUNDAIN
Mae *Whose Bias? Probably a Cat yn brosiect llythrennedd AI wedi'i gyd-gynllunio gyda SoapBox Islington, canolfan ieuenctid ar Old Street, wedi’u gefnogi Cronfa Ymgysylltu â’r Cyhoedd y SAS. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae gweithwyr ieuenctid, pobl ifanc ac ymchwilwyr wedi bod yn ystyried beth mae'n ei olygu i dyfu i fyny ochr yn ochr ag AI. Mae'r bobl ifanc wedi astudio diffiniadau swyddogol o AI, wedi marcio testun wedi'i ysgrifennu gan AI fel gwaith cartref, ac wedi edrych y tu mewn i offeryn dosbarthu delweddau. Hefyd, gwnaethom greu gêm chwarae rôl sy'n seiliedig ar destun, lle mae'r chwaraewr yn camu i esgidiau plentyn 15 oed sydd â  thraethawd hanes i’w gyflwyno, tra bod eu ffôn, y sgwrs grŵp a'r ffrwd wybodaeth yn tynnu eu sylw: a ydym yn gadael i'r sgwrsfotiau ysgrifennu’r traethawd ar eu cyfer, yn credu'r fideo firaol sy'n ymddangos fel pe bai’n lledaenu camwybodaeth, neu’n ymddiried yn y ffynonellau y mae'r model AI yn eu darparu?

Ar ddydd Iau 1 Hydref, 5.30pm i 7pm, bydd y bobl ifanc yn cynnal noson gyhoeddus rhad ac am ddim yn SoapBox. Yno, gall ymwelwyr chwarae'r gêm destun am waith cartref a sgwrsfotiau; gallant hefyd hyfforddi offeryn dosbarthu (a gwylio wrth iddo gael pethau'n anghywir), ac mae croeso iddynt bori arddangosfa o faniffestos, darllen maniffesto’r bobl ifanc ar AI ac ysgrifennu eu maniffesto eu hunain. Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma. 


PROSIECTAU A MENTRAU

CILIP
Yn dilyn cwblhau Cam 1 yn llwyddiannus yn gynharach yn 2026, gwnaeth hyfforddi 800 o lyfrgellwyr ysgol a chyhoeddus, mae CILIP yn parhau â'i bartneriaeth â Google ar Gam 2 o raglen Super Searchers. Mae’r cam hwn bellach ar waith a bydd yn rhedeg tan ddechrau 2027. Nod y rhaglen yw cyrraedd 1,200 o lyfrgellwyr pellach ar draws gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus, ysgolion, iechyd ac addysg bellach, gan ddarparu hyfforddiant llythrennedd gwybodaeth wedi'i ddiweddaru sy’n canolbwyntio ar chwilio wedi'i bweru gan AI, ymwybyddiaeth o sgam,camwybodaeth/thwyllwybodaeth a llythrennedd gwybodaeth feirniadol.


CONNECT FUTURES
Cyrhaeddodd Media Literacy Ambassador Programme ConnectFutures – a ariennir gan Ofcom, 3,424 o bobl ifanc ar draws ysgolion uwchradd Birmingham yn ystod ail flwyddyn ei rhaglen tair blynedd. Roedd yn cynnwys cynulliadau ysgol gyfan, gweithdai dosbarth, diwrnod o ffilmio gyda disgyblion yn y stiwdios cyfryngau, ac yn cloi gyda digwyddiad lansio yn y STEAMhouse.

Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i:

  • Codi gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o niwed a chamwybodaeth ar-lein
  • Rhoi sgiliau ymchwil feirniadol, gwirio ffeithiau a chynhyrchu cyfryngau i bobl ifanc
  • Meithrin hyder a llais i herio naratif niweidiol, yn enwedig casineb a chasineb yn erbyn menywod
  • Ymestyn sgyrsiau ar ddiogelwch digidol i gartrefi a chymunedau

Rhaglen Llythrennedd y Cyfryngau fideo 10 munud. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Zubeda Limbada. 


CANOLFAN DYFODOL DIGIDOL I BLANT (DFC)
Bydd y prosiect Reverse AI: ariannir gan Safe Online yn ymchwilio i elfennau o gamfanteisio a camdriniaeth rywiol ar blant (CSEA) a hwylusir gan dechnoleg yn y DU, Brasil, India, Kenya, Y Philipinau a Gwlad Thai.

Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (GenAI) yn ail-lunio bywydau digidol plant yn gyflym ledled y byd. Mae ymchwil ar ei effaith yn dal i fod yn brin, yn enwedig o ran plant bregus yn y De Byd-eang.

Mae GenAI yn cyflwyno risgiau difrifol sy’n trawsnewid natur CSEA a hwylusir gan dechnoleg – gan gynnwys creu cynnwys rhywiol neu gamdriniol, annog ymddygiadau camfanteisiol neu ddibyniaeth, galluogi rhyngweithiadau twyllodrus, hwyluso trin a rheoli dioddefwyr, ac amlygu plant i risgiau sy’n ymwneud â phreifatrwydd, diogelwch, gwahaniaethu a gwybodaeth. Mae Reverse AI gan Safe Online fel rhan o’r broses ddod o hyd i atebion i fynd i'r afael â'r bygythiad cynyddol o gamfanteisio a cham-drin rywiol ar blant a hwylusir gan dechnoleg. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â DFC.  


MATERION Y RHYNGRWYD:

Lansiodd Internet Matters, mewn partneriaeth â Roblox, adnoddau newydd i gefnogi teuluoedd i osgoi derbyn rhybuddion a gwaharddiadau mewn gemau ar-lein. Wedi'i gynllunio ar gyfer rhieni a gofalwyr plant niwroamrywiol, mae'r adnoddau yn cynnwys canllaw i rieni a gweithgaredd teuluol rhyngweithiol. Mae ymgyrch farchnata digidol ar thema 'Say It Right' yn ymhelaethu'r adnoddau i rieni.

Cefnogodd yr ymgyrch 'Back to School' o ganol mis Awst i ddechrau mis Medi rhieni gyda gwybodaeth berthnasol wrth i blant ddychwelyd i'w hystafelloedd ddosbarth. Canolbwyntiodd cyngor ar brynu dyfeisiau a'u sefydlu’n ddiogel i blant ac ailosod arferion defnyddio sgrin, ynghyd ag ystod o ganllawiau diogelwch ar-lein am ddim yn seiliedig ar oedran. Mae fersiynau argraffadwy am ddim o'r canllawiau ar gael i ysgolion eu cyrchu a'u dosbarthu i rieni.

Mae Find the Fake yn gyfres o gwisiau a gynlluniwyd i gefnogi llythrennedd yn y cyfryngau plant. Gydag opsiynau 1 a 2 chwaraewr ar gyfer rhieni ac athrawon, mae pob cwis yn benodol i oedran yn helpu plant i ddysgu am gamwybodaeth a thwyllwybodaeth, sut i wirio ffeithiau, sut mae cliwiau yn edrych, a'r rôl y gall AI ei chwarae wrth ledaenu gwybodaeth ffug. Mae gwybodaeth ychwanegol ar ôl pob cwestiwn yn darparu mannau stop ar gyfer sgwrs, ac mae canllawiau i rieni ac athrawon yn gwneud arwain plant yn y cwisiau yn llawer haws. 

Yn aml, mae pobl ifanc yn rhannu profiadau o gyfryngau cymdeithasol sydd yn gadarnhaol ac yn negyddol. Gall camau y mae rhieni a phobl ifanc yn eu cymryd sicrhau eu bod yn profi mwy o'r pethau cadarnhaol. Mae Social media advice hub gan Internet Matters wedi'i gynllunio i gefnogi dewisiadau rhieni a diogelwch pobl ifanc wrth iddynt lywio mannau cymdeithasol ar-lein. Mae'r hwb yn llawn canllawiau a chanllawiau y gellir eu lawrlwytho ar lywio cyhoeddiadau'r Llywodraeth sy'n ymwneud â chyfryngau cymdeithasol. I gael rhagor o wybodaeth am adnoddau Internet Matters, cysylltwch â Katie Freeman-Tayler. 


MAE SCREENWISE CHILDREN
yn ehangu ei waith yng Nghanolbarth Lloegr, gan gynnig cyfle i fwy o ysgolion gymryd rhan yn ei weithdai ar ddefnyddio ffonau clyfar yn ddiogel. Mae'r sefydliad wedi mabwysiadu dull cymunedol cyfan, gan hyfforddi disgyblion Blwyddyn 5, staff a rhieni/gofalwyr ar effaith ffonau clyfar. Mae'r gefnogaeth yn parhau ar ôl y gweithdai cychwynnol, gyda chymorth i ddiweddaru polisïau dyfeisiau, a mynediad parhaus i borth adnoddau gyda chynlluniau gwersi dilynol, canllawiau a deddfwriaeth wedi'u diweddaru, a fideos gweithdy. Am ragor o wybodaeth ewch i Screenwise Children neu cysylltwch ag Arwen Spencer.


PRIFYSGOL BRYSTE/ YSGOL NIHR AR GYFER YMCHWIL LECHYD Y CYHOEDD
Mae ymchwilwyr yn Ysgol NIHR Ymchwil Iechyd y Cyhoedd wedi lansio Mind Your Feed, adnodd dosbarth am ddim sy'n helpu pobl ifanc 11-13 oed i ddeall sut mae algorithmau cyfryngau cymdeithasol yn siapio'r hyn maen nhw'n ei weld a sut y gall hyn effeithio ar iechyd meddwl a lles. Mae'r deunyddiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cynnwys wyth gwers barod i'w defnyddio ar algorithmau, hunaniaeth, iechyd meddwl, delwedd y corff, newyddion, AI, adloniant a defnyddwyr, ochr yn ochr â chanllawiau athrawon a strategaethau ymarferol ar gyfer rheoli cynnwys a argymhellir. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Dr Lizzy Winstone.


RHYNGWLADOL:

MAE ARSYLLFA CYDRYNGAU DIGIDOL EWROP (EDMO) wedi agor galwad am gyflwyniadau Help Shape the Future of Media Literacy in Europe i gefnogi datblygiad parhaus ei Guidelines for Effective Media Literacy Initiatives. Gwahoddir sefydliadau, rhwydweithiau, addysgwyr, ymchwilwyr, ymarferwyr a sefydliadau ledled Ewrop i gyfrannu. Trwy'r alwad hon, gall cyfranogwyr gyflwyno arfer da neu adnodd sy'n dangos un neu fwy o'r 12 Egwyddor EDMO, cymeradwyo'r Canllawiau ar ran eu sefydliad, neu awgrymu gwelliannau ar gyfer diwygiadau yn y dyfodol.

Gall cyfraniadau amrywio o fentrau ac ymgyrchoedd addysgol i becynnau cymorth, fframweithiau, rhaglenni hyfforddi, a phrosiectau cymunedol, nid oes angen i gyflwyniadau fod ar raddfa fawr neu ryngwladol i gael eu hystyried.
Gellir cynnwys enghreifftiau dethol fel arferion da yn y Canllawiau, eu cynnwys fel cyfeiriadau, neu eu defnyddio i lywio rhifynnau yn y dyfodol, gan roi gwelededd i sefydliadau sy'n cymryd rhan gyda chynulleidfa Ewropeaidd o arbenigwyr ac ymarferwyr llythrennedd yn y cyfryngau. Gall rhai cyfranwyr hefyd gael eu gwahodd i gymryd rhan mewn sesiwn arddangos ar-lein fer fel rhan o'r broses adolygu. 

Bydd yr alwad yn cau ddydd Gwener 30 Hydref. Bydd cyflwyniadau’n cael eu hadolygu’n bennaf ar y wybodaeth a ddarperir yn y ffurflen gyflwyno. Gall sefydliadau sy'n dymuno cyfrannu cyflwyno drwy ffurflen ar-lein.


DYFODOL DIGIDOL I BLANT (DFC):
EU Kids Online 2026 comparative study: barn, profiadau, cyfleoedd a risgiau plant mewn byd digidol: canfyddiadau llawn o arolwg cynrychioliadol EU Kids Online o blant 10 i 16 oed ar draws 19 o wledydd Ewrop. Roedd y boblogaeth darged yn cynnwys plant a anwyd rhwng 2009 a 2015. Casglwyd data rhwng mis Ebrill 2025 a mis Ebrill 2026 drwy holiadur a gwblhawyd gan y plant eu hunain yn yr ysgol. Mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg disgrifiadol yn bennaf o fywydau digidol plant, gan gymharu patrymau ar draws gwledydd ac archwilio gwahaniaethau yn ôl oedran, rhyw a statws economaidd-gymdeithasol (SES). Mae pedwar prif ganfyddiad yn codi dro ar ôl tro yn yr adroddiad: Yn gyntaf, mae gwahaniaethau rhwng gwledydd yn aml yn sylweddol: nid oes un math o blentyndod digidol Ewropeaidd. Yn ail, mae oedran yn un o'r ffactorau gwahaniaethu cryfaf a mwyaf cyson, yn enwedig o ran mynediad, gweithgareddau, sgiliau ac amlygiad i risg. Yn drydydd, mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn gysylltiedig â chanlyniadau llai ffafriol ar draws nifer o feysydd, er bod cryfder, ac weithiau cyfeiriad, y gwahaniaethau hyn yn amrywio rhwng gwledydd. Yn bedwerydd, mae gwahaniaethau rhyw yn fwy penodol i brofiadau unigol yn hytrach na ffurfio un patrwm cyson. Cysylltwch â DFC am ragor o wybodaeth.


MEDIA SMARTS
Wythnos Llythrennedd yn y Cyfryngau Canada 2026

Mewn byd sy’n gynyddol ddigidol, rydym yn aml yn gofyn i ni ein Hunain, "aros... beth?" Gall offer fel AI neu gyfryngau cymdeithasol a heriau fel camwybodaeth neu gasineb ar-lein ymddangos yn anodd eu llywio. Mae Wythnos Llythrennedd yn y Cyfryngau yma i ateb cwestiynau pobl Canada am fod ar-lein mewn cyfnod o newid.

Wedi'i threfnu gan MediaSmarts, mae Wythnos Llythrennedd yn y Cyfryngau yn ddigwyddiad cenedlaethol i hyrwyddo llythrennedd yn y cyfryngau digidol, gyda gweithgareddau a digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn ystafelloedd dosbarth, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a grwpiau cymunedol ledled Canada. Cynhelir Media Literacy Week ar yr 21ain rhwng Hydref 26 a 30, 2026.