IIA consultation 25 nov 26 WEB

Mae Ofcom yn ymgynghori ar gryfhau Codau diwydiant sy'n gofyn am ddileu delweddau personol ar-lein yn gyflymach

Cyhoeddwyd: 25 Tachwedd 2026

Bydd yn rhaid i gwmnïau technoleg ddileu delweddau personol heb gydsyniad cyn gynted â phosibl ac o fewn 48 awr i’w riportio o dan y gynigion Ofcom i gryfhau’r Codau, gan ddarparu gwell amddiffyniadau i ddioddefwyr a goroeswyr.

 Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod, mae Ofcom heddiw yn ailddatgan ei hymrwymiad i ysgogi newidiadau ar draws y diwydiant technoleg er mwyn sicrhau bod menywod a merched yn y DU yn cael eu diogelu’n well rhag niwed ar-lein.

Mae rhannu delweddau personol heb gydsyniad (NCII) yn niwed eang sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched ac sy'n cael effaith negyddol ddofn ar ddioddefwyr a goroeswyr.

Mae diweddariadau arfaethedig Ofcom i'w Codau Ymarfer Cynnwys Anghyfreithlon a'r Canllawiau cysylltiedig, a gyhoeddwyd heddiw, yn cyflwyno gofynion newydd llym ar blatfformau i fynd i'r afael â'r math hwn o gam-drin ar-lein. Mae'r newidiadau'n adlewyrchu newidiadau diweddar i'r gyfraith a  wnaed o dan Ddeddf Troseddu a Phlismona 2026. Rydym yn disgwyl ymgynghori ar ein dull rheoleiddiol o ymdrin â throseddau newydd mewn pornograffi niweidiol a gyflwynwyd gan Ddeddf Trosedd a Phlismona yng Ngwanwyn 2027.

I grynhoi, mae mesurau diogelwch newydd arfaethedig Ofcom yn nodi bod angen i wasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a chwilio wneud y canynol:

  • ei gwneud hi'n syml i ddioddefwyr roi gwybod am achosion o gam-drin delweddau personol drwy gynnig llwybrau adrodd hawdd eu canfod, hawdd eu cyrchu a hawdd eu defnyddio;
  • gweithredu proses gyflymach, dryloyw ar gyfer cwynion sy'n ymwneud ag adroddiadau ar gynnwys delweddau personol; a
  • gweithredu swyddogaeth gymedroli sy'n sicrhau bod cynnwys delweddau personol a gaiff ei riportio yn cael ei dynnu i lawr cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl, a dim hwyrach na 48 awr ar ôl cael gwybod amdano.

Rydym yn gwahodd ymatebion i'n hymgynghoriad erbyn 20 Ionawr 2027.

Camau pellach i fynd i'r afael â cham-drin delweddau personol heb gydsyniad

Mae'r gwaith o dan ein rhaglen orfodi i fonitro ymateb y diwydiant wrth fynd i'r afael â rhannu delweddau personol heb gydsyniad yn parhau'n gyflym.

Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn asesu cydymffurfiaeth darparwyr â'u dyletswyddau i gael technoleg awtomataidd – a elwir yn ‘paru-hash’ – ar waith i ganfod delweddau personol anghyfreithlon, gan gynnwys ffugiau dwfnpenodol a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial (AI), a’u hatal rhag cael eu huwchlwytho a’u rhannu.

Mae ein hymgysylltiad cychwynnol â'r gwasanaethau eisoes yn ysgogi newid yn y sector, gyda sawl un gan gynnwys xHamster, un o'r gwasanaethau pornograffi mwyaf poblogaidd yn y DU, yn mabwysiadu technoleg cyfateb hash.

Rydym wedi agor dau ymchwiliad i gwmnïau yr ydym yn amau nad ydynt yn cydymffurfio â'r dyletswyddau hyn.

O heddiw ymlaen, rydym yn ehangu ein gwaith allgymorth, ac yn ysgrifennu i dros 1,000 o wasanaethau ynghylch eu rhwymedigaethau i fynd i'r afael â cham-drin delweddau personol. I gefnogi'r ymgysylltiad ehangach hwn â'r diwydiant, rydym hefyd yn cyhoeddi adnoddau ar-lein i helpu gwasanaethau i ddeall beth sydd angen iddynt ei wneud, gan gynnwys canllawiau ar weithredu technoleg paru hash. Os bydd cwmnïau'n methu, ni fyddwn yn oedi cyn agor ymchwiliadau pellach.

Yn ogystal, mae ein Galwad am Dystiolaeth, sy'n ceisio gwybodaeth gan academyddion, grwpiau cymorth i oroeswyr a dioddefwyr ac eraill ar sut y gallai profiadau menywod a merched ar-lein fod wedi newid ers cyhoeddi ein Canllawiau ar gyfer Bywyd Mwy Diogel Ar-lein i Fenywod a Merched, bellach wedi cau.

Byddwn yn cyhoeddi ein canfyddiadau mewn adroddiad yn haf 2027, gan dynnu sylw at y cynnydd a wneir gan y diwydiant wrth fynd i'r afael â niwed ar-lein sy'n seiliedig ar rywedd ac yn llywio camau gweithredu yn y dyfodol, gan gynnwys unrhyw argymhellion i'r Llywodraeth ar ble y gallai fod angen cryfhau'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein.

Ewch i'n gwefan i gael gwybod mwy am gynllun gweithredu Ofcom i ddiogelu menywod a merched ar-lein.