
- Mae taliadau dosbarthu parseli ffug, rhoddion Nadoligaidd a chynigion swyddi tymhorol ffug ymhlith y prif sgamiau Nadoligaidd i gadw llygad amdanynt y Nadolig hwn
- Mae Ofcom yn annog pobl i gadw llygaid, wrth i dwyllwyr geisio manteisio ar brysurdeb y Nadolig drwy ddwyn arian a gwybodaeth bersonol
Mae Ofcom heddiw yn rhybuddio defnyddwyr i fod yn wyliadwrus o pum sgam ffôn a negeseuon testun cyffredin a allai droi hwyl y Nadolig yn straen costus.
Dylai'r Nadolig fod yn gyfnod o ddathlu, nid twyll. Ond wrth i siopwyr chwilio am fargeinion, parseli yn cronni a blychau e-byst yn llenwi â chynigion tymhorol, mae twyllwyr yn gweithio’n galed i dwyllo pobl allan o'u harian a'u gwybodaeth bersonol.
Amcangyfrifir bod twyll yn cyfrif am 45% o'r holl ddigwyddiadau trosedd a adroddwyd yng Nghymru a Lloegr, a chollwyd £1.28 biliwn i droseddwyr yn 2025 [1]. Yn ôl ymchwil ddiweddaraf Ofcom, mae pedwar o bob deg o ddefnyddiwr ffonau symudol wedi derbyn neges amheus ac mae traean (32%) wedi derbyn galwad amheus.
Peidiwch â chael eich tynnu i mewn i sgam Nadoligaidd
O negeseuon dosbarthu ffug i gynigion swyddi tymhorol ffug, mae troseddwyr yn defnyddio prysurdeb y Nadolig i ddal pobl pan nad ydynt mor wyliadwrus ag arfer, a cheisio rhoi pwysau arnynt i wneud penderfyniadau sydyn. Dyna pam mae Ofcom yn annog pawb i fod yn ofalus ac yn ymwybodol o’r arwyddion rhybudd o ran pum sgam Nadolig cyffredin:
Negeseuon testun dosbarthu parseli a gollwyd: Mae twyllwyr yn manteisio ar y tymor prysur ar gyfer danfoniadau parseli drwy anfon negeseuon ffug yn gofyn i chi dalu am gostau ychwanegol fel ffi ail-ddosbarthu. Peidiwch byth â chlicio ar ddolen yn y neges. Yn hytrach, gwiriwch drwy wefan neu ap swyddogol y gwerthwr neu’r cwmni dosbarthu.
Rhoddion Nadolig: Gall cystadlaethau a rhoddion Nadoligaidd eich temptio, ond byddwch yn amheus os ydych chi’n cael gwybod eich bod wedi ennill rhywbeth nad ydych yn cofio rhoi cynnig arni. Byddwch yn arbennig o ofalus os bydd rhywun yn gofyn i chi am eich cyfeiriad e-bost neu rif ffôn, eich manylion banc neu daliad i hawlio'ch gwobr.
Galwadau neu negeseuon am rywbeth rydych chi wedi’i brynu: Gall galwad neu neges honni bod gweithgaredd bod ar eich cyfrif Amazon, PayPal neu gyfrif arall, a gofyn i chi glicio ar ddolen neu ffonio rhif. Peidiwch â defnyddio'r manylion cyswllt yn y neges. Ewch ati i agor yr ap swyddogol neu'r wefan a gwiriwch eich cyfrif yno.
"Mam, dw i wedi torri fy ffôn yn y parti Nadolig!!": Efallai y byddwch chi’n cael neges gan rif anhysbys yn honni bod eich plentyn neu aelod arall o'r teulu wedi colli neu dorri ei ffôn ar noson allan dros y Nadolig. Yn aml byddan nhw wedyn yngofyn i chi anfon arian ar frys. Stopiwch a chysylltwch â'r person mewn ffordd arall i wneud yn siŵr mai nhw ydyw mewn gwirionedd.
Cynigion swydd tymhorol: Os yw cynnig swydd Nadoligaidd tymor byr yn edrych yn rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod yn ffug. Gall twyllwyr hysbysebu rolau ffug ac yna gofyn am ffioedd ymlaen llaw, manylion banc neu gopïau o ddogfennau personol. Byddwch yn ofalus o gynigion swydd sy'n addo arian parod cyflym neu sy'n cyrraedd yn annisgwyl.
Mae troseddwyr yn manteisio ar brysurdeb y Nadolig
Mae mynd i'r afael â sgamiau yn broblem gymhleth, ac mae angen i’r Llywodraeth, rheoleiddwyr eraill, awdurdodau gorfodi'r gyfraith a'r diwydiant gydweithio i’w hatal. Rydym eisoes wedi ei gwneud hi'n anoddach i sgamwyr ffugio rhifau llinell dir yn y DU, ac mae cwmnïau telathrebu yn rhwystro miliynau o alwadau twyllodrus bob mis. Ac yn ddiweddar gwnaethom amlinellu ein canllawiau newydd cryfach ar gyfer cwmnïau telathrebu i atal troseddwyr dramor rhag ffonio pobl yn y DU gyda rhifau symudol sy’n ymddangos fel eu bod yn dod o’r DU.
Dywedodd Amy Jordan, Cyfarwyddwr Cyflwyno Strategaeth Ofcom: "Nid yw twyllwyr yn cymryd saib dros y Nadolig. Mae troseddwyr yn arbenigwyr ar greu ymdeimlad o frys, yn enwedig yn ystod tymor yr ŵyl pan fydd llawer ohonom yn disgwyl parseli, yn chwilio am fargeinion ac yn jyglo sioau nadolig yr ysgol a phartïon gwaith. Peidiwch â gadael i'r twyllwyr ddifetha eich dathliadau. Gallai cymryd ychydig eiliadau i stopio a meddwl cyn i chi glicio arbed llawer o bryder a straen i chi."
Yn ddiweddar mae Ofcom wedi lansio Hwb Defnyddwyr ar-lein newydd - Hwb Defnyddwyr: Ar eich ochr chi - sy'n cynnig cyfoeth o awgrymiadau, gan gynnwys ar sut i ddiogelu eich hun rhag sgamiau, ynghyd â chyngor arbed arian, cymorth gyda phroblemau gwasanaeth cyffredin a llwybrau i gwyno.
Nodiadau i olygyddion
- Cyllid y DU, 2026. Adroddiad Twyll Blynyddol 2026. Tudalen 12.
- Mae Ofcom wedi nodi pecyn cynhwysfawr o fesurau ymarferol i ddarparwyr symudol eu mabwysiadu i rwystro, cyfyngu ar ac amharu ar sgamwyr sy'n ceisio ecsbloetio pobl drwy sgamiau negeseuon.
- Yn ogystal, mae Ofcom wedi cyflwyno canllawiau cryfach sy'n nodi sut y dylai cwmnïau telathrebu ddiogelu pobl yn y DU rhag galwadau rhyngwladol sy'n efelychu - neu'n 'ffugio' - rifau sefydlog a symudol yn y DU. Rydym hefyd wedi cryfhau ein canllawiau ar ffugio llinell sefydlog.
- Os ydych wedi colli arian neu wedi cael eich hacio o ganlyniad i ymateb i neges gwe-rwydo neu alwad dwyllodrus, rhowch wybod amdani i Adrodd Twyll. Yn Lloegr, Cymru neu Ogledd Iwerddon, ewch i reportfraud.police.uk neu ffoniwch 0300 123 2040. Yn yr Alban, adroddwch i Heddlu'r Alban drwy ffonio 101.
Cynnwys cysylltiedig