Datganiad 25 Tachwedd 2025
Heddiw, rydym yn cyhoeddi ein canllawiau, sy'n nodi naw maes i gwmnïau technoleg wella diogelwch ar-lein menywod a merched drwy gymryd cyfrifoldeb, dylunio eu gwasanaethau i atal niwed a chefnogi eu defnyddwyr.
Mae Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn gwneud platfformau – gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau gemau, apiau cwrdd â chariad, fforymau trafod a pheiriannau chwilio – yn gyfreithiol gyfrifol am ddiogelu pobl yn y DU rhag cynnwys anghyfreithlon a chynnwys sy’n niweidiol i blant, gan gynnwys niwed sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched.
Mae Ofcom eisoes wedi cyhoeddi codau a chanllawiau asesu risg terfynol ar sut rydym yn disgwyl i blatfformau fynd i’r afael â chynnwys anghyfreithlon a chynnwys sy'n niweidiol i blant. Rôl Ofcom yw dal cwmnïau technoleg i gyfrif, gan ddefnyddio grym llawn ein pwerau gorfodi lle bo angen,a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith, gan ddefnyddio ein pwerau gorfodi lle bo angen.
Mae’n ofynnol hefyd i Ofcom gynhyrchu canllawiau sy’n nodi sut y gall darparwyr gymryd camau yn erbyn y cynnwys a’r gweithgarwch niweidiol sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched, er mwyn cydnabod y risgiau unigryw y maent yn eu hwynebu.
Mae ein canllawiau yn nodi naw maes lle gall cwmnïau technoleg wneud mwy i wella diogelwch menywod a merched ar-lein drwy gymryd cyfrifoldeb, dylunio eu gwasanaethau i atal niwed, a chefnogi eu defnyddwyr.
Ymatebion
Os yw’r niwed hwn wedi effeithio arnoch chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, cefnogaeth neu gyngor gan unrhyw un o'r sefydliadau hyn.
- Llinell Gymorth ‘Revenge Porn’ neu ‘StopNCII’ ar gyfer cam-drin delweddau agos.
- ‘Refuge’ ar gyfer ymddygiad rheoli neu orfodol.
- Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh ar gyfer stelcio.
- Gallwch hefyd ddod o hyd i wasanaethau cymorth yma (Comisiynydd Cam-drin Domestig) ac yma (Gwybodaeth i Ddioddefwyr a Thystion).
Gwybodaeth cyswllt
Ofcom Online Safety Group,
Ofcom,
Riverside House,
2A Southwark Bridge Road,
London SE1 9HA