Creu bywyd mwy diogel ar-lein i fenywod a merched

Cyhoeddwyd: 24 Tachwedd 2025
Diweddarwyd diwethaf: 9 Medi 2026

Mae diogelwch ar-lein menywod a merched yn flaenoriaeth i Ofcom. Mae'r dudalen hon yn darparu crynodeb o'r gwaith rydym yn ei wneud yn y maes hwn. 

Galwad am Dystiolaeth ar agor

Rydym eisiau clywed gan randdeiliaid ynglŷn â sut  y gallai profiadau menywod a merched ar-lein fod wedi newid ers i ni gyhoeddi ein canllawiau ym mis Tachwedd 2025.

Bydd y Galwad am Dystiolaeth yn cau am 5pm ar 4 Tachwedd 2026.

Darllenwch yr Alwad am Dystiolaeth yma a chyflwynwch ymateb.

Ar gyfer cwestiynau, e-bostiwch: womenandgirlscfe@ofcom.org.uk. 

Diweddariad wedi'i gyhoeddi ar 9 Medi 2026

Mae diogelwch ar-lein menywod a merched yn brif flaenoriaeth i Ofcom

Mae menywod a merched yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan nifer o wahanol mathau o niwed ar-lein. Mae'r rhain yn cynnwys cam-drin menywod a thrais rhywiol, aflonyddu cydlynol, stelcio a rheolaeth orfodol, a cham-drin rhywiol ar sail delwedd. Mae tystiolaeth hefyd yn dangos bod dynion a bechgyn yn aml yn cael eu gwthio tuag at gynnwys sy'n normaleiddio, yn clodfori ac yn annog cam-drin misogynistaidd a thrais rhywiol.

Ein nod yw sicrhau bod cwmnïau yn cymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch ar-lein fel y gall menywod a merched gymryd rhan ar-lein yn ddiogel ac yn hyderus. Mae hyn yn cynnwys diogelwch trwy ddyluniad, lle mae gwefannau ac apiau yn ymgorffori diogelwch yn nyluniad a gweithrediad eu gwasanaethau o'r cychwyn cyntaf. 

Byddwn yn defnyddio ein pwerau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein i yrru gwelliannau ystyrlon wrth barhau i ymateb i fygythiadau sy'n dod i'r amlwg a niwed sy'n esblygu. Fel y rheoleiddiwr diogelwch ar-lein, rydym mewn sefyllfa unigryw i helpu i wella profiadau ar-lein menywod a merched a'u hatal rhag wynebu niwed a cham-drin erchyll ar-lein. Ein rôl yw dwyn platfformau i gyfrif a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith, gan ddefnyddio ein pwerau gorfodi cadarn lle bo angen. Rydym hefyd yn monitro datblygiadau mewn niwed ar-lein a bygythiadau sy'n dod i'r amlwg.

Beth sydd angen i wasanaethau ar-lein ei wneud 

Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn gwneud platfformau technoleg – gan gynnwys platfformau cyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau chwarae gemau, apiau chwilio am gariad, fforymau trafod a gwasanaethau chwilio – yn gyfreithiol gyfrifol am ddiogelu pobl yn y DU rhag cynnwys anghyfreithlon a diogelu plant rhag cynnwys niweidiol. Mae hyn yn cynnwys y niwed ar-lein sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched.

Mae Ofcom wedi cyhoeddi codau a chanllawiau asesu risg ar sut rydym yn disgwyl i blatfformau technoleg fynd i'r afael â chynnwys anghyfreithlon a chynnwys sy'n niweidiol i blant – gan gynnwys niwed sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched. Gan gynnwys diweddariadau o gynharach yn 2026 i gynnwys y drosedd flaenoriaeth o seiberfflachio a chadarnhau mesurau i ganfod i leihau lledaeniad cam-drin delweddau personol trwy dechnoleg 'paru hash'. Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau sy'n nodi sut y gall platfformau fynd ymhellach yn wirfoddol i wella diogelwch ar-lein menywod a merched.

Beth mae Ofcom yn ei wneud i greu bywyd mwy diogel ar-lein i fenywod a merched

Codi'r bar gyda diwydiant

Cyhoeddwyd ein canllawiau ym mis Tachwedd 2025, sy’n nodi ystod eang o fesurau diogelwch ymarferol ar gyfer platfformau technoleg i wella diogelwch ar-lein menywod a merched – gan gynnwys dros 60 o enghreifftiau o gamau arfer da.  Mae'r argymhellion hyn yn mynd y tu hwnt i'r hyn sydd ei angen er mwyn i wasanaethau gydymffurfio â'u dyletswyddau cyfreithiol o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Ein ffocws nawr yw deall sut mae’r diwydiant wedi ymateb i'r canllawiau hyn, nodi ble mae arfer da yn cael ei fabwysiadu, a gyrru defnydd ehangach ar draws y sector. Gan adeiladu ar ein gwaith presennol i sicrhau cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, rydym yn canolbwyntio ein hymgysylltiad ag amrywiaeth o wasanaethau i ddeall pa newidiadau y maent wedi'u gwneud, gan ddilyn camau gweithredu wedi'u targedu. Gwnaethom ddewis y gwasanaethau yn seiliedig ar eu cyrhaeddiad defnyddwyr yn y DU a'r risgiau y maent yn eu cyflwyno i fenywod a merched sy'n wynebu niwed. 

Ochr yn ochr â'n hymgysylltiad â chwmnïau technoleg, rydym yn lansio Galwad am Dystiolaeth i gasglu mewnbwn gan randdeiliaid, gan gynnwys grwpiau cymdeithas sifil, ar ba newidiadau y mae menywod a merched yn eu profi ar-lein. Byddwn yn cyhoeddi ein canfyddiadau mewn adroddiad yr haf nesaf, a fydd yn taflu goleuni ar y cynnydd a wnaed tuag at leihau niwed ar sail ryw gyda'r bwriad o gyfeirio at gamau gweithredu i’r dyfodol.

Gorfodi'r rheolau ar gam-drin delweddau personol

Pan welwn niwed sylweddol neu fethiannau cydymffurfio sy'n effeithio ar ddiogelwch menywod a merched ar-lein, byddwn yn cymryd camau gweithredu i sicrhau bod gwasanaethau’n cyflawni eu rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Trwy ein gwaith i yrru cydymffurfiaeth, byddwn yn parhau i ddwyn platfformau i gyfrif a gyrru gwelliannau lle bo angen, gan gynnwys cymryd camau gorfodi lle bo angen. 

Gwyddom fod cam-drin delweddau personol yn effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched, ac rydym yn gweithredu ar yr angen brys i fynd i'r afael â'r mater hwn. Yn gynharach eleni, gwnaethom argymell i blatfformau ddefnyddio technoleg 'paru hash' i atal uwchlwytho a rhannu ymhellach delweddau personol nad ydynt yn gydsyniol. Heddiw, rydym yn cyhoeddi ein codau diwygiedig yn ffurfiol i roi’r mesurau hyn ar waith, a byddant yn dod i rym ar 30 Medi. Bydd unrhyw gamau gorfodi ffurfiol yn cael eu lansio ar ôl 30 Medi.

I gefnogi gweithredu'r mesurau hyn, rydym heddiw wedi lansio rhaglen orfodi i sut mae gwasanaethau perthnasol yn mabwysiadu technoleg 'paru hash'. Rydym yn gweithio'n agos gyda darparwr y gronfa ddata paru hash trydydd parti blaenllaw, StopNCII.org, i ddeall sut mae'r dechnoleg hon yn cael ei mabwysiadu gan wasanaethau i atal y niwed difrifol hwn. Mae Ofcom a StopNCII.org wedi llofnodi memorandwm ddealltwriaeth ar y cyd i hwyluso rhannu gwybodaeth a ffyrdd o weithio’n effeithiol.  

Mae ein blog diweddar yn nodi rhagor o wybodaeth am y camau y gallem eu cymryd i yrru gwelliannau. 

Fel y nodir ym mlaenoriaethau diogelwch ar-lein Ofcom, byddwn  yn parhau i adeiladu ar ymchwiliadau yr ydym wedi'u hagor i ddelweddau rhywiol a cham-drin rhywiol sy’n seiliedig ar ddelweddau, yn ogystal â chamau gorfodi a gymerwyd yn erbyn safle noethni. 

Datblygu polisi newydd gyda'r nod o ddiogelu menywod a merched ymhellach

Mae'r dirwedd diogelwch ar-lein yn parhau i esblygu, a byddwn yn symud yn gyflym i weithredu troseddau blaenoriaeth newydd a chryfhau amddiffyniadau lle bo angen. Mae Deddf Troseddu a Phlismona 2026, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ddiwedd Ebrill 2026, yn cyflwyno dyletswyddau pellach ar wasanaethau a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i  godau a chanllawiau Ofcom gael eu diweddaru.

Mae hyn yn cynnwys dyletswyddau ar wasanaethau i dynnu delweddau personol nad ydynt yn gydsyniol o fewn 48 awr i gael eu hadrodd, a throseddau newydd sy'n gwneud mathau o gynnwys pornograffi yn anghyfreithlon. Byddwn yn darparu diweddariad i'n map ffordd polisi  erbyn diwedd y flwyddyn. Fodd bynnag, mae gwaith eisoes ar y gweill, a byddwn yn ymgynghori ar y ddyletswydd tynnu delweddau personol nad ydynt yn gydsyniol i lawr mewn 48 awr erbyn diwedd 2026. 

Gweithio gyda rhanddeiliaid

Wrth i ni ddatblygu ein rhaglen waith, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda dioddefwyr a goroeswyr, sefydliadau cymdeithas sifil (gan gynnwys y rhai sy'n gweithio gyda dynion a bechgyn), ymchwilwyr a diwydiant i sicrhau bod ein hymyriadau’n cael eu llywio gan dystiolaeth, arbenigedd a phrofiad byw. Rydym hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid gorfodi'r gyfraith.

Mae rhanddeiliaid eisiau welededd pellach o'r camau sy'n cael eu cymryd o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Rydym wedi ymrwymo i fod mor dryloyw â phosibl ynghylch ein gwaith a'r cynnydd sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â niwed sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched ar-lein. Byddwn yn diweddaru'r dudalen we hon gyda gwybodaeth am y camau gweithredu rydym yn eu cymryd, y cynnydd sy'n cael ei wneud gan ddiwydiant, ac effaith y Ddeddf Diogelwch Ar-lein wrth fynd i'r afael â niwed sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched.

Darganfyddwch fwy am ein gwaith

Canllawiau Ofcom: Bywyd Mwy Diogel Ar-lein i Fenywod a Merched

Adnoddau ar gyfer ddarparwyr gwasanaeth

Ymchwil Ofcom

Rhagor o wybodaeth a chefnogaeth

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, wedi cael eich effeithio gan y  niwed hwn, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, cymorth neu gyngor gan unrhyw un o'r sefydliadau hyn.