Mae Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn ei gwneud yn ofynnol i rai gwasanaethau ar-lein gael lefelau uwch o dryloywder ac atebolrwydd ar waith, grymuso defnyddwyr gyda mwy o ddewis a rheolaeth, a diogelu defnyddwyr rhag hysbysebu twyllodrus.
Mae'r gwasanaethau hyn, a elwir yn wasanaethau wedi'u categoreiddio, ymhlith y gwasanaethau ar-lein a ddefnyddir fwyaf yn y DU. Fel y rheoleiddiwr diogelwch ar-lein, Ofcom sy'n gyfrifol am sicrhau bod darparwyr y gwasanaethau hyn yn cydymffurfio â'r cyfrifoldebau ychwanegol a roddir arnynt.
Mae'r gofrestr gyhoeddedig o wasanaethau wedi'u categoreiddio yn nodi pa wasanaethau sydd wedi'u categoreiddio ac felly'n destun i ddyletswyddau ychwanegol o dan y Ddeddf. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon unwaith y bydd y gofrestr wedi'i chyhoeddi.
Related content