Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhan o waith Ofcom i weithredu’r gyfundrefn adrodd ar dryloywder o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023. Rydym yn ceisio barn ar ein hasesiad effaith o ddull cyffredinol Ofcom i bennu'r gofynion gwybodaeth ar gyfer pob set o hysbysiadau tryloywder.
Cyflwynodd Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 gyfundrefn adrodd ar dryloywder ar gyfer gwasanaethau wedi'u categoreiddio. Fel rhan o'r gyfundrefn hon, mae gan Ofcom ddyletswydd i gyhoeddi hysbysiadau tryloywder sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau wedi'u categoreiddio gynhyrchu a chyhoeddi adroddiadau tryloywder.
Rydym eisoes wedi ymgynghori a chyhoeddi ein Canllawiau Adrodd ar Dryloywder, sy'n nodi ein dull cyffredinol a'n hamcanion ar gyfer adrodd ar dryloywder. Mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar ein hasesiad effaith o ddull cyffredinol Ofcom i bennu'r gofynion gwybodaeth ar gyfer pob set o adroddiadau tryloywder blynyddol, gan gynnwys sut rydym yn sicrhau bod y gofynion gwybodaeth yn gymesur, yn berthnasol ac yn briodol.
Ynghyd â'r ymgynghoriad hwn, rydym hefyd wedi cyhoeddi'r gofynion gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau Categori 1 a 2B a gwasanaethau Categori 2A.
Mae'r ymgynghoriad hwn ar agor tan 20 Ionawr 2027. Rydym yn gwahodd adborth gan rhanddeiliad sydd â diddordeb ar ein hasesiad effaith.
Gallwch ymateb i'n hymgynghoriad drwy e-bost i OS-Transparency@ofcom.org.uk. I gael rhagor o wybodaeth am ymateb i'r ymgynghoriad hwn, gweler Atodiad 7 o'r ddogfen ymgynghori.
Gallwch ddarganfod mwy am y broses dryloywder mewn Gweminar a gynhelir gennym ar 1 Rhagfyr. Cofrestrwch yma.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Cyflwynwch ymatebion drwy e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ymateb ymgynghori fan hwyrach na 5pm 20 Ionawr 2027.
Prif ddogfennau
Sut i ymateb
Ofcom
Riverside House
2a Southwark Bridge Road
London SE1 9HA