Ymgynghoriad: Dileu cynnwys cam-drin delweddau personol

Cyhoeddwyd: 25 Tachwedd 2026
Ymgynghori yn cau: 20 Ionawr 2027
Statws: Agor

Mae Ofcom wedi agor ymgynghoriad ar ein cynigion i weithredu dyletswyddau newydd, sy'n ymwneud ag adrodd am achosion o gam-drin delweddau personol a sicrhau bod y cynnwys anghyfreithlon hwn yn cael ei ddileu’n gyflym. Nod ein cynigion yw gwella profiadau goroeswyr a dioddefwyr cam-drin delweddau personol, sydd ar hyn o bryd yn wynebu heriau wrth geisio cael cynnwys wedi’i ddileu, yn ogystal ag ofn parhau y gallai’r cynnwys ail-ymddangos ar-lein.

Mae diogelwch ar-lein fenywod a merched yn flaenoriaeth strategol i Ofcom, ac rydym yn gweithredu  i fynd i'r afael â'r niwed a'r cam-drin y maent yn eu hwynebu ar-lein, gan gynnwys cam-drin delweddau personol. Mae cam-drin delweddau personol yn niwed eang sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod ac mae'n drosedd flaenoriaeth o dan y Ddeddf. Mae cam-drin delweddau personol yn cael effaith negyddol ddifrifol  ar oroeswyr a dioddefwyr, gan gynnwys niwed seicolegol, emosiynol, proffesiynol a pherthnasol.

Cyflwynodd Ddeddf Troseddu a Phlismona 2026 ddyletswyddau newydd ar ddarparwyr gwasanaeth i ddileu cynnwys sy’n ymwneud â delweddau personol  a adroddwyd i lawr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, o fewn 48 awr fan bellaf. Rhaid i ddarparwyr gwasanaeth hefyd sicrhau bod modd gwneud yr  adroddiadau hyn yn hawdd a gweithredu gweithdrefn gwyno gyflym mewn perthynas â'r adroddiadau hyn.

Mae'r ymgynghoriad hwn ar agor tan 20 Ionawr 2027. Rydym yn gwahodd adborth gan bob rhanddeiliad ar y cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad. Cyflwynwch ymatebion drwy lenwi'r ffurflen ymateb ar-lein neu drwy anfon e-bost  at IIAtakedownconsultation@ofcom.org.uk

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Gallwch ymateb i'n hymgynghoriad drwy ein ffurflen we neu drwy ddanfon e-bost i IIAtakedownconsultation@ofcom.org.uk. Cyflwynwch ymatebion erbyn 5pm 20 Ionawr 2027.

I gael rhagor o wybodaeth am ymateb i'r ymgynghoriad hwn a rhestr lawn o’r cwestiynau ymgynghori, gweler Atodiadau 3-6.