Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhan o drydydd cam gweithredu Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 Ofcom, sy'n canolbwyntio ar ddod â mwy o dryloywder, atebolrwydd a dewis defnyddwyr i rai o'r gwasanaethau ar-lein a ddefnyddir fwyaf yn y DU. Gelwir y gwasanaethau hyn yn 'wasanaethau Categori 1'.
Mae gan wasanaethau Categori 1 ddyletswyddau ychwanegol sy'n ymwneud â grymuso defnyddwyr, gwirio hunaniaeth defnyddwyr, cynnwys cyhoeddwyr newyddion, cynnwys newyddiadurol, cynnwys o bwys democrataidd, telerau gwasanaeth, cwynion, ac asesiadau effaith rhyddid mynegiant a phreifatrwydd. Rydym yn ymgynghori ar God Ymarfer drafft a dogfennau canllaw i helpu darparwyr i gydymffurfio â'r dyletswyddau hyn.
Rydym hefyd yn cyhoeddi ein cofrestr o wasanaethau wedi'u categoreiddio, a'n cynigion ar gyfer dyletswyddau ychwanegol ar y Cod Hysbysebu Twyllodrus.
Er mwyn helpu rhanddeiliaid i ymgysylltu â'r ymgynghoriad hwn, rydym hefyd wedi cyhoeddi;
Mae'r ymgynghoriad hwn ar agor tan 2 Hydref. Rydym yn gwahodd adborth gan bob rhanddeiliaid ar y cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad.
Gallwch ymateb i'n hymgynghoriad drwy ein ffurflen we neu ffurflen ymateb drwy e-bost i cat1additionalduties@ofcom.org.uk.
Am ragor o wybodaeth am ymateb i'r ymgynghoriad hwn a rhestr lawn o gwestiynau’r ymgynghori, gweler Atodiad 2 a 5.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio ein ffurflen we ymgynghori neu ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad erbyn 5pm 2 Hydref 2026 fan bellaf.
Gweminar wedi'i recordio - Ymgynghoriad Dyletswyddau Ychwanegol Ofcom ar gyfer Gwasanaethau Categori 1
Mae'r weminar yma’n rhoi trosolwg o ymgynghoriad Ofcom ar y dyletswyddau ychwanegol a fydd yn berthnasol i wasanaethau Categori 1 o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU.
Mae'r sesiwn yn archwilio mesurau arfaethedig sydd wedi'u cynllunio i roi mwy o ddewis, rheolaeth a hyder i ddefnyddwyr yn eu profiadau ar-lein, gan hyrwyddo tryloywder ac atebolrwydd o blatfformau ar-lein.
Yn seiliedig ar yr ymgynghoriad, mae'r weminar yn ymdrin ag offer grymuso defnyddwyr, gwirio hunaniaeth defnyddwyr, amddiffyniadau ar gyfer cyhoeddwr newyddion, cynnwys newyddiadurol a chynnwys o bwys democrataidd, asesiadau effaith o ryddid mynegiant a phreifatrwydd, a gofynion sy'n ymwneud â thelerau gwasanaeth a gweithdrefnau cwyno.
Mae hefyd yn egluro’r rhesymeg bolisi y tu ôl i'r cynigion, y dystiolaeth sy'n eu llywio, a sut y gall rhanddeiliaid gyfrannu at y broses ymgynghori.
Mae'r weminar hon yn arbennig o berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein, gweithwyr proffesiynol polisi diogelwch ar-lein, sefydliadau cymdeithas sifil, academyddion, timau cyfreithiol a chydymffurfiaeth, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd y bydd y Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn cael ei gweithredu’n ymarferol.