Ymchwiliad i gydymffurfiad Kick Online Entertainment S.A â’r dyletswyddau asesu risg cynnwys anghyfreithlon

Cyhoeddwyd: 14 Mai 2025

Ar agor

Ymchwiliad i

Kick Online Entertainment S.A (‘Kick’)

Achos wedi’i agor

14 Mai 2025

Crynodeb

Rydym yn ymchwilio i weld a yw Kick wedi methu â chydymffurfio â dyletswyddau asesu risg cynnwys anghyfreithlon.

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Adran 9 a 23 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023.

Cefndir 

Ar 3 Mawrth 2025, agorodd Ofcom raglen orfodi i fonitro a yw darparwyr gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio ar draws y sector wedi cydymffurfio â’u dyletswydd i gwblhau a chadw cofnod o asesiad risg cynnwys anghyfreithlon. Daeth y dyletswyddau hyn ar gyfer gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr i rym ar 16 Mawrth 2025 ac, fe'u nodir yn adran 9 a 23 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (‘y Ddeddf’). I gael rhagor o wybodaeth, tarwch olwg ar: Rhaglen Orfodaeth.

Fel rhan o’r rhaglen hon, roedd Ofcom wedi gofyn am gofnodion o’r asesiadau risg cynnwys anghyfreithlon, er mwyn asesu a ydynt yn cydymffurfio â’r Ddeddf. Gofynnwyd am gofnodion gan amrywiaeth o ddarparwyr y gwasanaethau dan sylw. Roedd Kick yn un o’r darparwyr hynny, yng nghyswllt gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr Motherless.com (‘Motherless’). Hyd heddiw, nid yw Kick wedi darparu copi o gofnodion ysgrifenedig asesiad risg cynnwys anghyfreithlon Motherless.

Ymchwiliadau 

Heddiw, 14 Mai 2025, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i Kick.  

Yn sgil methiant Kick i ymateb i hysbysiad cais am wybodaeth a gyhoeddwyd o dan adran 100 o’r Ddeddf sy’n mynnu ei fod yn anfon copi o gofnod ysgrifenedig yr asesiad risg cynnwys anghyfreithlon ar gyfer Motherless, mae Ofcom yn ymchwilio i weld a yw Kick wedi cydymffurfio â’i ddyletswyddau i wneud y canlynol:

  • cynnal asesiad risg cynnwys anghyfreithlon ar gyfer Motherless, fel sy’n ofynnol gan adran 9 o’r Ddeddf:
  • gwneud a chadw cofnodion ysgrifenedig, hawdd eu deall, o bob agwedd ar bob asesiad risg gan gynnwys manylion am sut cafodd yr asesiad ei gynnal a beth oedd y canfyddiadau, fel sy’n ofynnol gan adran 23 o’r Ddeddf.

Felly, bydd ymchwiliad Ofcom yn ystyried a yw Kick wedi methu â chydymffurfio â’i ddyletswyddau statudol mewn perthynas â’r asesiad risg cynnwys anghyfreithlon. Bydd Ofcom yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y dudalen hon wrth i ni fwrw ymlaen â’r ymchwiliad.

Ochr yn ochr â’r ymchwiliad hwn, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad ar wahân heddiw i weld a yw Kick wedi cydymffurfio â chais statudol am wybodaeth. Mae’r bwletin ar gyfer yr ymchwiliad hwn ar gael yma


Cyswllt
Cyfeirnod yr achos

CW/01296/05/25

Yn ôl i'r brig