Ar agor
Meta Platforms Inc. ('Meta')
6 Hydref 2026
Mae Ofcom wedi agor ymchwiliad heddiw i ddeall a yw Meta wedi methu â chydymffurfio â dyletswyddau asesu risg cynnwys anghyfreithlon a chynnwys anghyfreithlon i blant.
Adrannau 9(4) ac 11(4) o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023
Cefndir
O dan adran 9 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 ('y Ddeddf'), rhaid i ddarparwyr gwasanaethau rheoleiddiedig defnyddiwr-i-ddefnyddiwr gynnal asesiad risg cynnwys anghyfreithlon sy’n addas ac yn ddigonol. O dan adran 11 o'r Ddeddf, os yw’n debygol y bydd plant yn defnyddio gwasanaeth, rhaid iddynt hefyd gynnal asesiad risg plant addas a digonol ar gyfer plant. O dan y ddwy adran o'r Ddeddf, cyn gwneud newid sylweddol i unrhyw agwedd ar ddyluniad neu weithrediad gwasanaeth, rhaid i ddarparwr gynnal asesiad risg pellach sy'n ymwneud ag effeithiau'r newid hwnnw.
Ar 13 Mai 2026, lansiodd Meta Instants ar Instagram, nodwedd sydd ar gael trwy Instagram Direct ac sy'n galluogi defnyddwyr i rannu lluniau a fideos a gafodd eu tynnu’n uniongyrchol o fewn y rhaglen. Mae Instants yn caniatáu i ddefnyddwyr rannu cynnwys ar unwaith gyda'u ffrindiau a'u dilynwyr. Gwahoddir defnyddwyr i ychwanegu capsiwn cyn tynnu llun neu fideo, ac ar ôl hynny mae'r cynnwys yn cael ei ddarlledu'n awtomatig. Mae cynnwys a rennir trwy instants yn gynnwys dros dro ac ni ellir ei ddal gan sgrinluniau.
Ymchwiliad
Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i weld a fethodd Meta â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan adrannau 9(4) ac 11(4) o'r Ddeddf trwy beidio â chynnal asesiadau risg plant ac asesiadau risg addas a digonol pellach o gynnwys anghyfreithlon mewn perthynas â lansio Instants.
Yng ngoleuni'r pryderon hyn, bydd yr ymchwiliad hwn yn ceisio sefydlu a oes sail resymol i gredu bod Meta wedi methu â chydymffurfio â'i rwymedigaethau cyfreithiol fel y nodir uchod.
Nid yw agor ymchwiliad yn golygu bod Ofcom wedi dod i unrhyw gasgliad ynghylch a yw'r darparwr wedi torri ei ddyletswyddau. Fodd bynnag, lle byddwn yn nodi methiannau cydymffurfio, gallwn osod dirwyon o hyd at £18m neu 10% o refeniw byd-eang cymwys (pa un bynnag sydd fwyaf). Mae Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein Ofcom yn nodi sut y bydd Ofcom fel arfer yn mynd ati i orfodi o dan y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys ein dull o gasglu a dadansoddi gwybodaeth a'r camau gweithdrefnol y mae'n rhaid i ni eu cymryd i benderfynu’n deg ar ganlyniad yr ymchwiliad.
Bydd Ofcom yn darparu diweddariadau ar y dudalen hon wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo.