Ar agor
Darparwr dau wasanaeth bwrdd delwedd. Oherwydd natur y gwasanaethau hyn, rydym wedi penderfynu peidio ag enwi'r darparwr na'r gwasanaethau.
6 Mawrth 2026
Rydym yn ymchwilio i weld a yw darparwr dau wasanaeth bwrdd delwedd wedi methu/yn methu â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 i:
- Cwblhau a chadw cofnod o asesiad risg cynnwys anghyfreithlon addas a digonol; a
- Cydymffurfio â'r dyletswyddau diogelwch ynghylch cynnwys anghyfreithlon a'r dyletswyddau sy'n ymwneud ag adrodd ar gynnwys, gweithdrefnau cwyno, a thelerau gwasanaeth sy'n berthnasol mewn perthynas â gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig.
Adrannau 9, 10, 20 a 21 o’r Deddf Diogelwch Ar-lein 2023.
Heddiw, 6 Mawrth 2026, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i ddarparwr dau wasanaeth bwrdd delwedd i weld a yw wedi cydymffurfio â'i ddyletswyddau:
Mae Rhan 3 o'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ('y Ddeddf') yn gosod 'Dyletswyddau Cynnwys Anghyfreithlon' ar ddarparwyr gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr ('U2U') rheoleiddiedig. Mae'r rhain yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i'r holl wasanaethau U2U a chwilio sydd o fewn cwmpas y Ddeddf gynnal asesiad risg cynnwys anghyfreithlon.
Yn ogystal, mae Rhan 3 o'r Ddeddf yn gosod dyletswyddau ar ddarparwyr gwasanaethau U2U rheoleiddiedig i gymryd neu ddefnyddio mesurau cymesur i:
- atal unigolion rhag dod ar draws cynnwys anghyfreithlon â blaenoriaeth – gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddelweddau personol heb ganiatâd (NCII)
a Deunydd Cam-drin Plant yn Rhywiol (CSAM) – drwy gyfrwng y gwasanaeth; a - lliniaru a rheoli'n effeithiol y risg y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio ar gyfer troseddau blaenoriaeth neu niwed i unigolion sy'n codi ar y gwasanaeth fel y nodwyd yn y 'Asesiad Risg Cynnwys Anghyfreithlon' diweddaraf.
Rhaid iddynt hefyd weithredu systemau a phrosesau sydd wedi'u cynllunio i ganiatáu i ddefnyddwyr a phobl yr effeithir arnynt adrodd am gynnwys anghyfreithlon yn hawdd, yn ogystal â gweithredu gweithdrefn gwyno ar gyfer defnyddwyr eu gwasanaeth.
Rhaid i wasanaethau hefyd gynnwys darpariaethau yn y telerau gwasanaeth sy'n nodi sut y dylid diogelu unigolion rhag cynnwys anghyfreithlon, cymhwyso'r telerau hynny yn gyson a sicrhau bod y telerau gwasanaeth yn glir ac yn hygyrch.
Gall darparwyr gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig gydymffurfio â'r Dyletswyddau Cynnwys Anghyfreithlon drwy weithredu mesurau a argymhellir yng Nghodau Ymarfer cynnwys anghyfreithlon Ofcom ar gyfer gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gyhoeddwyd ar 24 Chwefror 2025 (y 'Codau Ymarfer'), neu drwy fesurau amgen.
Daeth y dyletswyddau hyn i rym ar 17 Mawrth 2025.
Ymchwiliad
Heddiw, 6 Mawrth 2026, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i ddarparwr dau wasanaeth bwrdd delwedd i weld a yw wedi cydymffurfio â'i ddyletswyddau:
- cwblhau, a chadw cofnod o, asesiad risg cynnwys anghyfreithlon yn unol ag adran 9 o'r Ddeddf; a
- gweithredu mesurau priodol i atal unigolion rhag dod ar draws cynnwys anghyfreithlon â blaenoriaeth, a lliniaru a rheoli'r risg y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio ar gyfer troseddau blaenoriaeth yn effeithiol, yn unol ag adran 10 o'r Ddeddf; ac
- mewn perthynas â thelerau gwasanaeth yn unol ag adran 10 o'r Ddeddf,
- mewn perthynas ag adrodd ar gynnwys yn unol ag adran 20 o'r Ddeddf; ac
- mewn perthynas â gweithdrefnau cwyno yn unol ag adran 21 o'r Ddeddf.
Proses ymchwilio Ofcom
Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn nodi'r broses y mae'n rhaid i Ofcom ei dilyn wrth ymchwilio i gwmni a phenderfynu a yw wedi methu â chydymffurfio â'i rwymedigaethau cyfreithiol.
Ein cam cyntaf yw casglu a dadansoddi tystiolaeth i benderfynu a oes toriad wedi digwydd. Os ydym, yn seiliedig ar y dystiolaeth honno, o'r farn bod methiant cydymffurfio wedi digwydd, byddwn yn cyhoeddi penderfyniad dros dro i'r cwmni, a fydd wedyn yn cael cyfle i ymateb i'n canfyddiadau yn llawn, fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf, cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol.
Mae hyn wedi'i nodi'n fanylach yng Nghanllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein Ofcom, sy’n nodi sut y bydd Ofcom fel arfer yn mynd i'r afael â gorfodi o dan y Ddeddf

Lle byddwn yn nodi methiannau cydymffurfio, gallwn osod dirwyon o hyd at £18m neu 10% o refeniw cymwys ledled y byd (pa un bynnag sydd fwyaf). Yn yr achosion mwyaf difrifol o ddiffyg cydymffurfio, a lle bo'n briodol o ystyried risgiau o niwed i unigolion yn y DU, gallwn geisio gorchymyn llys i fynnu bod trydydd parti yn cymryd camau i darfu ar fusnes y darparwr. Gall hyn ei gwneud yn ofynnol i drydydd parti (megis darparwyr gwasanaethau talu neu hysbysebu, neu Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd) dynnu gwasanaethau yn ôl oddi wrth wasanaeth rheoleiddiedig yn y DU, neu rwystro mynediad iddo.
Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad hwn maes o law.