
Heddiw, mae Ofcom wedi nodi'r camau nesaf yn ei ymchwiliad i X, a chyfyngiadau Deddf Diogelwch Ar-lein y DU mewn perthynas â chatbots AI.
Ein hymchwiliad i X
Ofcom oedd un o'r rheoleiddwyr cyntaf yn y byd i weithredu ar adroddiadau ynghylch cyfrif chatbot Grok AI ar X yn cael ei ddefnyddio i greu a rhannu delweddau rhywiol dwfn ffug o bobl go iawn, gan gynnwys plant, a allai fod yn droseddau.[1]
Ar ôl cysylltu ag X ar 5 Ionawr, gan roi cyfle iddo esbonio sut roedd y delweddau hyn wedi'u rhannu ar raddfa o'r fath, gwnaethom symud yn gyflym i lansio ymchwiliad ffurfiol ar 12 Ionawr i weld a oedd y cwmni wedi gwneud digon i asesu a lliniaru'r risg o’r delweddau hyn yn lledaenu ar ei blatfform cyfryngau cymdeithasol, ac i'w tynnu i lawr yn gyflym lle daethant i’r amlwg.
Ers hynny, mae X wedi dweud ei fod wedi rhoi mesurau ar waith i geisio mynd i'r afael â'r mater. Rydym wedi bod mewn cysylltiad agos â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sy'n lansio ei ymchwiliad ei hun heddiw.[2] Mae awdurdodaethau eraill hefyd wedi lansio ymchwiliadau yn yr wythnosau ers i ni agor ein hymchwiliad ni, gan gynnwys y Comisiwn Ewropeaidd ar 26 Ionawr.
Mae ein hymchwiliad yn parhau ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r ICO ac eraill i sicrhau bod cwmnïau technoleg yn cadw defnyddwyr yn ddiogel ac yn diogelu eu preifatrwydd.
Nid yw pob chatbot AI yn cael ei reoleiddio
Yn fras, mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn rheoleiddio gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr, gwasanaethau chwilio a gwasanaethau sy'n cyhoeddi cynnwys pornograffig.
Nid yw chatbots yn destun rheoleiddio os yw’r canlynol yn wir:
- maent ond yn caniatáu i bobl ryngweithio â'r chatbot ei hun a dim defnyddwyr eraill (h.y. nid ydynt yn wasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr);
- nid yw’n chwilio gwefannau neu gronfeydd data wrth roi ymatebion i ddefnyddwyr (h.y. nid ydynt yn wasanaethau chwilio); ac
- ni allant gynhyrchu cynnwys pornograffig.
Mae p'un a ydynt yn dod o fewn un neu fwy o'r categorïau hyn yn dibynnu ar sut maen nhw'n gweithio, a hyd yn oed lle mae rhai chatbots AI yn dod o fewn cwmpas y Ddeddf, nid yw hyn yn golygu y bydd yr holl gynnwys y maen nhw'n ei gynhyrchu yn cael ei reoleiddio. Nid yw delweddau a fideos sy'n cael eu creu gan chatbot heb iddo chwilio'r rhyngrwyd yn gyffredinol o fewn y cwmpas. Dim ond os ydynt yn bornograffig y byddant o fewn cwmpas y ddeddf - ac yn yr achos hwnnw mae angen cyfyngiadau oedran arnynt - neu os gellir eu rhannu â defnyddwyr eraill y chatbot.[3]
Dim ond niwed ar-lein a gwmpesir gan y Ddeddf y gallwn gymryd camau gweithredu yn ei gylch, gan ddefnyddio'r pwerau a roddwyd i ni. Byddai unrhyw newidiadau i'r pwerau hyn yn fater i'r Llywodraeth a'r Senedd. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi dweud y bydd y Llywodraeth yn ystyried sut y dylid rheoleiddio chatbots ac rydym yn cefnogi'r gwaith hwnnw.[4]
Nid ydym yn ymchwilio i xAI ar hyn o bryd
Pan agorwyd ein hymchwiliad i X, gwanethom ddweud ein bod yn asesu p’un a ddylem hefyd ymchwilio i xAI, fel darparwr y gwasanaeth Grok annibynnol. Rydym yn parhau i fynnu atebion gan xAI am y risgiau y mae'n eu peri. Rydym yn archwilio a ddylid lansio ymchwiliad i'w gydymffurfiaeth â'r rheolau sy'n ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau sy'n cyhoeddi deunydd pornograffig ddefnyddio gwiriadau oedran hynod effeithiol i atal plant rhag cael mynediad i'r cynnwys hwnnw.
Oherwydd y ffordd y mae'r Ddeddf yn ymdrin â chatbots, fel yr eglurwyd uchod, nid ydym ar hyn o bryd yn gallu ymchwilio i greu delweddau anghyfreithlon gan y gwasanaeth Grok annibynnol yn yr achos hwn.
Ble rydyn ni yn ein hymchwiliad i X
Yn ein hymchwiliad i X, rydym ar hyn o bryd yn casglu ac yn dadansoddi tystiolaeth i benderfynu a yw X wedi torri'r gyfraith, gan gynnwys defnyddio ein pwerau casglu gwybodaeth ffurfiol. Yr wythnos ar ôl i ni lansio ein hymchwiliad, gwnaethom anfon ceisiadau am wybodaeth sy'n rhwymol gyfreithiol at X, i wneud yn siŵr bod gennym yr wybodaeth sydd ei hangen arnom gan y cwmni, ac mae ceisiadau pellach yn parhau i gael eu hanfon.
Mae'n ofynnol i gwmnïau, yn ôl y gyfraith, ymateb i bob cais o'r fath gan Ofcom mewn ffordd gywir, gyflawn ac amserol, a gallant ddisgwyl wynebu dirwyon os na wnânt hynny.
Rhaid i ni roi cyfle llawn i unrhyw gwmni yr ydym yn ymchwilio iddo wneud sylwadau ar ein hachos. Os, yn seiliedig ar y dystiolaeth, rydym o'r farn bod y cwmni wedi methu â chydymffurfio â'i ddyletswyddau cyfreithiol, byddwn yn cyhoeddi penderfyniad dros dro yn nodi ein barn a'r dystiolaeth yr ydym yn dibynnu arni. Yna bydd gan y cwmni gyfle i ymateb i'n canfyddiadau yn llawn, fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf, cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol.
Camau nesaf
Gwyddom fod diddordeb sylweddol gan y cyhoedd yn ein hymchwiliad i X. Rydym yn bwrw ymlaen â'r ymchwiliad fel mater o frys a byddwn yn darparu diweddariadau ac yn bod mor agored â phosibl yn ystod y broses hon. Mae'n bwysig nodi bod ymchwiliadau gorfodi fel y rhain yn cymryd amser - misoedd fel arfer.
Rhaid i ni ddilyn rheolau llym ynghylch sut a phryd y gallwn rannu gwybodaeth yn gyhoeddus, fel sy'n wir am unrhyw asiantaeth orfodi, ac ni fyddai'n briodol darparu sylwebaeth barhaus am fanylion sylweddol ymchwiliad byw. Mae cynnal proses deg yn hanfodol i sicrhau bod unrhyw benderfyniadau terfynol yn gadarn, yn effeithiol, a'u bod yn dal eu tir.[5]
Yn yr achosion mwyaf difrifol o ddiffyg cydymffurfio parhaus gallwn wneud cais am orchymyn llys sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr band eang rwystro mynediad i safle yn y DU, ond mae'r gyfraith yn gosod bar uchel ar gyfer ceisiadau o'r fath, ac mae'n rhaid dilyn proses benodol cyn y gallwn wneud hyn. Byddai'n ymyrraeth reoleiddiol sylweddol ac nid yw'n un yr ydym yn debygol o'i wneud yn rheolaidd, o ystyried yr effaith y gallai ei gael ar ryddid mynegiant yn y DU.
Beth i'w wneud os ydych chi'n poeni am rywbeth ar-lein
Os ydych chi'n dod ar draws rhywbeth ar-lein yr ydych o’r farn y gallai fod yn niweidiol neu'n anghyfreithlon, dylech roi gwybod i'r platfform. Os ydych chi'n meddwl y gallai fod yn ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol, rhowch wybod amdano’n ddienw i'r Internet Watch Foundation.
Os ydych chi'n poeni am ddelweddau personol ohonoch chi'ch hun neu rywun rydych chi'n ei adnabod:
- Ar gyfer pobl dan 18 oed: Os ydych o dan 18 oed, gallwch riportio delweddau ohonoch eich hun neu eich cyfoedion trwy Adrodd / Dileu.
- Ar gyfer pobl dros 18 oed: Mae'r Llinell Gymorth Revenge Porn yn cynnig cefnogaeth ac adnoddau os yw'ch delwedd bersonol wedi'i rhannu heb eich caniatâd.
Mae mwy o wybodaeth am sut i gael help ac adrodd am gynnwys niweidiol ar gael yma.
Nodiadau i olygyddion:
- Mae yn erbyn y gyfraith i unrhyw un fod yn meddu ar ddelweddau o blant dan 18 oed neu'n darlunio gweithgaredd rhywiol, p'un a ydynt wedi'u creu'n artiffisial ai peidio. Mae hefyd yn erbyn y gyfraith i rannu, neu fygwth rhannu, ddelwedd bersonol o rywun o unrhyw oedran heb eu caniatâd, gan gynnwys delweddau a gynhyrchir gan AI. O 6 Chwefror, bydd hefyd yn anghyfreithlon creu, neu ofyn am greu delweddau o'r fath.
- Bydd ymchwiliad yr ICO i X a xAI yn cwmpasu datblygiad a defnyddio Grok, ac yn edrych i weld a yw data personol wedi'i brosesu’n gyfreithlon, yn deg ac yn dryloyw, ac a oedd mesurau diogelu priodol wedi'u gweithredu i atal cynhyrchu delweddau niweidiol wedi'u trin gan ddefnyddio data personol.
- Sgwrsfotiau AI a rheoleiddio ar-lein – beth sydd angen i chi ei wybod. Mae cynnwys a gynhyrchir gan AI yn cael ei gwmpasu gan y cynnwys anghyfreithlon a dyletswyddau diogelwch plant yn Rhan 3 o'r Ddeddf dim ond os yw'n 'cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr' (wedi'i rannu gan ddefnyddwyr â'i gilydd) neu 'cynnwys chwilio' (a geir yn neu drwy ganlyniadau chwilio). Nid yw cynhyrchu cynnwys chatbot arall - megis mewn rhyngweithio un-i-un rhwng defnyddiwr a chatbot nad yw'n cynnwys chwilio'r rhyngrwyd neu rannu gyda defnyddwyr eraill - yn cael ei reoleiddio o dan Ran 3, ond gallai fod o dan Ran 5 os yw'n bornograffig.
- Pwyllgor Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg Tŷ'r Cyffredin – Tystiolaeth lafar: Gwaith yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg; 3 Rhagfyr 2025
- Mae ein Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein yn nodi'r broses yn llawn.