HERO Telegram and teen chat sites investigation

Ofcom yn ymchwilio i Telegram a safleoedd sgwrsio pobl ifanc

Cyhoeddwyd: 21 Ebrill 2026

Lansio camau gorfodi ar ôl i dystiolaeth awgrymu bod deunydd cam-drin plant yn rhywiol yn cael ei rannu ar Telegram ac safleoedd sgwrsio pobl ifanc yn cael eu defnyddio gan ysglyfaethwyr i feithrin perthynas â phlant

Mae Ofcom wedi lansio ymchwiliad i Telegram o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU, i archwilio a yw'n cydymffurfio â'i ddyletswyddau i atal deunydd cam-drin plant yn rhywiol rhag cael ei rannu. 

Mae corff gwarchod diogelwch ar-lein y DU hefyd wedi agor ymchwiliadau i Teen Chat a Chat Avenue i archwilio a ydynt yn cyflawni eu dyletswyddau  i atal plant rhag y risg o feithrin perthynas ag ysglyfaethwyr. 

Yn ogystal, rydym wedi darparu diweddariadau ar wasanaethau rhannu ffeiliau sydd bellach naill ai'n defnyddio technoleg paru hash i ganfod a dileu deunydd cam-drin plant yn rhywiol (CSAM) neu wedi cymryd camau i atal pobl yn y DU rhag cael mynediad i'w platfformau. 

Dywedodd Suzanne Cater, Cyfarwyddwr Gorfodi yn Ofcom: "Mae cam-fanteisio a cham-drin plant yn rhywiol yn achosi niwed dinistriol i ddioddefwyr, ac mae sicrhau bod platfformau ac apiau yn mynd i'r afael â hyn yn un o'n prif flaenoriaethau. Dyna pam rydyn ni'n gweithio mor agos gyda phartneriaid mewn sefydliadau gorfodi'r gyfraith a diogelu plant i nodi ble mae'r niwed hwn yn digwydd a dwyn darparwyr i gyfrif lle maen nhw'n methu â chyflawni eu rhwymedigaethau. 

"Heb amheuiaeth mae cynnydd wedi'i wneud, yn enwedig gyda gwasanaethau rhannu ffeiliau, sy'n cael eu defnyddio'n rhy aml i rannu delweddau erchyll o gam-drin plant yn rhywiol. Ond mae'r broblem hon yn ymestyn i blatfformau mawr hefyd, ac mae gwasanaethau sgwrsio sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc yn cael eu defnyddio’n rhy hawdd gan ysglyfaethwyr i feithrin perthynas amhriodol. Rhaid i'r cwmnïau hyn wneud mwy i ddiogelu plant, neu wynebu canlyniadau difrifol o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein."

CSAM ar Telegram

Mae'n anghyfreithlon yn y DU i rannu neu feddu ar CSAM. O dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU, mae'n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau 'defnyddiwr-i-ddefnyddiwr' asesu a lliniaru'r risg o’r droesedd yn cael ei gyflawni ar eu platfformau.[1] 

Rydym yn gweithio'n agos gydag asiantaethau gorfodi'r gyfraith a sefydliadau eraill i nodi platfformau sy'n arbennig o agored i gael eu defnyddio gan droseddwyr ar gyfer rhannu CSAM sy'n seiliedig ar ddelweddau. 

Gwnaethom dderbyn tystiolaeth gan Ganolfan Diogelu Plant Canada ynghylch presenoldeb a rhannu honedig o ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol ar Telegram, a chynnal ein hasesiad ein hunain o'r platfform. O achos hyn, rydym wedi penderfynu agor ymchwiliad i archwilio a yw Telegram wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswyddau mewn perthynas â chynnwys anghyfreithlon.

Meithrin perthynas amhriodol ar safleoedd sgwrsio pobl ifanc

Mae cam-fanteisio a cham-drin plant yn rhywiol ar-lein â chanlyniadau dinistriol i'r rhai yr effeithir arnynt. Gall troseddau meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn erbyn plant gynnwys gorfodi plentyn i anfon delweddau rhywiol ohonynt eu hunain, gormes rywiol, a threfnu cam-drin rhywiol wyneb yn wyneb.

Mae Ofcom yn gweithio gydag asiantaethau diogelu plant i nodi gwasanaethau sy'n cyflwyno risgiau penodol o feithrin perthynas amhriodol. Mae'r gwaith hwn wedi codi pryderon am y risg i blant ar ddau wasanaeth sgwrsio o'r enw Teen Chat a Chat Avenue, sydd ag ystafelloedd sgwrsio agored, negeseuon preifat, creu proffiliau a swyddogaethau rhannu cyfryngau. 

Mae Ofcom wedi ymgysylltu â chynrychiolwyr darparwyr y gwasanaethau hyn i geisio mynd i'r afael â'r pryderon hyn. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn anfodlon ynghylch a ydynt yn darparu diogelwch digonol i blant y DU rhag y risg.  

Felly, rydym wedi agor ymchwiliadau i weld a yw darparwyr Teen Chat a Chat Avenue yn cymryd camau priodol i asesu a lliniaru'r risg y bydd defnyddwyr y DU yn dod ar draws cynnwys a gweithgaredd anghyfreithlon, gan gynnwys meithrin perthynas amhriodol. Bydd yr ymchwiliad i Chat Avenue hefyd yn ystyried a yw'r darparwr yn cymryd camau digonol i atal plant rhag dod ar draws cynnwys niweidiol, gan gynnwys pornograffi, ar y wefan.

Mynd i’r afael a CSAM ar  wasanaethau rhannu ffeiliau

Pan ddaeth dyletswyddau o dan y Ddeddf i rym y llynedd,  gwnaethom lansio camau gorfodi ar unwaith i asesu'r mesurau diogelwch a gymerir gan ddarparwyr rhannu ffeiliau i atal troseddwyr rhag lledaenu CSAM ar eu gwasanaethau. 

Fel rhan o'r gwaith hwn, daethom yn pryderus nad oedd darparwr y gwasanaeth rhannu ffeiliau Pixeldrain wedi cymryd mesurau priodol i asesu a lliniaru'r risg hon.  

Mewn ymateb i ni godi ein pryderon gyda nhw, gwnaeth darparwr Pixeldrain welliannau sylweddol i'w Asesiad Risg Cynnwys Anghyfreithlon a gweithredu paru hash canfyddiadol - offeryn awtomataidd sy'n gallu canfod a dileu CSAM yn gyflym. 

Rydym hefyd heddiw wedi cau ein hymchwiliad i'r gwasanaeth rhannu ffeiliau Yolobit, sydd wedi cymryd camau i ddileu eu gwasanaethau o bobl yn y DU. 

Mae hyn yn dilyn camau gan bum darparwr rhannu ffeiliau arall i ddod a’u gwasanaethau ar ben i ddefnyddwyr y DU ar ôl i ni lansio achos gorfodi yn eu herbyn, a dau wasanaeth arall yn defnyddio paru hash o ganlyniad uniongyrchol i'n camau gweithredu.

Proses ymchwilio Ofcom

Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn nodi'r broses y mae'n rhaid i Ofcom ei dilyn wrth ymchwilio i gwmni a phenderfynu a yw wedi methu â chydymffurfio â'i rwymedigaethau cyfreithiol.[2]

Ein cam cyntaf yw casglu a dadansoddi tystiolaeth i benderfynu a yw toriad wedi digwydd. Os, yn seiliedig ar y dystiolaeth honno, rydym o'r farn bod methiant cydymffurfio wedi digwydd, byddwn yn cyhoeddi penderfyniad dros dro i'r cwmni, a fydd wedyn yn cael cyfle i ymateb i'n canfyddiadau yn llawn, fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf, cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol.

Byddwn yn darparu diweddariadau am ein hymchwiliadau cyn gynted â phosibl. 

How Ofcom investigates under the Online Safety Act​ CY

Pwerau gorfodi

Os ydym yn canfod bod cwmni wedi torri'r gyfraith, gallwn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd camau penodol i gydymffurfio neu i unioni niwed a achosir gan y toriad. Gallwn hefyd osod dirwyon o hyd at £18 miliwn neu 10% o refeniw byd-eang cymwys, pa un bynnag sydd fwyaf. 

Yn yr achosion mwyaf difrifol o ddiffyg cydymffurfio parhaus, gallwn wneud cais i lys am 'fesurau tarfu ar fusnes', lle gallai llys osod gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr talu neu hysbysebwyr dynnu eu gwasanaethau yn ôl o blatfform, neu ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaeth rhyngrwyd rwystro mynediad i safle yn y DU. 

Awdurdodaeth y DU

Fel mewn diwydiannau eraill, rhaid i gwmnïau sy'n darparu gwasanaeth ar-lein i bobl yn y DU gydymffurfio â chyfreithiau'r DU. Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn ymwneud â diogelu pobl yn y DU. Nid yw'n gofyn i blatfformau gyfyngu ar yr hyn y gall pobl mewn gwledydd eraill ei weld.[3] 


1.    Gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr yw lle gall pobl ddod ar draws cynnwys - gan gynnwys delweddau, fideos, negeseuon neu sylwadau - sydd wedi'i gynhyrchu, ei uwchlwytho neu ei rannu gan ddefnyddwyr eraill. Mae Atodlen 6 o'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn esbonio'r troseddau cam-fanteisio'n rhywiol a cham-drin plant sy'n droseddau blaenoriaeth o dan y Ddeddf.
2.    Gellir dod o hyd i'n Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein yma
3.    Mae rhagor o wybodaeth am awdurdodaeth ar gael yma