Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn ei gwneud yn ofynnol i rai gwasanaethau ar-lein gael lefelau uwch o dryloywder ac atebolrwydd ar waith, grymuso defnyddwyr gyda mwy o ddewis a rheolaeth, a diogelu defnyddwyr rhag hysbysebu twyllodrus.
Mae'r gwasanaethau hyn, a elwir yn wasanaethau categoreiddio, ymhlith y gwasanaethau ar-lein a ddefnyddir fwyaf eang yn y DU. Ofcom, fel y rheoleiddiwr diogelwch ar-lein, sy’n gyfrifol am sicrhau bod darparwyr y gwasanaethau hyn yn cydymffurfio â'r cyfrifoldebau ychwanegol a roddir arnynt.
Mae'r gofrestr gyhoeddedig o wasanaethau wedi'u categoreiddio yn nodi pa wasanaethau sydd wedi’u categoreiddio ac felly’n destun i ddyletswyddau ychwanegol o dan y Ddeddf.
Cofrestr o wasanaethau wedi'u categoreiddio
Mae amodau trothwy Categori 1 yn cael eu bodloni gan wasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig lle mae'n bodloni, mewn perthynas â rhan defnyddiwr-i-ddefnyddiwr y gwasanaeth hwnnw, mae ganddo:
- nifer cyfartalog o ddefnyddwyr gweithredol misol y Deyrnas Unedig sy'n fwy na 34 miliwn, ac yn defnyddio system argymell cynnwys; neu
- nifer cyfartalog o ddefnyddwyr gweithredol misol y Deyrnas Unedig sy'n fwy na 7 miliwn, mae’n defnyddio system argymell cynnwys, ac mae’n darparu swyddogaeth i ddefnyddwyr anfon ymlaen neu rannu cynnwys rheoleiddiedig a gynhyrchir gan ddefnyddwyr ar y gwasanaeth gyda defnyddwyr eraill y gwasanaeth hwnnw.
| Enw'r gwasanaeth | Disgrifiad o'r gwasanaeth | Darparwr gwasanaeth |
|---|---|---|
| Gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig gwasanaeth cyfun - gwasanaeth cyfryngau cymdeithasol | Meta Platforms, Inc | |
| Gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig gwasanaeth cyfun - gwasanaeth cyfryngau cymdeithasol | Meta Platforms, Inc. | |
| Gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth cyfryngau cymdeithasol | Pinterest Europe, Ltd | |
| Quora | Gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig - fforwm trafod | Quora, Inc. |
| Gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig - fforwm trafod | Reddit, Inc | |
| Roblox | Gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig – gwasanaeth chwarae gemau fideo | Roblox Corporation |
| Snapchat | Gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth cyfryngau cymdeithasol | Snap Group Limited |
| TikTok | Gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth cyfryngau cymdeithasol | TikTok Information Technologies UK Limited |
| Gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth negeseuon | WhatsApp LLC | |
| X | Gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth cyfryngau cymdeithasol | X Internet Unlimited Company |
| YouTube | Gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth rhannu fideos | Google LLC |
Mae amodau trothwy Categori 2A yn cael eu bodloni gan wasanaeth chwilio rheoleiddiedig neu wasanaeth cyfunol, lle mae'r peiriant chwilio:
â nifer cyfartalog o ddefnyddwyr gweithredol misol y Deyrnas Unedig sy'n fwy na 7 miliwn,
nid yw'n beiriant chwilio sydd (i) ond yn galluogi defnyddiwr i chwilio gwefannau neu gronfeydd data dethol yn unig mewn perthynas â phwnc, thema neu genre penodol o gynnwys chwilio, a (ii) yn cael ei hwyluso trwy drefniant perthnasol.
| Enw'r gwasanaeth | Disgrifiad o'r gwasanaeth | Darparwr gwasanaeth |
|---|---|---|
| Google Search | Gwasanaeth chwilio rheoleiddiedig – Gwasanaeth chwilio | Google LLC |
| Bing | Gwasanaeth chwilio rheoleiddiedig – Gwasanaeth chwilio | Microsoft Ireland Operations Limited |
| ChatGPT (ChatGPT Search) | Peiriant chwilio gwasanaeth chwilio rheoleiddiedig – cynorthwyydd chwilio Deallusrwydd Artiffisial (AI) Search Assistant [1] | OpenAI OpCo, LLC |
| Facebook (Feed Deep Dive) | Peiriant chwilio – Cynorthwyydd AI [2] | Meta Platforms, Inc. |
[1] Troednodyn: Mae ChatGPT Search ar ChatGPT ('ChatGPT Search') yn beiriant chwilio sydd wedi'i gynnwys ar ChatGPT, sydd felly’n wasanaeth chwilio rheoleiddiedig. Felly, mae'n ofynnol i OpenAI OpCo, LLC gyflawni’r dyletswyddau diogelwch ychwanegol ar gyfer gwasanaethau Categori 2A mewn perthynas â dylunio, gweithredu a defnyddio'r peiriant chwilio (ChatGPT Search) yn y DU, a'r cynnwys chwilio a gyflwynir i ddefnyddwyr trwy weithrediad y peiriant chwilio hwnnw. Nid yw hyn yn gyfystyr â chanfyddiad bod yn ofynnol i OpenAI OpCo, LLC fodloni'r dyletswyddau diogelwch ychwanegol ar gyfer holl swyddogaeth y sgwrbot ar ChatGPT lle nad yw'r cynnwys hwnnw'n gyfystyr â chynnwys chwilio.
[2] FTroednodyn: Mae Feed Deep Dive yn beiriant chwilio cyhoeddus sydd wedi'i gynnwys ar Facebook, sydd felly’n wasanaeth cyfunol. Felly, mae'n ofynnol i Meta Platforms, Inc. gyflawni’r dyletswyddau diogelwch ychwanegol ar gyfer gwasanaethau Categori 2A mewn perthynas â dylunio, gweithrediadau a defnyddio'r peiriant chwilio (Feed Deep Dive) yn y DU, a'r cynnwys chwilio a gyflwynir i ddefnyddwyr trwy weithrediad y peiriant chwilio hwnnw. Nid yw hyn yn golygu bod yn ofynnol i Meta Platforms, Inc. fodloni'r dyletswyddau diogelwch ychwanegol ar gyfer ymarferoldeb Feed Deep Dive cyfan ar Facebook lle nad yw'r cynnwys hwnnw'n gyfystyr â chynnwys chwilio.
Mae amodau trothwy Categori 2B yn cael eu bodloni gan wasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig lle, mewn perthynas â rhan defnyddiwr-i-ddefnyddiwr y gwasanaeth hwnnw, mae:
- â nifer cyfartalog o ddefnyddwyr gweithredol misol y Deyrnas Unedig sy'n fwy na 3 miliwn,
- darparu swyddogaeth i ddefnyddwyr anfon negeseuon uniongyrchol at ddefnyddwyr eraill yr un gwasanaeth sydd wedi'i gynllunio fel na all unrhyw ddefnyddwyr eraill y gwasanaeth hwnnw ddod o hyd i negeseuon oni bai bod y defnyddiwr a anfonodd y neges neu ddefnyddiwr a dderbyniodd y neges yn cymryd camau pellach.
| Enw'r gwasanaeth | Disgrifiad o'r gwasanaeth | Darparwr gwasanaeth |
|---|---|---|
| Airbnb | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - Marchnad ar-lein (llety) | Airbnb Ireland Unlimited Company |
| Autotrader | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - marchnad ar-lein (modurol) | Auto Trader Limited |
| Discord | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth negeseuon ac ystafell sgwrsio | Discord Inc. |
| eBay | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - marchnad ar-lein | eBay (UK) Limited |
| Etsy | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - marchnad ar-lein | Etsy, Inc |
| Fortnite | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth chwarae gemau fideo | Epic Games, Inc. |
| Genius | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth rhannu gwybodaeth (cerddoriaeth) | MediaLab AI, Inc. |
| Google Messages | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig o wasanaeth cyfun - Gwasanaeth negeseuon | Google LLC |
| Gumtree | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - marchnad ar-lein | Gumtree.com Limited |
| Indeed | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - marchnad ar-lein (swyddi) | Indeed UK Operations Limited |
| iMessage | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth negeseuon | Apple Distribution International Limited |
| Messenger | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig o wasanaeth cyfun - gwasanaeth negeseuon | Meta Platforms, Inc. |
| Mumsnet | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - fforwm trafod | Mumsnet Limited |
| Nextdoor | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth cyfryngau cymdeithasol | Nextdoor Europe UK Ltd |
| SoundCloud | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig – gwasanaeth ffrydio sain | SoundCloud Global Limited & Co. KG |
| Pornhub | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth pornograffi | Aylo Freesites Ltd |
| Steam | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth gemau | Valve Corp. |
| Strava | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth olrhain ffitrwydd | Strava, Inc. |
| Twitch | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - Gwasanaeth ffrydio byw | Twitch UK Limited |
| Uber Eats | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - marchnad ar-lein (dosbarthu bwyd/nwyddau) | Uber Eats UK Limited |
| Vinted | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - Marchnad ar-lein | Vinted Limited |
| xHamster | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth pornograffi | Hammy Media Limited |
| xvideos.com | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth pornograffi | WebGroup Czech Republic, a.s. |
| Xbox Network (‘Xbox’) | Gwasanaeth defnyddiwr i ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth chwarae gemau fideo | Microsoft Ireland Operations Limited |
Rhestr o wasanaethau categori 1 sy'n dod i'r amlwg
Rhestr o wasanaethau categori 1 sy'n dod i'r amlwg yw rhestr o wasanaethau rheoleiddiedig sy'n bodloni 75% o'r amodau nifer defnyddwyr ar gyfer categori 1 ac o leiaf un o'r amodau ymarferoldeb perthnasol.
Nid oes gan wasanaethau sydd ar y rhestr y gwasanaethau categori 1 sy'n dod i'r amlwg ddyletswyddau ychwanegol o dan y Ddeddf.
Rhestr o wasanaethau Categori 1 sy'n dod i'r amlwg yw rhestr o wasanaethau rheoleiddiedig sy'n bodloni'r amodau canlynol:
- Yr aamod cyntaf yw bod nifer defnyddwyr yn y DU o'r rhan defnyddiwr-i-ddefnyddiwr y gwasanaeth o leiaf 75% o'r ffigur a bennir yn unrhyw un o amodau trothwy Categori 1 sy'n ymwneud â nifer y defnyddwyr, sef 25.5 miliwn (75% o 34 miliwn) neu 5.25 miliwn (75% o 7 miliwn); ac
- Yr ail amod yw:
- bod o leiaf un o amodau trothwy Categori 1 sy'n ymwneud â swyddogaethau rhan defnyddiwr-i-ddefnyddiwr y gwasanaeth yn cael ei fodloni; neu
- os yw'r Rheoliadau’n nodi bod rhaid bodloni amod trothwy Categori 1 sy'n ymwneud â swyddogaeth rhan defnyddiwr-i-ddefnyddiwr y gwasanaeth ar y cyd ag amod trothwy Categori 1 sy'n ymwneud â nodwedd arall o'r rhan honno o'r gwasanaeth neu ffactor sy'n ymwneud â'r rhan honno o'r gwasanaeth, bod o leiaf un o'r cyfuniadau hynny o amodau yn cael ei fodloni.
| Enw'r gwasanaeth | Disgrifiad o'r gwasanaeth | Darparwr gwasanaeth | Amod(au) Trothwy Categori 1 |
|---|---|---|---|
| iMessage | Gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth negeseuon | Apple Distribution International Limited | 34 miliwn o ddefnyddwyr gweithredol misol yn y Deyrnas Unedig |
| Messenger | Gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig o wasanaeth cyfun - gwasanaeth negeseuon | Meta Platforms, Inc | 34 miliwn o ddefnyddwyr gweithredol misol yn y Deyrnas Unedig |
| Threads | gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth cyfryngau cymdeithasol | Meta Platforms Inc. | [7 miliwn o ddefnyddwyr gweithredol misol yn y Deyrnas Unedig + system argymell cynnwys + swyddogaeth anfon ymlaen neu rannu] |
| Wikipedia | Gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig - gwasanaeth rhannu gwybodaeth (gwyddoniadur) | Wikimedia Foundation, Inc. | 34 miliwn o ddefnyddwyr gweithredol misol yn y Deyrnas Unedig |
Mwy o wybodaeth
Beth yw'r gofrestr?
Mae'r gofrestr gyhoeddedig o wasanaethau wedi'u categoreiddio yn nodi pa wasanaethau sydd wedi’u categoreiddio ac felly’n destun i ddyletswyddau ychwanegol o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Mae tri chategori o wasanaeth – Categori 1, Categori 2A a Chategori 2B. Nodir y dyletswyddau ychwanegol uchod.
Ychwanegir gwasanaeth at y gofrestr lle maent yn bodloni unrhyw un neu fwy o amodau trothwy Categori 1, Categori 2A a Chategori 2B. Nodir yr amodau trothwy yn Rheoliadau Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 (Amodau Trothwy Categori 1, Categori 2A a Chategori 2B) 2025.
- Bodlonir amodau trothwy categori 1 gan wasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig mewn perthynas â'r rhan defnyddiwr-i-ddefnyddiwr o'r gwasanaeth hwnnw, mae ganddo:
- nifer cyfartalog o ddefnyddwyr gweithredol misol y Deyrnas Unedig sy'n fwy na 34 miliwn, ac yn defnyddio system argymell cynnwys; neu
- nifer cyfartalog o ddefnyddwyr gweithredol misol y Deyrnas Unedig sy'n fwy na 7 miliwn, mae’n defnyddio system argymell cynnwys, ac mae’n darparu swyddogaeth i ddefnyddwyr anfon neu rannu cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr rheoleiddiedig ar y gwasanaeth gyda defnyddwyr eraill y gwasanaeth hwnnw.
- Bodlonir amodau trothwy Categori 2A gan wasanaeth chwilio rheoleiddiedig neu wasanaeth cyfunol lle mae'r peiriant chwilio:
- â nifer cyfartalog o ddefnyddwyr gweithredol misol y Deyrnas Unedig sy'n fwy na 7 miliwn,
- nid yw'n beiriant chwilio sydd (i) ond yn galluogi defnyddiwr i chwilio gwefannau neu gronfeydd data dethol yn unig mewn perthynas â phwnc, thema neu genre penodol o gynnwys chwilio, a (ii) yn cael ei hwyluso trwy drefniant perthnasol.
- Mae amodau trothwy Categori 2B yn cael eu bodloni gan wasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig lle, mewn perthynas â rhan defnyddiwr-i-ddefnyddiwr o'r gwasanaeth hwnnw mae:
- â nifer cyfartalog o ddefnyddwyr gweithredol misol y Deyrnas Unedig sy'n fwy na 3 miliwn,
- yn darparu swyddogaeth i ddefnyddwyr anfon negeseuon uniongyrchol at ddefnyddwyr eraill yr un gwasanaeth sydd wedi'i gynllunio fel na all unrhyw ddefnyddwyr eraill y gwasanaeth hwnnw ddod ar draws negeseuon oni bai bod y defnyddiwr a anfonodd y neges neu ddefnyddiwr a dderbyniodd y neges yn cymryd camau pellach.
Beth yw'r rhestr y gwasanaethau Categori 1 sy'n dod i'r amlwg?
Mae'r rhestr o wasanaethau rheoleiddiedig sy’n bodloni’r amodau a nodir yn adran 97 o’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yw rhestr y gwasanaethau Categori 1 sy'n dod i'r amlwg, trwy gyfeirio at amodau trothwy Categori 1 yn y Rheoliadau. Gan gymhwyso'r amodau hynny i’r amodau trothwyon Categori 1, rydym wedi gosod gwasanaethau sy'n bodloni'r naill neu'r llall o'r setiau canlynol o amodau ar y rhestr:
- mae gan y gwasanaeth 25.5 miliwn o ddefnyddwyr gweithredol misol cyfartalog yn y DU; neu
- mae gan y gwasanaeth 5.25 miliwn o ddefnyddwyr gweithredol misol cyfartalog yn y DU, mae'n defnyddio system argymell cynnwys ac yn darparu swyddogaeth i ddefnyddwyr anfon neu rannu cynnwys rheoleiddiedig a gynhyrchir gan ddefnyddwyr ar y gwasanaeth gyda defnyddwyr eraill y gwasanaeth hwnnw.
Nid oes gan wasanaethau sydd ar y rhestr o wasanaethau Categori 1 sy'n dod i'r amlwg ddyletswyddau ychwanegol o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
Sut mae gwasanaethau wedi'u categoreiddio?
Mae Ofcom wedi cynnal asesiadau o wasanaethau yr oeddem yn eu hystyried yn debygol o fodloni'r amodau trothwy perthnasol a amlinellir uchod.
Rydym wedi dibynnu ar y dystiolaeth orau sydd ar gael i ni i wneud yr asesiadau hynny, gan gynnwys defnyddio ein pwerau casglu gwybodaeth i ofyn am wybodaeth berthnasol gan ddarparwyr ynghylch cwmpas, swyddogaethau, nodweddion a niferoedd defnyddwyr eu gwasanaethau. Yn ogystal â hyn, rydym wedi defnyddio gwybodaeth a gasglwyd trwy ein hymchwil fewnol ein hunain a thystiolaeth arall sydd ar gael i gefnogi ein hasesiadau lle bo'n briodol.
Gwnaethom ddarparu ein penderfyniadau dros dro i ddarparwyr gwasanaethau ym mis Mawrth 2026 a gwahodd sylwadau gan ddarparwyr. Rydym wedi ystyried sylwadau darparwyr cyn cwblhau ein penderfyniadau.
Rydym wedi cyhoeddi ein penderfyniadau terfynol i ddarparwyr gwasanaeth, sy'n nodi ein hasesiad llawn o'u gwasanaethau yn erbyn amodau'r trothwy categoreiddio.
Pa mor aml y bydd y gofrestr a'r rhestr yn cael eu diweddaru?
Mae'n ofynnol i Ofcom gadw'r gofrestr a'r rhestr yn gyfredol a gellir asesu gwasanaethau a'u hychwanegu at y gofrestr neu'r rhestr neu eu tynnu oddi fel rhan o ddiweddariad yn y dyfodol. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon i esbonio mwy am sut y bydd hyn yn cael ei wneud maes o law.
A all gwasanaeth ofyn am dynnu oddi ar y gofrestr?
O dan adran 96 o'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, gall darparwyr gwasanaethau sydd wedi'u cynnwys yn y gofrestr ar unrhyw adeg ar ôl cyhoeddi ofyn i Ofcom dynnu cofnodion sy'n ymwneud â'r gwasanaeth hwnnw o'r gofrestr, neu o ran benodol o'r gofrestr. Os ydym yn fodlon, ar sail tystiolaeth a gyflwynwyd gan ddarparwr gyda chais o'r fath, bod newid wedi bod i'r gwasanaeth neu i reoliadau o dan baragraff 1 o Atodlen 11 ers y diwrnod cofrestru sy'n ymddangos yn debygol o fod yn berthnasol, rhaid i ni asesu'r gwasanaeth a hysbysu'r darparwr o'n penderfyniad. Os daw Ofcom i'r casgliad nad yw'r gwasanaeth bellach yn bodloni'r amodau trothwy perthnasol, rhaid i Ofcom ddileu’r cofnodion cyfatebol o'r gofrestr.
Gellir dod o hyd i wybodaeth fwy manwl yn y ddogfen Cwestiynau Cyffredin.
Pa ddyletswyddau fydd yn berthnasol i wasanaethau wedi'u categoreiddio?
Mae'n ofynnol i wasanaethau wedi'u categoreiddio cydymffurfio ag ystod o ddyletswyddau ychwanegol, yn dibynnu ar ba gategori y maent yn perthyn iddo. Mae'r gofynion ychwanegol hyn yn canolbwyntio'n bennaf ar ddod â lefel briodol o ddiogelwch, tryloywder ac atebolrwydd i'r byd ar-lein, gan adlewyrchu natur gwasanaethau hynny. Mae mwy o fanylion am y dyletswyddau hyn a pha wasanaethau y byddant yn berthnasol iddynt wedi'u cynnwys yn y tabl isod.

Rydym yn ymgynghori ar y dyletswyddau ychwanegol sy'n ymwneud â hysbysebu twyllodrus, telerau gwasanaeth, cwynion, grymuso defnyddwyr, gwirio hunaniaeth defnyddwyr, cynnwys cyhoeddwr newyddion, cynnwys newyddiadurol, a chynnwys o bwys democrataidd. Ni fydd yr ymgynghoriad hwn yn ymdrin ag adrodd tryloywder, dyletswyddau defnyddwyr sy’n blant a fu farw, y dyletswyddau asesu risg ychwanegol, na'r dyletswyddau cadw cofnodion gwell gan fod y dyletswyddau hyn eisoes wedi'u hymgynghori arnynt. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth.
Cynnwys cysylltiedig