
Fel corff gwarchod diogelwch ar-lein y DU, mae Ofcom yn rheoleiddio mwy na 100,000 o gwmnïau, llawer ohonynt wedi'u lleoli’n gyfan gwbl y tu allan i'r DU. Nid yw hyn yn golygu eu bod y tu allan i gwmpas y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Fel mewn diwydiannau eraill, rhaid i gwmnïau sy'n darparu gwasanaeth ar-lein i bobl yn y DU gydymffurfio â chyfreithiau'r DU, does dim ots ble maent wedi'u lleoli.
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i yrru cydymffurfiaeth ac, yn y pen draw, diogelu’r cyhoedd, yn enwedig plant. Un o'r ffyrdd rydym yn gwneud hyn yw trwy gamau gweithredu gorfodi ffurfiol. Os byddwn ni’n canfod nad yw cwmni wedi cydymffurfio â'i ddyletswyddau, gallwn osod dirwyon o hyd at £18 miliwn neu 10% o’u refeniw byd-eang cymwys, pa un bynnag sydd fwyaf.
Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn nodi bod yn rhaid i ni ganiatáu cyfnod rhesymol o amser i gwmnïau dalu dirwy, sef leiaf 28 diwrnod.
Beth all Ofcom ei wneud ynglŷn â dirwyon heb eu talu?
Os yw cwmni’n methu â thalu dirwy, byddwn yn ceisio adennill y ddyled honno lle bynnag y bo modd, dim ots ble mae'r cwmni wedi'i leoli. Mae'r camau ar gyfer y camau adfer hyn yn amrywio gan ddibynnu ar b’un a oes gan y cwmni asedau yn y DU ai peidio.
Os oes gan gwmni asedau yn y DU – fel sydd fel arfer yn wir am y cwmnïau technoleg mwyaf, yn ogystal â chwmnïau telathrebu a darlledwyr y DU – mae'r broses yn gymharol syml. Byddai hyn fel arfer yn golygu mynd trwy lysoedd y DU i gael dyfarniad sy'n cadarnhau bod swm y gosb ariannol yn ddyledus fel dyled. Gelwir hyn yn aml yn 'dyled dyfarniad'.
Unwaith y bydd hyn wedi'i sicrhau, mae'n bosibl gorfodi'r dyfarniad. Gallai hyn gynnwys cael gorchmynion llys sy'n caniatáu i feilïaid atafaelu a gwerthu asedau'r cwmni yn y DU er mwyn bodloni'r ddyled.
Os nad oes gan gwmni asedau yn y DU, mae cael dyled dyfarniad a gorfodi yn fwy cymhleth a heriol. Yn aml, mae angen ymgysylltu ag asiantaethau gorfodi'r gyfraith ac arbenigwyr preifat mewn gwledydd eraill i nodi unigolion ac asedau y gall Ofcom gymryd camau yn eu herbyn.
Mae rhai darparwyr gwasanaeth ar-lein wedi strwythuro eu hunain yn fwriadol i geisio osgoi camau gorfodi – er enghraifft, trwy ymgorffori eu hunain mewn awdurdodaethau lle mae angen darparu gwybodaeth gyfyngedig i'r gofrestr gorfforaethol.
Gall p'un a ydym yn gallu adennill dyled trwy asedau mewn gwlad arall hefyd ddibynnu ar a fydd llys yn y wlad honno yn cydnabod dyfarniad llys y DU, ac a allwn nodi unigolion y gallwn gyflwyno achos cyfreithiol iddynt.
Rydym wedi cychwyn gwaith ynghylch mynd ar drywydd dyled gan bob cwmni nad ydynt wedi talu eu dirwyon erbyn eu dyddiadau cau.
A ellir rhwystro platfform yn y DU am beidio â thalu dirwy?
Yn yr achosion mwyaf difrifol o ddiffyg cydymffurfio parhaus, gallwn wneud cais i lys am 'fesurau tarfu ar fusnes', lle gallai llys ei gwneud yn ofynnol i drydydd partïon fel darparwyr gwasanaeth rhyngrwyd rwystro mynediad i safle yn y DU.
Fodd bynnag, nid oes gennym y pwerau cyfreithiol i wneud cais i rwystro safle yn y DU am fethu â thalu dirwy yn unig. Er mwyn i ni allu gwneud cais i lys am fesurau tarfu ar fusnes, mae'n rhaid bod diffyg cydymffurfio â dyletswyddau parhaus o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
Er mwyn osgoi amheuaeth, nid oes gan Ofcom na llysoedd y DU y pŵer i 'gau' gwefan yn fyd-eang drwy'r broses mesur tarfu ar fusnes.
Cynnwys cysylltiedig