Man on tablet scam alert hero

Rhaid i Gwmnïau Technoleg Fawr fynd i'r afael â hysbysebion sgam, meddai Ofcom

Cyhoeddwyd: 10 Gorffennaf 2026
    • Mae Ofcom yn galw am weithredu cadarn ar hysbysebion twyllodrus ar-lein ac yn nodi bron i 40 o fesurau diogelwch newydd i wefannau ac apiau mawr eu mabwysiadu
    • Mae'r rheolau'n cynnwys gwahardd cyfrifon sy'n postio hysbysebion sgam a'u gwneud yn haws i'w riportio – ni ddylai cwmnïau "lusgo eu traed" a gall gwelliannau ddechrau nawr
    • Mae’r ymdrechion gwrth-dwyll yn rhan o ofynion newydd ehangach ar gyfer y platfformau ar-lein mwyaf

    Bydd cwmnïau Technoleg Fawr neu ‘Big Tech’ yn atebol am fynd i'r afael â hysbysebion sgam ar eu platfformau, o dan reolau newydd arfaethedig sy’n ymladd twyll a gyhoeddwyd heddiw gan Ofcom.

    Mae cynigion heddiw ar fynd i'r afael â hysbysebion sgam â thâl yn gam arall yn y gwaith o weithredu'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein a byddant yn berthnasol i rai o wefannau ac apiau mwyaf poblogaidd y DU – gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau chwilio – yn unol â'r meini prawf a osodwyd gan y Llywodraeth [1].

    Mae mwy na £40 biliwn y flwyddyn yn cael ei wario ar hysbysebu digidol ledled y DU, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o'r refeniw a enillir gan y cewri technoleg sy'n gwerthu'r hysbysebion.

    Ond nid yw cwmnïau technoleg wedi gwneud digon i ddiogelu pobl rhag seiberdroseddwyr sy'n defnyddio eu platfformau, a gall hysbysebion sgam gael canlyniadau dinistriol i ddioddefwyr, gan gynnwys colled ariannol a gofid emosiynol.

    Mae dros hanner (51%) o oedolion wedi dod ar draws hysbysebion a allai fod yn dwyllodrus ar-lein, gyda dros draean (36%) yn eu gweld yn aml [2]. Amcangyfrifir bod cyfanswm o dros £200 miliwn yn cael ei golli gan ddioddefwyr y mathau hyn o sgamiau yn y DU ar gyfartaledd bob blwyddyn [3].

    Mae cod hysbysebu twyllodrus drafft Ofcom, a gyhoeddwyd heddiw, yn golygu y bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i Gwmnïau Technoleg Fawr am y tro cyntaf roi mesurau cadarn ar waith i fynd i'r afael â hysbysebu sgam, pan ddaw i rym [4].

    Mae gwaith Ofcom yn rhan o ymdrech ehangach i fynd i'r afael â thwyll, y drosedd fwyaf cyffredin yn y DU. Gall twyll ddechrau ar-lein cyn symud i rywle arall, ac rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid fel awdurdodau gorfodi'r gyfraith, busnesau, a sefydliadau sy'n cynrychioli defnyddwyr [5].

    Rhoi diwedd at dwyll hysbysebion i bawb

    Mae ein cod drafft uchelgeisiol yn nodi bron i 40 o fesurau ymarferol newydd y dylai platfformau mawr eu rhoi ar waith i ddiogelu eu defnyddwyr rhag sgamiau. Mae ein disgwyliadau’n cynnwys:

    • gwahardd actorion drwg sy'n postio hysbysebion sgam ac atal troseddwyr rhag creu cyfrifon newydd;
    • atal twyllwyr sy'n esgus cynrychioli busnesau cyfreithlon trwy wirio bod pobl sy’n sefydlu cyfrifon hysbysebu newydd yn gweithio i’r sawl y maent yn honni eu bod yn gweithio iddynt;
    • atal twyllwyr ariannol trwy sicrhau bod unrhyw un sy'n postio hysbyseb ar gyfer gwasanaethau bancio neu fuddsoddi yn cael caniatâd cyfreithiol i wneud hynny, er enghraifft, trwy fod wedi’i gofrestru gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol;
    • cynyddu mesurau diogelwch i leihau'r risg o gyfrifon yn cael eu herwgipio;
    • mynd i’r afael â throseddwyr sy'n manteisio ar offer creu hysbysebion AI i greu cynnwys sgam, trwy eu profi'n drylwyr i leihau'r risg o gamddefnyddio; a
    • grymuso cyrff dibynadwy, fel awdurdodau gorfodi'r gyfraith, trwy sefydlu sianel bwrpasol iddynt fflagio hysbysebion sgam, y mae'n rhaid eu dileu'n gyflym.

    Rydym hefyd eisiau gweld technoleg ragweithiol yn cael ei defnyddio i hidlo hysbysebion twyllodrus yn llygad y ffynnon, a byddwn yn cyflwyno ymgynghoriad ar wahân ar gynigion manwl yn yr hydref eleni ochr yn ochr â phecyn ehangach o fesurau diogelwch newydd i gryfhau ein gwaith diogelwch ar-lein ymhellach.

    Mae ein hymgynghoriad ar y cynigion a gyhoeddwyd heddiw ar agor tan 2 Hydref, ac ar ôl ystyried yr ymatebion, byddwn yn nodi ein penderfyniadau terfynol y flwyddyn nesaf.

    Rydym yn glir, fodd bynnag, nad oes angen i blatfformau aros i'n mesurau newydd ganolbwyntio mwy o fuddsoddiad a sylw uwch ar ddiogelu pobl rhag hysbysebion sgam.

    Ar ôl i Senedd y DU eu cymeradwyo, bydd ein Codau yn dod i rym a gall cwmnïau sy'n methu â chyrraedd y safon fod yn destun camau gorfodi – gan gynnwys dirwyon o hyd at £18 miliwn neu 10% o’u refeniw byd-eang, pa un bynnag sydd fwyaf.

    Dywedodd Oliver Griffiths, Cyfarwyddwr Grŵp Diogelwch Ar-lein Ofcom: "Am rhy hir, mae dioddefwyr wedi bod yn agored i hysbysebion sgam ar-lein, a dydy’r cewri technoleg ddim wedi gwneud digon i frwydro yn erbyn y twyllwyr sy'n defnyddio eu platfformau.

    "Heddiw rydym wedi nodi bron i 40 o fesurau ymarferol, amddiffynnol i gwmnïau eu mabwysiadu.  Rydym yn disgwyl i gwmnïau gymryd camau cadarn i ddileu hysbysebion sgam a chael gwared ar yr actorion drwg y tu ôl iddynt i ddiogelu eu defnyddwyr

    "Ni ddylai platfformau lusgo eu traed – gallant ddechrau gwneud gwelliannau er budd eu defnyddwyr yn syth. A gall safleoedd ac apiau sy'n methu â chyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol, unwaith y byddant mewn grym, ddisgwyl wynebu canlyniadau difrifol."

    Dywedodd Nick Sharp, Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Troseddau Economaidd Cenedlaethol: ''Mae twyll yn parhau i achosi niwed sylweddol i unigolion a busnesau ledled y DU, gyda throseddwyr yn manteisio mwyfwy ar blatfformau ar-lein a'u seilwaith hysbysebu i gyrraedd dioddefwyr.

    "Rydym yn croesawu ymgynghoriad Ofcom ar y Ddyletswydd Hysbysebu Dwyllodrus o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein a'r cyfle i gryfhau ymdrechion ar y cyd i atal twyllwyr rhag defnyddio gwasanaethau ar-lein i hwyluso troseddu.

    "Mae cydweithredu effeithiol rhwng sefydliadau rheoleiddio, diwydiant a gorfodi'r gyfraith yn hanfodol i ddiogelu’r cyhoedd a lleihau niwed sy'n gysylltiedig â thwyll."

    Dywedodd Steve Smart, cyfarwyddwr gweithredol arweiniol ar gyfer ymladd troseddau ariannol yn yr FCA: "Rydym yn cefnogi cynigion Ofcom ar gyfer mynd i’r afael â thwyll ar-lein sy'n cael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr ac yn tanseilio'r system ariannol.

    "Rhaid i gwmnïau technoleg wneud mwy i atal hysbysebion sgam sy'n targedu defnyddwyr a busnesau'r DU. Does dim rhaid iddyn nhw aros am y rheolau newydd hyn a dylent weithredu  ar unwaith."

    Dyletswyddau ychwanegol ar gyfer platfformau

    Ar wahân, rydym heddiw wedi cyhoeddi set ehangach o reolau drafft o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein i wneud cwmnïau'n fwy atebol a rhoi mwy o reolaeth i'w defnyddwyr dros eu profiad ar-lein.

    Bydd y rhain hefyd yn berthnasol i rai o'r platfformau a ddefnyddir yn fwyaf eang – fel Facebook, TikTok a Snapchat – a elwir yn 'wasanaethau Categori 1', yn seiliedig ar feini prawf a osodwyd gan y Llywodraeth [6].

    Ar gyfer y gwasanaethau hyn, mae yna ystod o ofynion newydd, gan gynnwys:

    • Diogelu newyddion, newyddiaduraeth a chynnwys o bwys democrataidd. Mae rhyddid mynegiant yn gonglfaen i'n cymdeithas a rhaid ei barchu ar-lein. Bydd canllawiau drafft heddiw yn helpu i ddiogelu newyddion a newyddiaduraeth ac yn rhoi mwy o lais i sefydliadau cyfryngau pan fydd platfformau’n ceisio cymedroli neu ddileu eu cynnwys. Ac rydym yn cynnig mesurau newydd i sicrhau bod safleoedd ac apiau yn cymryd mwy o ofal gyda chynnwys sydd o bwys democratiaeth, fel cynnwys newyddiadurol a dadleuon gwleidyddol.
    •  Rhoi mwy o reolaeth i ddefnyddwyr sy’n oedolion. Mae'r gyfraith eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau fynd i'r afael â chynnwys anghyfreithlon, a diogelu plant rhag cynnwys sy'n niweidiol ond nid yn droseddol. Rydym nawr yn cynnig bod platfformau yn rhoi offer i oedolion i helpu i gadw cynnwys hunanladdiad, hunan-niweidio, anhwylder bwyta, a chynnwys casineb neu gam-drin allan o'u porthiannau. Ochr yn ochr â hyn, rhaid rhoi’r dewis i bobl hidlo cynnwys o gyfrifon nad ydynt wedi’u gwirio, ac atal eu postiadau eu hunain rhag cael eu gweld ganddyn nhw. Gyda'i gilydd, bydd y mesurau hyn yn helpu pobl i warchod rhag cynnwys sy’n peri gofid ac aflonyddwch ar-lein.
    • Bod yn fwy atebol. Rydym yn disgwyl i wefannau ac apiau gael rheolau clir a hygyrch i ddefnyddwyr, a glynu wrthynt. A phan fydd rhywbeth o'i le, dylai cwyno fod yn hawdd ac yn syml.

    Yn ogystal, bydd y platfformau hyn yn wynebu mwy o graffu trwy orfod cyhoeddi crynodeb o'u hasesiadau o risgiau cynnwys anghyfreithlon a niwed i blant ar eu gwasanaethau a bod yn fwy tryloyw.

    Mae'r ymgynghoriad ar y mesurau hyn yn cau ar 2 Hydref, a bydd ein penderfyniadau terfynol yn cael eu cyhoeddi’r flwyddyn nesaf.

    Nodiadau i Olygyddion

    1. Bydd y dyletswyddau ar hysbysebu twyllodrus yn berthnasol i blatfformau sy'n dod o dan Gategori 1 neu Gategori 2a ar y Gofrestr o Wasanaethau wedi'u Categoreiddio. Yn ymarferol, mae hynny'n golygu cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau chwilio sy'n pasio trothwyon penodol ar gyfer niferoedd, swyddogaethau a nodweddion defnyddwyr y DU, yn unol â'r meini prawf a osodwyd gan y Llywodraeth.
    2. Mae ystadegau yn cyfeirio at 51% o oedolion sydd ar-lein wedi gweld hysbyseb a allai fod yn dwyllodrus ar gyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau chwilio a phlatfformau rhannu fideo. Ffynhonnell: Hysbysebion â thal ar-lein Ofcom.
    3. Ffynhonnell: Manylion pellach ar ragdybiaethau a dadansoddiad economaidd.
    4. Mae'r mesurau a nodir heddiw yn adeiladu ar ddyletswyddau cyfreithiol presennol ar gyfer pob platfform o fewn cwmpas y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, sydd eisoes mewn grym, i fynd i'r afael â chynnwys twyllodrus lle nad yw'n rhan o hysbyseb â thal.
    5. Ffynhonnell: Asiantaeth Troseddu Genedlaethol.
    6. Categoreiddio – cyd-destun allweddol:
    • Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn nodi y bydd dyletswyddau cyfreithiol ychwanegol ar gyfer 'gwasanaethau wedi'u categoreiddio'.
    • Mae tri chategori. Mae'r meini prawf ar gyfer penderfynu a yw platfform yn dod o fewn un o'r categorïau hyn yn ymwneud â niferoedd defnyddwyr, swyddogaethau a nodweddion gwasanaeth.
    • Gosodwyd y meini prawf hyn gan y Llywodraeth mewn is-ddeddfwriaeth, a rôl Ofcom yw eu gweithredu.
    • Yn unol â'r Ddeddf, mae safleoedd ac apiau yng Nghategori 1 yn destun i ystod o ddyletswyddau ychwanegol. Bydd setiau llai o ddyletswyddau ychwanegol yn berthnasol i blatfformau yn y ddau gategori arall.
    • Categori 1 yw gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sydd naill ai: (1) 34 miliwn o ddefnyddwyr yn y DU a system argymell cynnwys, neu (2) 7 miliwn o ddefnyddwyr yn y DU, system argymell cynnwys a'r gallu i ddefnyddwyr rannu/anfon ymlaen cynnwys.
    • Categori 2a yw gwasanaethau chwilio – h.y. peiriant chwilio neu safle neu ap gyda swyddogaeth chwilio sy'n gallu tynnu canlyniadau o ystod o ffynonellau – gyda dros 7 miliwn o ddefnyddwyr yn y DU.
    • Mae Categori 2B yn blatfformau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sy'n caniatáu i ddefnyddwyr anfon negeseuon uniongyrchol ac mae ganddynt fwy na 3 miliwn o ddefnyddwyr yn y DU.
    • Heddiw rydym hefyd wedi cyhoeddi'r Gofrestr o Wasanaethau wedi'u Categoreiddio.
    • Mae'r dyletswyddau sy'n berthnasol i bob categori i'w gweld yma:

    categorised services duties