Ymchwiliad i gydymffurfiaeth 8579 LLC â'r ddyletswydd i atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig trwy ddefnyddio sicrwydd oedran

Cyhoeddwyd: 31 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd diwethaf: 31 Mawrth 2026

Ar agor

Ymchwiliad i

8579 LLC

Achos wedi’i agor

30 Gorffennaf 2025

Crynodeb

Rydym yn ymchwilio i weld a yw 8579 LLC wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 i atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig ar ei wasanaeth trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol. Rydym hefyd yn ymchwilio a yw 8579 LLC wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswydd i ymateb yn gywir i hysbysiad gwybodaeth a anfonwyd o dan y Ddeddf.

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Adrannau 12 a 100 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023

Heddiw, cyhoeddodd Ofcom fersiwn nad yw'n gyfrinachol o'r Penderfyniad Cadarnhau a gyhoeddwyd gennym i 8579 LLC ar 20 Chwefror 2026 o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 ('y Ddeddf').

Mae'r Penderfyniad yn ymwneud â'n hymchwiliad i gydymffurfiaeth 8579 LLC â'i ddyletswyddau i atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig ar ei wefannau trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol, ac i ymateb i gais am wybodaeth.

Yn unol ag adran 132 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 ('y Ddeddf'), ar 20 Chwefror 2026 cyhoeddwyd  Penderfyniad Cadarnhau i 8579 LLC mewn perthynas â'i fethiant i gydymffurfio ag adran 12 o'r Ddeddf a'i fethiant i gydymffurfio â chais am wybodaeth statudol.

Methu â chydymffurfio ag adran 12 o'r Ddeddf

Mae Ofcom wedi penderfynu bod 8579 LLC wedi methu â chydymffurfio ag adran 12 o'r Ddeddf, ac mae'r methiant hwn yn parhau mewn perthynas ag un o'r gwasanaethau y mae'n ei weithredu. Mae adran 12 yn gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau Rhan 3 sy'n caniatáu cynnwys pornograffig, ac sy'n debygol o gael eu cyrchu  gan blant, i sicrhau bod plant yn cael eu hatal rhag dod ar draws cynnwys pornograffig trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol.

O 25 Gorffennaf 2025 tan o leiaf 19 Tachwedd 2025, methodd 8579 LLC â gweithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol ar ei wasanaethau crazyporn.xxx, hoes.tube, a love4porn.com. Ar gyfer justpornflix.com, mae'r methiant hwn yn parhau.

Yn wreiddiol, roedd cwmpas ein hymchwiliad hefyd yn cynnwys y gwasanaethau 4kporn.xxx a 429.xxx. Fodd bynnag, yn dilyn newid mewn darparwr cyn i Ofcom gyhoeddi ei Benderfyniad Dros Dro - o 8579 LLC i Reply Buzzer Ltd – nid ydym wedi gwneud canfyddiadau mewn perthynas â’r safle  yn ein penderfyniad terfynol.

Rydym yn gosod cosb o £1,350,000 ar 8579 LLC mewn perthynas â thorri adran 12. Gosodwyd y gosb hon o ystyried ein Canllawiau Cosb.

Yn ogystal, mae'n ofynnol i 8579 LLC bellach gydymffurfio ag adran 12 trwy gymryd camau i weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol ar justpornflix.com, y mae'n dal i fod yn ddarparwr ohono, erbyn 5pm GMT ar 23 Chwefror 2026.

Os bydd 8579 LLC yn methu â chydymffurfio â'r gofyniad hwn, bydd cosb ddyddiol o £1,000  yn cael ei gosod gan ddechrau o 23 Chwefror 2026 nes bod y ddyletswydd adran 12 yn cael ei chydymffurfio, neu 3 Mehefin 2026, pa un bynnag sydd gyntaf.

Methu â chydymffurfio ag adran 102(8) o'r Ddeddf

Mae Ofcom hefyd wedi penderfynu bod 8579 LLC wedi methu â chydymffurfio ag adran 102(8) o'r Ddeddf drwy fethu ag ymateb i gais statudol am wybodaeth, a gyhoeddwyd fel rhan o'r ymchwiliad, o fewn amserlen benodedig. Rydym yn gosod cosb o £50,000 ar 8579 LLC mewn perthynas â thorri adran 102(8). Gosodwyd y gosb hon o ystyried ein Canllawiau Cosb.

Yn ogystal, mae'n ofynnol i 8579 LLC gymryd camau ar unwaith i ddarparu rhestr gyflawn i Ofcom o'r holl safleoedd a weithredir gan 8579 LLC.

Os bydd 8579 LLC yn methu â chydymffurfio â'r gofyniad hwn, gosodir cosb ddyddiol o £250  gan ddechrau o 21 Chwefror 2026 hyd nes y cydymffurfir â'r ddyletswydd adran 102(8) neu 22 Ebrill 2026, pa un bynnag sydd gyntaf.

Cyhoeddir fersiwn nad yw'n gyfrinachol o'r Penderfyniad Cadarnhau  maes o law.

Yn dilyn ymchwiliad, mae Ofcom wedi penderfynu dros dro bod sail resymol i gredu bod 8579 LLC wedi methu, ac yn methu, â chydymffurfio ag adran 12 o'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ('y Ddeddf').

Mae Adran 12 yn gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau sy'n dod o dan Ran 3 o'r Ddeddf, ac sy’n caniatáu cynnwys pornograffig, i sicrhau bod plant yn cael eu hatal rhag dod ar draws cynnwys pornograffig trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol.

Felly, cyhoeddodd Ofcom hysbysiad dros dro o dramgwydd i 8579 LLC ar 19 Tachwedd 2025 o dan adran 130 o'r Ddeddf.

Mae'r hysbysiad hefyd yn nodi ein barn dros dro bod 8579 LLC wedi torri ei ddyletswyddau o dan adran 102(8) o'r Ddeddf trwy fethu ag ymateb i gais statudol am wybodaeth a gyhoeddwyd fel rhan o'r ymchwiliad.

Mae'r hysbysiad yn nodi'r ffeithiau y mae Ofcom wedi dibynnu arnynt i gyrraedd ei farn dros dro, y camau yr ydym yn bwriadu eu cymryd, a'r rhesymeg dros y penderfyniadau hynny. Bydd gan 8579 LLC gyfnod o 20 diwrnod gwaith i wneud sylwadau i Ofcom, a fydd yn cael eu hystyried yn ofalus cyn dod i benderfyniad terfynol.  

Ar 14 Awst 2025, cyhoeddodd Ofcom hysbysiad gwybodaeth ffurfiol i 8579 LLC o dan adran 100 o'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein.  Ar ddyddiad y cyhoeddiad hwn, nid ydym wedi derbyn ymateb i'r hysbysiad gwybodaeth. Felly, mae Ofcom bellach wedi ehangu'r ymchwiliad hwn i gynnwys ystyried a yw 8579 LLC wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswydd i ymateb yn gywir i hysbysiad gwybodaeth a anfonwyd o dan y Ddeddf.

Yn ogystal, rydym wedi ychwanegu dau wasanaeth oedolion arall a weithredir gan 8579 LLC (www.justpornflix.com a www.429.xxx) at gwmpas ein hymchwiliad o ran a yw 8579 LLC wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan adran 12 o'r Ddeddf, i atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol. Os byddwn yn nodi unrhyw wasanaethau oedolion pellach a weithredir gan 8579 sy’n dod o fewn cwmpas y Ddeddf, efallai y byddwn yn ehangu’r ymchwiliad i gynnwys y gwasanaethau hynny.

Ar 16 Ionawr 2025, agorodd Ofcom raglen orfodi o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein ('y Ddeddf') i fonitro cydymffurfiaeth â dyletswyddau gwasanaethau rheoleiddiedig i weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol i atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig.

I ddechrau, canolbwyntiodd y rhaglen ar ddyletswyddau gwasanaethau Rhan 5 - y rhai sy'n cyhoeddi neu'n arddangos eu cynnwys pornograffig eu hunain - i weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol yn unol ag adran 81 o'r Ddeddf. Mae'r dyletswyddau hyn wedi bod yn berthnasol ers 17 Ionawr 2025. Ehangwyd y rhaglen orfodi ar 25 Gorffennaf 2025 i gynnwys gwasanaethau Rhan 3 - y rhai sy'n caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho neu gynhyrchu eu cynnwys pornograffig eu hunain.

Ar 30 Gorffennaf 2025, o dan y rhaglen orfodi estynedig hon, rydym wedi agor ymchwiliad i 8579 LLC mewn perthynas â'r safleoedd oedolion www.4kporn.xxx, www.crazyporn.xxx, www.love4porn.com, a www.hoes.tube.

Bydd ymchwiliad Ofcom yn archwilio a oes sail resymol i gredu bod y darparwr wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan adran 12 o'r Ddeddf, sy'n ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol.

Mae Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein Ofcom yn  nodi sut y bydd Ofcom fel arfer yn mynd i'r afael â gorfodi o dan y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys ein dull o gasglu a dadansoddi gwybodaeth a'r camau gweithdrefnol y mae'n rhaid i ni eu cymryd i benderfynu canlyniad yr ymchwiliad yn deg.

Byddwn yn rhoi diweddariad ar yr ymchwiliad maes o law.


Cyfeirnod yr achos

CW/01314/07/25