Ymchwiliad i gydymffurfiaeth Kick Online Entertainment S.A. â'r ddyletswydd i atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig trwy ddefnyddio sicrwydd oedran

Cyhoeddwyd: 31 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd diwethaf: 31 Mawrth 2026

Ar agor

Ymchwiliad i

Kick Online Entertainment S.A

Achos wedi’i agor

30 Gorffennaf 2025

Crynodeb

Rydym yn ymchwilio i weld a yw Kick Online Entertainment S.A. wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 i atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig ar ei wasanaeth trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol. Rydym hefyd yn ymchwilio a yw Kick Online Entertainment S.A. wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswydd i ymateb yn gywir i hysbysiad gwybodaeth a anfonwyd o dan y Ddeddf.

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Adrannau 12 a 100 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023

Heddiw, cyhoeddodd Ofcom fersiwn nad yw'n gyfrinachol o'r Penderfyniad Cadarnhau a gyhoeddwyd gennym i Kick Online Entertainment S.A. ar 11 Chwefror 2026 o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 ('y Ddeddf').

Mae'r Penderfyniad yn ymwneud â'n hymchwiliad i gydymffurfiaeth Kick Online Entertainment S.A. â'i ddyletswyddau i atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig ar ei wefannau trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol, ac i ymateb i gais am wybodaeth.

Yn unol ag adran 132 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 ('y Ddeddf'), ar 11 Chwefror 2026  gwnaethom gyhoeddi Penderfyniad Cadarnhau i Kick Online Entertainment S.A. ('Kick Online') mewn perthynas â'i fethiant i gydymffurfio ag adran 12 o'r Ddeddf a'i fethiant i gydymffurfio â chais statudol am wybodaeth.

Methu â chydymffurfio ag adran 12 o'r Ddeddf

Mae Ofcom wedi penderfynu, rhwng 25 Gorffennaf 2025 a 29 Rhagfyr 2025, fod Kick Online wedi methu â chydymffurfio ag adran 12 o'r Ddeddf. Mae Adran 12 yn gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau Rhan 3 sy'n caniatáu cynnwys pornograffig, ac sy'n debygol o gael eu cyrchu gan blant, i sicrhau bod plant yn cael eu hatal rhag dod ar draws cynnwys pornograffig drwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol.

Rhwng 25 Gorffennaf a 29 Rhagfyr 2025, methodd Kick Online â gweithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol ar ei wasanaeth, motherless.com. Ar ôl i Ofcom gyhoeddi Penderfyniad Dros Dro i Kick Online, gweithredodd ddull o sicrhau oedran sy'n gallu bod yn hynod effeithiol.

Rydym yn gosod dirwy o £800,000 ar Kick Online mewn perthynas â thorri adran 12. Gosodwyd y gosb hon o ystyried ein Canllawiau Cosb.

Methu â chydymffurfio ag adran 102(8) o'r Ddeddf

Mae Ofcom wedi penderfynu bod Kick Online wedi methu â chydymffurfio ag adran 102(8) o'r Ddeddf drwy fethu ag ymateb i gais statudol am wybodaeth o fewn yr amserlen benodedig a gyhoeddwyd fel rhan o'r ymchwiliad. Rydym yn gosod dirwy o £30,000 ar Kick Online  mewn perthynas â thorri adran 102(8). Gosodwyd y ddirwy hon gan ystyried ein Canllawiau Cosb.

Yn ogystal, mae'n ofynnol i Kick Online bellach gymryd camau ar unwaith i ddarparu rhestr gyflawn i Ofcom o'r holl safleoedd pornograffig y mae'n eu gweithredu.

Os bydd Kick Online yn methu â chydymffurfio â'r gofyniad hwn, bydd dirwy ddyddiol o £200 yn cael ei gosod gan ddechrau o 12 Chwefror 2026 hyd nes y bydd yn cydymffurfio â dyletswydd adran 102(8) neu 13 Ebrill 2026, pa un bynnag sydd gynharaf.

Bydd fersiwn nad yw'n gyfrinachol o'r Penderfyniad Cadarnhau yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Yn dilyn ymchwiliad, mae Ofcom wedi penderfynu dros dro bod sail resymol i gredu bod Kick Online Entertainment S.A ('Kick Online') wedi methu, ac yn methu, â chydymffurfio ag adran 12 o'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ('y Ddeddf'). Mae adran 12 yn gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau sy'n dod o dan Ran 3 o'r Ddeddf, ac yn caniatáu cynnwys pornograffig, i sicrhau bod plant yn cael eu hatal rhag dod ar draws cynnwys pornograffig trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol.

Felly, cyhoeddodd Ofcom hysbysiad dros dro o dorri’r gyfraith i Kick Online ar 19 Tachwedd 2025 o dan adran 130 o'r Ddeddf. Mae'r hysbysiad hefyd yn nodi ein barn dros dro bod Kick Online wedi torri ei ddyletswyddau o dan adran 102(8) o'r Ddeddf drwy fethu ag ymateb i gais statudol am wybodaeth a gyhoeddwyd fel rhan o'r ymchwiliad.  

Mae'r hysbysiad yn nodi'r ffeithiau y mae Ofcom wedi dibynnu arnynt i lunio ei farn dros dro, y camau gweithredu yr ydym yn bwriadu eu cymryd, a'r rhesymeg dros  y penderfyniadau hynny. Bydd gan Kick Online nawr gyfnod o 20 diwrnod gwaith i gyflwyno sylwadau i Ofcom, a fydd yn cael eu hystyried yn ofalus cyn dod i benderfyniad terfynol.

Ar 30 Gorffennaf 2025, cyhoeddodd Ofcom hysbysiad gwybodaeth ffurfiol i Kick Online Entertainment S.A. o dan adran 100 o'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Ar adeg cyhoeddi'r cyhoeddiad hwn, nid ydym wedi derbyn ymateb i'r hysbysiad gwybodaeth. Felly, mae Ofcom bellach wedi ehangu'r ymchwiliad hwn i gynnwys ystyried a yw Kick Online Entertainment S.A. wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswydd i ymateb yn gywir i hysbysiad gwybodaeth a anfonwyd o dan y Ddeddf.

Ar 16 Ionawr 2025, agorodd Ofcom raglen orfodi o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein ('y Ddeddf') i fonitro cydymffurfiaeth â dyletswyddau gwasanaethau rheoleiddiedig i weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol i atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig.

I ddechrau, canolbwyntiodd y rhaglen ar ddyletswyddau gwasanaethau Rhan 5 - y rhai sy'n cyhoeddi neu'n arddangos eu cynnwys pornograffig eu hunain - i weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol yn unol ag adran 81 o'r Ddeddf. Mae'r dyletswyddau hyn wedi bod yn berthnasol ers 17 Ionawr 2025. Ehangwyd y rhaglen orfodi ar 25 Gorffennaf 2025 i gynnwys gwasanaethau Rhan 3 - y rhai sy'n caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho neu gynhyrchu eu cynnwys pornograffig eu hunain.

Ar 30 Gorffennaf 2025, o dan y rhaglen orfodi estynedig hon, rydym wedi agor ymchwiliad i Kick Online Entertainment S.A. mewn perthynas â'r safle oedolion www.motherless.com.

Bydd ymchwiliad Ofcom yn archwilio a oes sail resymol i gredu bod y darparwr wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan adran 12 o'r Ddeddf, sy'n ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol.

Mae Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein Ofcom yn  nodi sut y bydd Ofcom fel arfer yn mynd i'r afael â gorfodi o dan y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys ein dull o gasglu a dadansoddi gwybodaeth a'r camau gweithdrefnol y mae'n rhaid i ni eu cymryd i benderfynu canlyniad yr ymchwiliad yn deg.

Byddwn yn rhoi diweddariad ar yr ymchwiliad maes o law.


Cyfeirnod yr achos

CW/01315/07/25