Ar agor
Y dyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 i amddiffyn plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig drwy ddefnyddio sicrwydd oedran effeithiol iawn.
First Time Videos LLC (mewn perthynas â gwefannau FTVGirls.com ac FTVMilfs.com)
10 Mehefin 2025
Mae Ofcom wedi agor rhaglen orfodi ar fesurau sicrwydd oedran ar draws y sector oedolion ym mis Ionawr 2025, gan ganolbwyntio i ddechrau ar gydymffurfiad darparwyr sy’n cael eu rheoleiddio â dyletswyddau Rhan 5.
Rydym nawr yn ymchwilio i weld a yw First Time Videos LLC wedi methu/yn methu â chydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 i ddiogelu plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig drwy ddefnyddio dulliau sicrwydd oedran effeithiol iawn.
Darpariaeth Gyfreithiol Berthnasol: Adran 81 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023.
Yn unol ag adran 132 o’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 ('y Ddeddf'), ar 18 Mehefin 2026 fe wnaethom gyhoeddi Penderfyniad Cadarnhau i First Time Videos LLC ('First Time Videos') mewn perthynas â'i fethiant i gydymffurfio ag adran 81 o'r Ddeddf.
Mae Ofcom wedi penderfynu bod First Time Videos wedi methu â chydymffurfio ag adran 81 o'r Ddeddf. Mae Adran 81 yn gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau sy'n dod o dan Ran 5 o'r Ddeddf i sicrhau, drwy ddefnyddio gwiriadau oedran hynod effeithiol neu amcangyfrif oedran hynod effeithiol (neu'r ddau), nad yw plant yn gallu dod ar draws cynnwys sy'n gynnwys pornograffig darparwr rheoleiddiedig.
Rydym yn gosod cosb o £80,000 ar First Time Videos mewn perthynas â thorri adran 81. Gosodwyd y gosb hon gan ystyried ein Canllawiau Cosb.
Bydd fersiwn nad yw'n gyfrinachol o'r Penderfyniad Cadarnhau yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Yn dilyn ymchwiliad, mae Ofcom wedi penderfynu dros dro bod sail resymol i gredu bod First Time Videos LLC wedi methu â chydymffurfio ag adran 81 o’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ('y Ddeddf').
Mae Adran 81 yn gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau sy'n dod o dan Ran 5 o'r Ddeddf i sicrhau, trwy ddefnyddio gwiriadau oedran hynod effeithiol neu amcangyfrif oedran hynod effeithiol (neu'r ddau), nad yw plant fel arfer yn gallu dod ar draws cynnwys sy'n gynnwys pornograffig darparwyr rheoleiddiedig.
Felly, cyhoeddodd Ofcom hysbysiad dros dro o dorri’r gyfraith i First Time Videos LLC ar 30 Mawrth 2026 o dan adran 130 o'r Ddeddf.
Mae'r hysbysiad yn nodi'r ffeithiau y mae Ofcom wedi dibynnu arnynt i ddod i'w farn dros dro, y camau gweithredu yr ydym yn bwriadu eu cymryd, a'r rhesymeg dros y penderfyniadau hynny. Bydd gan First Time Videos LLC gyfnod o 20 diwrnod gwaith i wneud sylwadau i Ofcom a fydd yn cael eu hystyried yn ofalus cyn dod i benderfyniad terfynol.
Ar 12 Rhagfyr 2025, cyhoeddodd Ofcom hysbysiad gwybodaeth ffurfiol i First Time Videos LLC o dan adran 100 o'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Ar ddyddiad y cyhoeddiad hwn, nid ydym wedi derbyn ymateb i'r hysbysiad gwybodaeth. Felly mae Ofcom bellach wedi ehangu'r ymchwiliad hwn i gynnwys ystyried i weld a yw First Time Videos LLC wedi methu, neu a yw'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswydd i ymateb yn gywir i hysbysiad gwybodaeth a anfonwyd o dan y Ddeddf.
Ym mis Ionawr 2025, penderfynodd Ofcom agor rhaglen orfodi o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar y dyletswyddau ar wasanaethau rhan 5 i weithredu sicrwydd oedran effeithiol iawn i atal plant rhag cael mynediad at bornograffi.
Heddiw rydym wedi agor ymchwiliad i First Time Videos LLC, (mewn perthynas â gwefannau’r stiwdio, FTVGirls.com ac FTVMilfs.com). Nid yw’n ymddangos bod y gwasanaeth wedi cymryd camau i weithredu trefniadau sicrwydd oedran effeithiol iawn ar eu gwasanaethau, fel sy’n ofynnol o dan adran 81 o’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
Bydd ymchwiliad Ofcom yn archwilio a oes sail resymol dros gredu bod y cwmni wedi methu, neu yn methu, â chydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan adran 81 yn Rhan 5 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (y ‘Ddeddf’) i ddiogelu plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig drwy ddefnyddio dulliau sicrwydd oedran effeithiol iawn.
Byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad hwn maes o law. Mae Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein Ofcom yn amlinellu ein dull arferol o orfodi o dan y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys ein dull o gasglu a dadansoddi gwybodaeth a’r camau gweithdrefnol y mae’n rhaid i ni eu cymryd i benderfynu’n deg ar ganlyniad yr ymchwiliad.