
Heddiw, mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £1.35 miliwn i'r cwmni porn 8579 LLC am beidio â chael gwiriadau oedran ar waith, ynghyd â £50,000 am fethu ag ymateb i gais am wybodaeth.
O dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU, rhaid i safleoedd sy'n caniatáu deunydd pornograffig ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i atal plant rhag cael mynediad hawdd at y cynnwys.
O fewn dyddiau i'r ddyletswydd hon ddod i rym ym mis Gorffennaf 2025, lansiodd Ofcom ymchwiliadau i ddarparwyr dwsinau o safleoedd oedolion, gan gynnwys 8579 LLC. Blaenoriaethwyd y gwefannau hyn yn seiliedig ar niferoedd defnyddwyr.
Yn dilyn ymchwiliad, rydym wedi rhoi dirwy o £1.35 miliwn i 8579 LLC am fethu â chydymffurfio â'r gofynion gwiriadau oedran hyn. Rhaid i'r cwmni weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol ar unwaith neu wynebu cosb ddyddiol o £1,000.
Anwybyddu ceisiadau statudol am wybodaeth
Mae casglu gwybodaeth gywir gan gwmnïau yn hanfodol i'n gwaith o wneud bywyd yn fwy diogel ar-lein i bobl yn y DU. Gall y ceisiadau hyn ein helpu i asesu a monitro cydymffurfiaeth y diwydiant â'u dyletswyddau diogelwch, ac mae'n ofynnol i gwmnïau, yn ôl y gyfraith, ymateb mewn ffordd gywir, gyflawn ac amserol.
Am fethu â chydymffurfio â'r gofynion hyn, rydym hefyd wedi rhoi dirwy o £50,000 i 8579 LLC. Byddwn yn gosod cosb ddyddiol o £250 ar y cwmni nes iddo ymateb, neu hyd at 60 diwrnod, pa un bynnag sydd gyntaf.
Dywedodd George Lusty, Cyfarwyddwr Gorfodi Ofcom: "Rydym wedi bod yn glir bod yn rhaid i safleoedd oedolion ddefnyddio gwiriadau oedran cadarn i ddiogelu plant yn y DU rhag gweld porn. Dylai'r rhai sy'n methu â gwneud hyn - neu anwybyddu ceisiadau cyfreithiol gennym - ddisgwyl wynebu dirwyon."