Asesiad cyflym o sicrwydd oedran hynod effeithiol ar gyfer pobl 16 oed

Cyhoeddwyd: 29 Hydref 2026

Rydym wedi cyhoeddi asesiad cyflym o’r hyn sydd gyfystyr â sicrwydd oedran hynod effeithiol i benderfynu a yw rhywun yn 16 oed neu'n hŷn.

Rydym wedi cynhyrchu'r asesiad hwn i helpu i lywio’r ddadl seneddol ar gyfyngiadau oedran newydd arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfer gwasanaethau ar-lein, sy'n cynnwys gwaharddiad cyfryngau cymdeithasol ar gyfer pobl dan 16 oed a chyfyngiadau eraill sy'n gysylltiedig ag oedran.

Mae'r Llywodraeth wedi datgan y bydd y cyfyngiadau arfaethedig yn cael eu gweithredu gan ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol. Mae ein hasesiad yn nodi'r dulliau sicrwydd oedran sydd, yn ein barn ni, yn gallu bod yn effeithiol iawn yn 16 oed ar hyn o bryd, ac yn ystyried pa mor hygyrch a chynhwysol ydyn nhw, gan gynnwys p’un a allant weithio'n effeithiol i bob defnyddiwr. Rydym hefyd yn trafod sut y gellid cryfhau dulliau sicrwydd oedran, gan gynnwys sut y gall gwasanaethau leihau'r risg y gall plant osgoi gwiriadau oedran.

Mae ein hasesiad yn dangos bod modd defnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i benderfynu a yw rhywun yn 16 oed neu'n hŷn

Rydym wedi seilio ein hasesiad ar y meini prawf a'r egwyddorion a nodir yn ein canllawiau cyfredol ar sicrwydd oedran hynod effeithiol yn 18 oed. Felly, rydym wedi asesu dulliau yn erbyn ein meini prawf cywirdeb technegol, cadernid a thegwch, ac wedi ystyried egwyddorion hygyrchedd a rhyngweithrededd (sef y gallu i weithio gyda systemau eraill).

Rydym wedi nodi pedwar dull sicrwydd oedran sy'n gallu bod yn effeithiol iawn yn 16 oed: paru ID ffotograffig, gwybodaeth bancio, gwasanaethau hunaniaeth ddigidol ac amcangyfrif oedran wyneb. Gallai darparwyr gwasanaeth hefyd gynnig tri dull ychwanegol i oedolion (dros 18 oed) a nodwyd yn ein canllawiau presennol.Dulliau sicrwydd oedran a aseswyd gennym

Mae ein hasesiad yn tynnu sylw at ystyriaethau pwysig ar gyfer hygyrchedd, preifatrwydd ac osgoi

  • Ar hyn o bryd mae llai o ddewis o ddulliau hynod effeithiol ar gyfer pobl 16 oed na 18 oed. Yn ogystal, mae pobl ifanc 16 a 17 oed yn fwy tebygol na phobl dros 18 oed o fod angen defnyddio ID ffotograffig. Y rheswm dros hyn yw, o ran y dulliau sydd ar gael ar hyn o bryd yn 16 oed, mae angen ID ffotograffig naill ai fel rhan o'r dull ei hun, neu fel mesur wrth gefn neu ‘backstop’ tebygol ar gyfer dulliau eraill, fel amcangyfrif oedran wyneb. Mae hyn yn golygu y bydd angen i bobl heb ID ffotograffig gymryd camau i gael gafael ar ID ffotograffig er mwyn gallu defnyddio gwasanaethau sy’n destun cyfyngiad oedran.
  • Bydd sicrwydd oedran yn 16 oed yn cynnwys prosesu data personol, ond gellir defnyddio'r dulliau sydd ar gael mewn ffyrdd sy'n diogelu preifatrwydd defnyddwyr ac sy’n cydymffurfio â chyfraith diogelu data. Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Comisiwn Gwybodaeth wrth ystyried y goblygiadau hyn.
  • Nid oes unrhyw ddull sicrwydd oedran sy’n gwbl ddibynadwy o ran atal pobl ifanc rhag ei osgoi. Bydd angen i ddarparwyr gwasanaeth gymryd camau ymarferol i nodi a mynd i'r afael ag ymdrechion gan blant i osgoi gwiriadau oedran.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi adroddiad statudol Ofcom ar siopau apiau, sydd wedi'i gynllunio i lywio penderfyniad y llywodraeth ynghylch dod â siopau apiau o fewn cwmpas y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.

Mae Ofcom yn datblygu canllawiau drafft ar gyfer gwasanaethau i gefnogi’r gwaith o weithredu'r cyfyngiadau oedran arfaethedig, a bydd yn ymgynghori ar ganllawiau drafft ar sicrwydd oedran hynod effeithiol yn 16 oed yn ystod y misoedd nesaf, ar ôl i’r rheoliadau drafft gael eu gosod.