PPU-(Web)

Pweru Rhieni ! Sut allwch chi helpu'ch plentyn i gadw'n ddiogel wrth chwarae gemau ar-lein

Cyhoeddwyd: 7 Medi 2026
Diweddarwyd diwethaf: 12 Hydref 2026

Ydy eich plant chi wrth eu bodd yn chwarae gemau fideo? Os felly, nid ydynt ar eu pennau eu hunain. Mae miliynau o blant yn y DU yn chwarae gemau fideo ar gonsolau, tabledi, ffonau a chyfrifiaduron. Gall chwarae gemau ar-lein fod yn ffordd wych i blant chwarae, dysgu a bod yn greadigol, ond gall hefyd ddod â risgiau. 

Fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU, mae cadw plant yn ddiogel ar-lein yn flaenoriaeth i Ofcom. Dyna pam rydyn ni wedi creu Pweru Rhieni,  ymgyrch i helpu rhieni a gofalwyr i deimlo’n fwy hyderus wrth lywio’r byd gemau fideo ar-lein sy’n newid o hyd. Fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU, mae cadw plant yn ddiogel ar-lein yn flaenoriaeth i Ofcom. 

Does dim angen i chi fod yn arbenigwr ar bob gêm neu nodwedd mae eich plentyn yn ei defnyddio. Cofiwch – chi sy’n adnabod eich plentyn orau, ac mae hynny’n fan cychwyn gwych ar gyfer ei helpu i gadw’n fwy diogel.  

Helpu’ch plentyn i chwarae’n fwy diogel ar-lein

P’un a ydyn nhw’n chwarae bob dydd, bob mis neu’n achlysurol, mae’n bwysig bod eich plentyn yn teimlo ei fod yn gallu siarad â chi am yr hyn mae’n ei weld a’i brofi wrth chwarae.

Gwirio, Sgwrsio, Newid – tri cham syml i rieni a gofalwyr  

Mae byd gemau ar-lein yn newid yn gyflym, ac mae’n gallu bod yn anodd cadw i fyny â’r holl nodweddion newydd. Y newyddion da yw nad oes angen bod yn arbenigwr i helpu’ch plentyn i chwarae’n fwy diogel. 

Rydyn ni wedi nodi camau syml y gallwch eu cymryd i helpu’ch plentyn i fwynhau holl fanteision gemau fideo ar-lein yn fwy diogel. Rydym yn gofyn i rieni a gofalwyr dreulio pum munud i:

  • gwirio bod yr oedran cywir wedi’i nodi ar gyfrif eu plentyn; 
  • sgwrsio am y gemau maen nhw’n eu chwarae a gyda phwy maen nhw’n chwarae; a 
  • newid y gosodiadau i helpu i’w cadw’n fwy diogel.

Mae rhagor o adnoddau a dolenni defnyddiol ar gael isod. Dewiswch bennawd i weld sut gallwch chi gymryd rhan ym mhob elfen o’r ymgyrch.  

Y cam cyntaf yw gwirio’r gosodiadau ar gonsolau a phlatfformau eich plentyn. Gwnewch yn siŵr bod yr oedran cywir wedi’i gofrestru ar eu cyfrif. 

Mae platfformau a gwasanaethau gemau ar-lein yn cyfyngu ar rai nodweddion, gemau neu gynnwys ar gyfer defnyddwyr iau. Felly, mae nodi’r oedran cywir yn helpu i sicrhau profiad sy’n briodol i oedran eich plentyn, yn hytrach na bod y platfform yn tybio ei fod yn hŷn. Mae hyn hefyd yn golygu, wrth i'r cyfrif fynd yn hŷn, gallai eich plentyn fod yn llai diogel, gan y gall oedrannau cofrestredig hefyd ddylanwadu ar ba nodweddion a phrofiadau y gallai plentyn gael mynediad atynt.

Os ydych chi'n ceisio penderfynu pa gemau sy'n briodol i'ch plentyn, gall canllawiau oedran PEGI eich helpu i benderfynu a yw cynnwys gêm fideo yn iawn iddyn nhw. Efallai y byddwch hefyd yn gweld symbolau sy'n esbonio pam y cafodd y gêm sgôr, fel trais, cynnwys brawychus, iaith ddrwg neu bryniannau yn y gêm. Mae canllawiau PEGI wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall cynnwys gêm, yn hytrach na phenderfynu a yw'ch plentyn yn barod i'w chwarae.  

Os hoffech ddysgu mwy am gemau penodol, mae'r Gronfa Ddata Chwarae Gemau Ar-lein i Deuluoedd yn darparu gwybodaeth fanwl am filoedd o gemau, gan gynnwys graddfeydd oedran, gwybodaeth am sut mae’r gemau’n cael eu chwarae ac argymhellion i deuluoedd.

Gall chwilio am gêm gyda'ch gilydd hefyd fod yn ffordd ddefnyddiol o ddechrau sgyrsiau gyda'ch plentyn am yr hyn maen nhw'n mwynhau ei chwarae ac a yw'r gêm yn iawn iddyn nhw. 

Cymerwch ychydig funudau i siarad yn rheolaidd â’ch plentyn am y gemau mae’n eu chwarae ar-lein ac, yn bwysig iawn, gyda phwy mae’n chwarae. 

Anogwch nhw i ddod atoch chi os byddan nhw’n gweld neu’n profi rhywbeth sy’n peri gofid wrth chwarae, neu os byddan nhw’n derbyn negeseuon rhyfedd. Rhowch sicrwydd iddyn nhw na fyddan nhw mewn trafferth am ofyn am help. 

Wrth sgwrsio â’ch plentyn am chwarae gemau ar-lein, beth am ddechrau gyda chwestiynau fel hyn?

  • Beth yw dy hoff gêm ar-lein? 
  • Beth wyt ti’n ei wneud yn y gêm?
  • Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf amdani?
  • Gyda phwy wyt ti’n chwarae amlaf? Wyt ti’n ei hadnabod nhw mewn bywyd go iawn?
  • Wyt ti erioed wedi teimlo'n anghyfforddus ar-lein?
  • Beth fyddet ti’n ei wneud pe byddet ti’n gweld rhywbeth mewn gêm  a fyddai’n gwneud i ti deimlo’n bryderus?

Gallwch hefyd adael i’ch plentyn fod yn arbenigwr. Gofynnwch iddo ddangos sut mae rhoi gwybod am rywbeth neu newid gosodiad, neu ofynnwch am daith o amgylch ei hoff gêm. Mae hyn yn ffordd dda o ddeall yn well sut mae’n chwarae. 

Os yn ystod y sgyrsiau hyn mae'ch plentyn yn dweud bod rhywbeth wedi digwydd ar-lein sydd wedi peri pryder iddo, mae ambell gam syml y gallwch chi eu cymryd.  

Ceisiwch gadw'n dawel a gwrando'n ofalus - mae'n bwysig bod yn chwilfrydig yn hytrach na mynd yn flin, fel bod eich plentyn yn teimlo'n gyfforddus yn siarad yn agored am yr hyn sydd wedi digwydd heb deimlo ei fod yn mynd i fod mewn trafferth. 

Gofynnwch gwestiynau i ddeall beth ddigwyddodd, pwy oedd yn rhan o'r hyn a ddywedwyd neu a rannwyd sy'n eu poeni. Rhowch sicrwydd i’ch plentyn ei fod wedi gwneud y peth iawn drwy siarad â chi ac na fyddwch chi’n flin. 

Yn dibynnu ar yr hyn sydd wedi digwydd, efallai yr hoffech riportio’r gêm, blocio'r defnyddwyr dan sylw, neu ofyn am gymorth pellach gan linell gymorth, yr heddlu neu ysgol eich plentyn. Darllenwch ragor am sut i wneud hyn yn ein hadran 'beth i'w wneud os bydd rhywbeth yn mynd o'i le' ar y dudalen hon.

Nawr eich bod yn gwybod mwy am y gemau mae eich plentyn yn eu chwarae a sut mae’n defnyddio ei hoff blatfformau, gallwch newid gosodiadau’r system a’r rheolaethau rhieni i’w helpu i fod yn fwy diogel. 

Mae'r opsiynau yn amrywio, yn dibynnu ar ba gemau y mae eich plentyn yn eu chwarae a pha ddyfeisiau maen eu defnyddio, ond gallant gynnwys cyfyngu ar fathau penodol o gynnwys, rheolaethau ar geisiadau i fod yn ffrindiau ac ar negeseuon, terfynau amser chwarae, preifatrwydd a chapiau gwariant.

Mae gan Internet Matters ystod o ganllawiau am reolaethau a gosodiadau rhieni: Canllawiau rheolaethau rhieni a gosodiadau preifatrwydd | Materion Rhyngrwyd 

Beth i'w wneud os bydd rhywbeth yn mynd o'i le

Anogwch eich plentyn i beidio ag ymateb i negeseuon neu ymddygiad annifyr, a siaradwch â nhw am yr offer riportio a blocio sydd ar gael ar y gemau maen nhw'n eu chwarae. Os yn bosibl, cadwch unrhyw negeseuon, sgrinluniau neu dystiolaeth arall a allai eich helpu i wneud adroddiad.

Gallwch riportio cnnwys, ymddygiad neu ddefnyddwyr yn uniongyrchol o fewn y gêm. Fodd bynnag, mae sut i wneud hyn yn amrywio rhwng gwahanol gemau, consolau a phlatfformau.

Os nad ydych yn siŵr ble i ddod o hyd i'r offer hyn, gofynnwch i'ch plentyn ddangos i chi sut i wneud hyn ar y gemau maen nhw'n eu chwarae. Gall hyn fod yn gyfle defnyddiol i ddysgu mwy am eu profiadau ar-lein a sgwrsio am yr hyn y dylent ei wneud os bydd rhywbeth yn mynd o'i le. Os oes angen help arnoch i ddod o hyd i reolaethau rhieni a nodweddion diogelwch, mae sefydliadau fel Internet Matters yn darparu canllawiau cam wrth gam ar gyfer gemau a dyfeisiau poblogaidd.

Cael help a chyngor

Mae llawer o sefydliadau sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth ymarferol i rieni a gofalwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:  

  • Internet Matters: canllawiau ar reolaethau rhieni, gosodiadau preifatrwydd a diogelwch ar-lein.
  • Childnet: cyngor i deuluoedd ar helpu plant i gadw'n ddiogel ar-lein. 
  • NSPCC: canllawiau diogelwch ar-lein a chefnogaeth i rieni a gofalwyr. 
  • Family Gaming Database gwybodaeth am gemau fideo, terfynau oedran ac argymhellion chwarae gemau ar-lein sy'n gyfeillgar i deuluoedd. 
  • Internet Watch Foundation: cyngor a chanllawiau diogelwch ar-lein ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys sextortion. 
  • Parent Zone: canllawiau ar gemau poblogaidd, gan gynnwys podlediadau ac adroddiadau.
  • Switched on to privacy: help a chyngor gyda materion sy'n ymwneud â phreifatrwydd ar-lein.
  • Ask about games (UKIE): awgrymiadau ac atebion gorau i gwestiynau am gemau fideo a'r dirwedd ar-lein ehangach.

Her Pweru Rhieni: helpu teuluoedd i siarad am gemau a diogelwch ar-lein  

Rydyn ni wedi creu Power Up your Play, her teuluol am ddim.

Mae'r her wedi'i chynllunio i helpu rhieni, gofalwyr a phlant i ddechrau sgyrsiau syml am gemau fideo, diogelwch ar-lein a lles digidol trwy gyfres o weithgareddau byr, diddorol. Gan ddefnyddio dull 'Gwirio, Sgwrsio, Newid', anogir teuluoedd i:

  • Gwirio gosodiadau gêm, rheolaethau preifatrwydd a nodweddion diogelwch
  • Sgwrsio am y gemau y mae plant yn eu chwarae, eu profiadau ar-lein a phwy maen nhw'n rhyngweithio â nhw
  • Newid un lleoliad neu arfer a allai gefnogi chwarae mwy diogel a mwy cadarnhaol ar-lein

Mae'r llyfryn her y gellir ei lawrlwytho yn cynnwys pum tasg deuluol fer, pob un wedi’i chynllunio i gymryd tua phum munud a ffitio’n hawdd o amgylch bywyd teuluol prysur. Gyda'i gilydd, gall teuluoedd archwilio pynciau gan gynnwys graddfeydd oedran, cyfeillgarwch ar-lein, gosodiadau preifatrwydd, diogelwch ar-lein ac arferion iach wrth chwarae gemau ar-lein.  

Lawrlwythwch y llyfryn a thystysgrif yr her. 

Beth mae’r ystadegau’n ei ddweud? 

Mae ein hymchwil yn dangos mai chwarae gemau ar-lein yw’r gweithgaredd mwyaf poblogaidd ymhlith plant 8-17 oed yn eu hamser rhydd. Ac mae bron i draean o blant tair i bump oed hefyd yn chwarae gemau. 

Er bod y mwyafrif (91%) o rieni plant sy’n chwrae gemau fideo rhwng tair a 17 oed yn rhoi rhai rheolau ar waith ar gyfer eu plant, maent yn dal i fod yn poeni am y risgiau y gall chwarae gemau ar-lein eu peri, gan gynnwys plant yn siarad â dieithriaid wrth chwarae gemau ar-lein, gweld cynnwys treisgar neu brofi ymddygiad bwlio gan chwaraewyr eraill. 

Mae bron i hanner plant 13-17 oed hefyd yn dweud eu bod yn poeni am ymddygiadau fel trolio, cam-drin ac aflonyddu bwriadol. 

Pam mae Ofcom yn rhedeg yr ymgyrch hon

Fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU, ein gwaith ni yw dal cwmnïau i gyfrif, gan gynnwys gwasanaethau chwarae gemau ar-lein, er mwyn sicrhau eu bod yn cymryd camau i gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol a chadw eu defnyddwyr yn ddiogel. 

Rydym hefyd eisiau sicrhau bod rhieni, gofalwyr ac aelodau eraill o'r cyhoedd yn gwybod am y camau syml y gallant eu cymryd, a all wneud gwahaniaeth mawr i'w diogelwch ar-lein. Fel rhan o'r gwaith hwn, gwnaethom ddatblygu'r ymgyrch Pweru Rhieni yn canolbwyntio ar chwarae gemau ar-lein. 

Mae chwarae gemau ar-lein yn hynod boblogaidd ymhlith plant a phobl ifanc, ond rydyn ni’n gwybod bod llawer o rieni’n poeni amdano. Rydyn ni am helpu rhieni a gofalwyr i lywio’r heriau hyn, er mwyn iddyn nhw deimlo’n fwy hyderus bod eu plentyn yn gallu mwynhau chwarae gemau ar-lein yn fwy diogel.