Hygyrchedd gwasanaethau cyfathrebu

Cyhoeddwyd: 26 Awst 2026

Mae gwasanaethau ffôn a band eang dibynadwy yn bwysig i bawb. Os ydych chi'n anabl, rhaid i'ch darparwr gynnig gwasanaethau a chymorth ychwanegol i'ch helpu i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn mewn ffordd sy'n diwallu eich anghenion. Yma, rydym yn egluro pa gymorth y gallwch ofyn amdano, a ble gallwch chi gael mwy o gymorth.

Rhaid i ddarparwyr ddweud wrth gwsmeriaid anabl am y gwasanaethau ychwanegol hyn. Gofynnwch i'ch darparwr a oes angen unrhyw un ohonynt arnoch. Efallai y bydd angen i chi gofrestru ymlaen llaw neu ddangos prawf o'r angen i ddefnyddio rhai ohonynt.

Ar incwm isel? Os ydych chi neu rywun yn eich cartref yn derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn neu fudd-daliadau arall, efallai y byddwch yn gymwys i gael tariff cymdeithasol. Mae hwn yn fargen band eang neu ffôn rhatach, heb unrhyw gynnydd mewn prisiau canol contract, i bobl ar incwm is. Nid yw bod yn anabl yn eich cymhwyso, ond mae rhai pobl anabl yn derbyn budd-daliadau sy'n eu gwneud yn gymwys. Edrychwch ar ein canllaw tariff cymdeithasol.

Edrychwch ar ein cyngor i bobl anabl

 Gwasanaethau mae'n rhaid i'ch darparwr eu cynnig

Rhaid i'ch darparwr ffôn neu fand eang sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael i gwsmeriaid anabl.

  • Gwasanaeth sy’n cyfnewid testun. Gwasanaeth sy’n helpu unigolon gydag anghenion clyw neu lleferydd gallu gwneud galwadau ffôn. Gan fod galwadau cyfnewid testun yn cymryd mwy o amser na galwadau llais, mae gan ddefnyddwyr anabl hawl i dariff arbennig.
  • Ymholiadau cyfeiriadur am ddim. Os na allwch ddefnyddio cyfeiriadur printiedig oherwydd anabledd, gallwch ddefnyddio ymholiadau cyfeiriadur yn rhad ac am ddim, yn ogystal â chael eich trosglwyddo i'r rhif rydych wedi gofyn amdano. Cofrestrwch gyda'ch darparwr i gael mynediad.
  • Blaenoriaeth ar gyfer atgyweirio nam ar gyfer llinell dir a band eang. Gall pobl anabl sydd angen atgyweiriad brys i’w llinell dir a band eang gael hyn wedi’i wneud yn gyflymach. Ni ddylai gostio mwy i chi na thâl safonol eich darparwr am atgyweirio nam. Cofrestrwch gyda'ch darparwr ymlaen llaw ar gyfer hyn.
  • Rheoli biliau trydydd parti. Gallwch enwi ffrind neu berthynas i helpu i reoli’ch cyfrif a'ch biliau.
  • Biliau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch: Gallwch ofyn am wybodaeth am eich gwasanaethau ffôn neu fand eang mewn fformat arall sy'n addas i chi, fel print bras neu Braille.

Mae'r cynllun Erthyglau i'r Deillion yn wasanaeth post am ddim i bobl ddall a phobl â golwg rhannol. Mae'n rhad ac am ddim i bostio pethau fel braille neu lyfrau print mawr, llythyrau, recordiadau sain ac offer fel chwyddwydrau. Edrychwch ar wefan y Post Brenhinol am fanylion ar sut i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

 Cael help mewn argyfwng

Mae sawl ffordd o gyrraedd y gwasanaethau brys, yn rhad ac am ddim, os na allwch wneud galwad llais:

  • Cyfnewid fideo argyfwng (999 BSL): Gall defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) byddar ffonio 999 yn BSL gan ddefnyddio'r ap neu'r wefan 999 BSL. Mae'n rhad ac am ddim, ar gael 24 awr y dydd, ac yn gweithio o ffôn clyfar, tabled neu gyfrifiadur. Ni chodir tâl arnoch am y data a ddefnyddir gan y gwasanaeth. Lawrlwythwch yr ap nawr, fel ei fod yn barod os bydd ei angen arnoch. Edrychwch ar ein canllaw 999 BSL.
  • Neges destun brys: os oes gennych anhawster clywed neu leferydd, gallwch anfon neges destun at y rhifau galwad brys 112 neu 999 i gysylltu â'r gwasanaethau brys. Cofrestrwch ar gyfer Neges destun Brys trwy anfon neges destun i'r gair "register" i 999 neu 112. Dim ond munud y mae'n ei gymryd, a gallwch ei wneud ar unrhyw adeg, felly mae'n well cofrestru ymlaen llaw.
  • Text Relay: deialwch 18000 ar ffôn testun neu defnyddiwch ap Relay UK a bydd eich galwad yn cael ei blaenoriaethu yn y ganolfan gyfnewid ac ar y rhwydwaith ffôn (fel galwad llais 999).

 Cysylltwch â 'ch banc neu gwmnïau eraill drwy gyfnewid testun neu fideo

Efallai y bydd busnesau a sefydliadau nad ydynt yn gyfarwydd â Text Relay yn gofyn a yw'n ddiogel derbyn eich galwadau Text Relay. Efallai y byddwch chi'n meddwl tybed a oes rhaid iddyn nhw eu derbyn. Mae cyngor defnyddiol am hyn gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Gallwch hefyd gysylltu â rhai banciau a sefydliadau eraill yn Iaith Arwyddion Prydain drwy gyfnewid fideo. Edrychwch ar wefan eich banc i weld beth mae'n ei gynnig neu chwiliwch arno ar dudalennau cyfeiriadur y darparwyr gwasanaeth fideo Relay: InterpretersLive! a SignVideo.

 Dod o hyd i ffonau sy'n gweithio gyda chymhorthion clyw

Gallwch gael cyngor am linell dir a ffonau symudol addas gan y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol ar gyfer Pobl Fyddar (RNID). Os ydych yn anabl ac yn prynu offer at eich defnydd eich hun, fel arfer nid oes rhaid i chi dalu TAW – bydd y cyflenwr yn gallu eich cynghori ar hyn.

 Cael help gyda chost offer

Gall cost fod yn rhwystr i brynu offer sy'n hawdd ei ddefnyddio. Efallai y bydd sawl sefydliad yn gallu helpu:

  • Mae elusennau fel y British Wireless for the Blind Fund a WaveLength yn darparu offer hawdd ei ddefnyddio i bobl anabl, weithiau ar fenthyciad hirdymor am ddim.
  • Yn y gwaith: Gall Access to Work helpu i dalu am offer sydd ei angen arnoch yn y gweithle fel ffôn hygyrch, neu newidiadau i offer cyfredol.
  • Yn y cartref: gallwch ofyn i'ch gwasanaethau cymdeithasol lleol am asesiad o’ch anghenion. Gallant ddarparu offer, neu roi taliad i chi fel y gallwch brynu'r hyn sydd fwyaf addas i chi. Ni all eich awdurdod lleol wrthod asesu’ch anghenion os ydych chi'n anabl. Dylai asesiadau gael eu gwneud fel arfer o fewn 28 diwrnod yn Lloegr, ond gall y rheolau a'r amserlenni amrywio ledled y DU. Os asesir eich bod angen gwasanaeth yn ôl y meini prawf cymhwysedd lleol, yna mae'n debygol y bydd yn rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol ddarparu'r gefnogaeth honno, yn dibynnu ar y rheolau lle rydych chi'n byw. 

Mae gan yr elusen Scope ragor o gyngor ar dalu am offer anabledd.

 Dod o hyd i fwy o gymorth a chyngor

Os ydych chi'n cael trafferth defnyddio gwefannau, gallwch barhau i gymharu â newid bargeinion ffôn neu fand eang. Mae gwasanaethau cymharu prisiau wedi'u cymeradwyo gan Ofcom wedi'u cynllunio i fod yn hygyrch ac mae rhai yn gadael i chi gymharu bargeinion dros y ffôn.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn darllen y wybodaeth hon am is-deitlau a disgrifiad sain ar y teledu.

Eich barn ar y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?