Cysylltedd y Cenhedloedd - Gosodiadau Rhwydwaith Arfaethedig 2026

Cyhoeddwyd: 13 Mai 2026

Mae ein hadroddiad 2026 ar gynlluniau i leoli rhwydweithiau capasiti uchel iawn yn archwilio'r cynnydd mewn darpariaeth rhwydwaith ffeibr llawn a gigabit-alluog a ragwelir erbyn diwedd 2028. Mae hefyd yn cwmpasu cynlluniau gweithredwyr rhwydweithiau mynediad diwifr sefydlog (FWA) i ymestyn neu uwchraddio eu rhwydweithiau i gefnogi gwasanaethau band eang cyflym iawn.

Mae'r adroddiad yn seiliedig ar gynlluniau lleoli datganedig gweithredwyr rhwydwaith o fis Ionawr 2026 dros y tair blynedd nesaf.  

Mae'r cynlluniau'n cynnwys y rhai a ariennir yn breifat yn ogystal ag unrhyw gynlluniau a gefnogir trwy gronfeydd cyhoeddus neu ymyrraeth. Fodd bynnag, dim ond ar gynlluniau lleoli gweithredwyr rhwydwaith y mae’r adroddiad yn canolbwyntio ac nid yw'n ystyried ar wahân unrhyw ddyheadau neu gynlluniau gan awdurdodau cyhoeddus, boed yn genedlaethol neu'n lleol, i gyflwyno rhwydweithiau yn eu hardaloedd daearyddol.

Mae'r adroddiad blaengar hwn yn ategu ein diweddariad Cysylltu’r Gwledydd Gwanwyn 2026, sy'n gipolwg ar ddarpariaeth rhwydwaith presennol ym mis Ionawr 2026.  

Canfyddiadau allweddol  

  • Gallai ffeibr llawn fod ar gael i 28.1 miliwn o gartrefi yn y DU (92% o'r holl eiddo preswyl) erbyn diwedd 2028. [1,2] Os caiff yr holl ddefnyddiau a gynlluniwyd eu gwireddu, bydd nifer y cartrefi sydd â mynediad at ffeibr llawn yn cynyddu o 24.9 miliwn (82%) ym mis Ionawr 2026 i 28.1 miliwn erbyn Ionawr 2029. Yn ystod yr un cyfnod gallai’r ddarpariaeth gigabit gynyddu i 29 miliwn o gartrefi (95%), i fyny o 27.1 miliwn (89%).

  • Mae cyfanswm yr adeiladu a gynlluniwyd yn is nag a adroddwyd y llynedd, ond mae’r adeiladu a gynlluniwyd y mae gan weithredwyr fwy o hyder i'o gyflawni wedi cynyddu. [3] Os caiff yr holl gynlluniau eu gwireddu, rhagwelir y bydd darpariaeth ffibr llawn erbyn Ionawr 2028 yn 90%, i lawr o 95% a adroddwyd y llynedd. Fodd bynnag, os ystyrir cynlluniau Hyder Uchel yn unig, gallai’r ddarpariaeth ffeibr llawn fod yn 87% erbyn Ionawr 2028 (o'i gymharu ag 86% yn seiliedig ar gynlluniau’r llynedd) ac 88% erbyn Ionawr 2029.  

  • Disgwylir i holl wledydd y DU weld cynnydd mewn argaeledd ffeibr llawn, ond mae pob un yn cael ei effeithio gan y cynlluniau adeiladu diweddaraf mewn gwahanol ffyrdd. Os gwireddir yr holl gynlluniau, yna byddai'r ddarpariaeth a ragwelir erbyn Ionawr 2029 un i ddau bwynt canran yn is ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban, o'i gymharu â'r ddarpariaeth a ragwelir erbyn Ionawr 2028 a adroddwyd y llynedd, tra byddai’n aros ar 99% ar gyfer Gogledd Iwerddon. Os ystyrir cynlluniau Hyder Uchel yn unig, byddai Gogledd Iwerddon yn gweld gostyngiad un pwynt canran, ond byddai'r gwledydd eraill yn gweld darpariaeth ffeibr llawn ychydig yn uwch erbyn Ionawr 2028 nag a adroddwyd y llynedd, gyda chynnydd pellach yn y 12 mis canlynol.  

  • Mae gweithredwyr rhwydwaith yn targedu ardaloedd gwledig a threfol. Os caiff yr holl gynlluniau eu gwireddu, gallai nifer y cartrefi sydd â darpariaeth gigabit-alluog mewn ardaloedd trefol gynyddu o 24.2 miliwn (93%) ym mis Ionawr 2026 i 25.3 miliwn (97%) erbyn Ionawr 2029, ac o 2.9 miliwn (66%) i 3.7 miliwn (86%) mewn ardaloedd gwledig. 

  • Mae cynlluniau adeiladu ar gyfer pob awdurdod lleol ac rydym yn amcangyfrif y bydd 95% o awdurdodau lleol yn gweld o leiaf 85% o ddarpariaeth gigabit-alluog o eiddo preswyl erbyn Ionawr 2029 os caiff yr holl gynlluniau eu gwireddu. Bydd rhai cynlluniau’n ychwanegu at y ddarpariaeth bresennol, tra bydd eraill yn gor-adeiladu rhwydweithiau presennol (neu rai eraill a gynlluniwyd). Rydym yn amcangyfrif y bydd gan 73% o gartrefi'r DU (22.2 miliwn) fynediad at o leiaf ddau rwydwaith sy'n gallu defnyddio gigabit, a 36% (11.1 miliwn) at o leiaf dri rhwydwaith sy'n gallu defnyddio gigabit erbyn diwedd 2028.

  • Rydym hefyd yn rhagweld ehangu rhwydweithiau FWA sy'n cynnig gwasanaethau band eang cyflym (cyflymder lawrlwytho o leiaf 100 Mbit/s). Mae ein data'n dangos bod tua 6,950 o fastiau FWA ychwanegol, sy’n ddaearyddol wahanol, yn cael eu cynllunio neu eu gosod i’w huwchraddio ledled y DU rhwng Ionawr 2026 ac Ionawr 2029.

Troednodiadau

1. Er mwyn aros yn gyson â phrif adroddiadau Cysylltu’r Gwledydd, mae pob canlyniad yn y canfyddiadau allweddol hyn yn cyfeirio at eiddo preswyl yn unig. Darperir canlyniadau ar gyfer pob safle, h.y. preswyl a busnes, yn un o'r ffeiliau gyda lleoliadau rhwydwaith wedi’i chynllunio ar gyfer awdurdodau lleol.  

2. Adroddir yr holl ddarpariaeth fel canran o'r un sylfaen eiddo ag a ddefnyddiwyd ar gyfer diweddariad Cysylltu’r Gwledydd 2026, sy'n cynnwys 30.5 miliwn o eiddo preswyl. Gweler yr atodiad Methodoleg am ragor o fanylion.  

3. Gofynnwyd i weithredwyr rhwydwaith gadarnhau statws ariannol a chynllunio eu Lleoliadau rhwydwaith arfaethedig. Yn benodol, gofynnwyd a oedd y cynlluniau wedi cyrraedd cam dylunio 'Dylunio Lefel Isel Wedi’i Gwblhau' ac a oedd cyllid wedi'i neilltuo ar gyfer y cynlluniau. Dewiswyd y meini prawf hyn i gyd-fynd â'r dosbarthiadau a'r meini prawf a nodir yn Adolygiad Marchnad Agored Dreigl Cenedlaethol BDUK (National Rolling Open Market Review September 2025 Request For Information - GOV.UK). Yn yr adroddiad hwn, ystyriwn fod cynlluniau yn 'Hyder Uchel' os ydynt wedi cyrraedd o leiaf y cam ''Dylunio Lefel Isel Wedi’i Gwblhau' a bod cyllid wedi'i neilltuo.