Adolygiad Blynyddol o'r Farchnad ar gyfer Gwasanaethau y telir amdanynt drwy’r ffôn 2025–2026

Cyhoeddwyd: 4 Medi 2025
Diweddarwyd diwethaf: 21 Gorffennaf 2026

Gwasanaethau ffôn a delir amdanynt drwy’r ffôn neu gyfradd premiwm (PRS) yw unrhyw wasanaethau y codir tâl amdanynt drwy fil ffôn y cwsmer neu gredyd symudol rhagdaledig. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau fel tanysgrifiadau i blatfformau ffrydio cerddoriaeth a fideo, rhoddion elusennol, pleidleisio ar sioeau talent teledu, cystadlaethau darlledu, ymholiadau cyfeiriadur, a phrynu siopau ap gan gynnwys cynnwys mewn-ap fel ychwanegion ar gyfer gemau.

Cymerodd Ofcom gyfrifoldeb am reoleiddio dydd i ddydd y gwasanaethau telir amdanynt drwy’r ffôn  ym mis Chwefror 2025, gan gymryd yr awenau o'r Awdurdod Gwasanaethau Talu dros y Ffôn (PSA). Mae'r adolygiad marchnad flynyddol hwn yn parhau â'r gyfres o adolygiadau marchnad flynyddol a gyhoeddwyd yn flaenorol gan y PSA, ac adroddiad a gynhyrchwyd llynedd ar gyfer Ofcom gan Analysys Mason.

Mae adroddiad eleni wedi'i gynhyrchu gan Ofcom. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein penderfyniadau rheoleiddiol yn cael eu llywio gan dystiolaeth o ansawdd uchel, ac mae adroddiadau fel hyn yn ein helpu i ddeall tueddiadau'r farchnad, ymddygiad defnyddwyr, a materion sy'n dod i'r amlwg yn y sector PRS.

Mae Ofcom yn parhau i adolygu sut mae'n adrodd ar y sector PRS ac rydym yn croesawu adborth ar y cyhoeddiad hwn. Anfonwch unrhyw sylwadau at MID@ofcom.org.uk.

Adroddiad

Annual Market Review for Phone-paid Services 2025-26 (PDF, 1.65 MB) Phone paid Services Questionnaire (PDF, 283.29 KB)

Premium Rate Services Research - Data Tables (XLSX, 1.03 MB)