Gallai miliynau o bobl yn y DU gael band eang cyflymach neu ratach. Defnyddiwch y canllaw hwn i'ch helpu i ddewis y pecyn band eang cywir ar gyfer eich cartref.
Pedwar cam syml i ddewis eich band eang
- Gwiriwch pa fand eang y gallwch ei gael
- Dewiswch y cyflymder band eang sydd ei angen arnoch
- Cymharwch fargeinion
- Cofrestrwch a newid gyda Newid Un Cam
Poeni am gost band eang?
Os ydych chi'n derbyn budd-daliadau penodol, fel Credyd Cynhwysol neu Gredyd Pensiwn, efallai y byddwch yn gymwys i gael tariff cymdeithasol. Mae hwn yn fargen band eang neu ffôn rhatach, heb unrhyw gynnydd prisiau canol contract, i bobl ar incwm is. Edrychwch ar ein canllaw tariff cymdeithasol.Gwiriwch pa fand eang y gallwch ei gael
Defnyddiwch wiriwr rhad ac am ddim Ofcom i weld y mathau o fand eang – a'r cyflymderau – y gallwch eu cael.
Methu cael cysylltiad ffibr neu gebl gweddus lle rydych chi'n byw? Gallech hefyd edrych ar wasanaethau band eang gan ddefnyddio data symudol 5G neu gysylltiad lloeren.
Mathau o fand eang
Os disgrifir gwasanaeth fel un sy'n defnyddio ffibr, gwiriwch a yw'n golygu ffibr llawn neu ffibr rhannol.
Ffibr llawn
Ffibr llawn yw'r math mwyaf newydd o fand eang gwifrau. Mae ceblau ffibr optig yn rhedeg yr holl ffordd i'ch cartref, felly mae fel arfer mae'n rhoi cyflymderau cyflymach a mwy dibynadwy. Gelwir hyn hefyd yn ffibr-i'r-adeilad, neu FTTP.
Cebl
Gall gwasanaethau band eang cebl hefyd ddarparu cyflymderau uchel, fel arfer gan ddefnyddio ceblau ffibr optig i'ch ardal leol a chebl cyfechelog i'ch cartref.
Ffibr rhannol
Mae hon yn dechnoleg ychydig yn hŷn. Mae ceblau ffibr yn rhedeg i gabinet stryd, yna mae gwifrau copr yn cario'r signal gweddill y ffordd i'ch cartref. Gelwir hyn hefyd yn ffibr-i'r-cabinet, neu FTTC.
Band eang symudol 5G, lloeren a mynediad diwifr sefydlog (FWA)
Dyma fathau o fand eang sy'n defnyddio signalau di-wifr yn hytrach na chebl i'ch cartref. Gallant fod yn ddefnyddiol os yw eich opsiynau band eang gwifrau yn gyfyngedig, ond gall cyflymderau a dibynadwyedd newid yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw.
Dewiswch y cyflymder sydd ei angen arnoch
Mae angen cyflymderau band eang gwahanol ar wahanol gartrefi. Fel arfer byddwch chi’n gweld cyflymderau band eang yn cael eu hysbysebu mewn megabeit yr eiliad (Mbit/s). Po uchaf yw'r nifer, y cyflymaf yw'r cysylltiad.
- Band eang safonol: hyd at 30 Mbit yr eiliad – digon ar gyfer pori sylfaenol, e-bost a fideo safonol.
- Band eang cyflym iawn: 30 i 300 Mbit yr eiliad – yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o ddefnyddiau bod dydd, fel gweithio o gartref, galwadau fideo a ffrydio.
- Band eang cyflym iawn: 300 Mbit yr eiliad neu fwy – yn well os yw sawl person ar-lein ar yr un pryd, neu os ydych chi'n ffrydio llawer o gynnwys fideo, yn chwarae gemau ar-lein neu'n lawrlwytho ffeiliau mawr.
Dyma beth mae gwahanol gyflymderau’n gadael i chi ei wneud:

Ddim yn cael y cyflymder rydych chi'n talu amdano?
Dylech bob amser gael gwybodaeth glir am gyflymder band eang pan fyddwch chi'n cofrestru.
Edrychwch ar ein canllaw ar beth i'w wneud os nad ydych chi'n cael y cyflymder a addawyd i chi.
Cymharu bargeinion
Cymharwch ychydig o fargeinion ochr yn ochr, unwaith y byddwch chi'n gwybod pa fathau o wasanaeth y gallwch eu cael a'r cyflymder sydd ei angen arnoch. Gall gwefannau cymharu prisiau eich helpu i bwyso a mesur eich opsiynau.
Peidiwch ag edrych ar y pris misol ar ei ben ei hun yn unig.
Gallwch hefyd edrych ar ein canllaw arbed arian am ffyrdd o arbed arian, fel bwndelu eich gwasanaeth ffôn neu deledu gyda'ch band eang.
Cofrestru a newid gyda Newid Un Cam
Cysylltwch â'r darparwr rydych chi am ymuno ag ef pan fyddwch wedi dod o hyd i'r fargen gywir. Gallant reoli'r newid i chi gan ddefnyddio Newid Un Cam. Ni ddylech orfod siarad â'ch hen ddarparwr i ganslo.
Byddwch chi’n derbyn gwybodaeth yn awtomatig gan eich hen ddarparwr sy'n esbonio goblygiadau newid i chi, fel a oes gennych unrhyw ffioedd terfynu cynnar neu a oes angen i chi ddychwelyd eich hen lwybrydd.
Eich cyfnod callio
Os ydych chi'n cofrestru ar-lein, ar garreg y drws, neu dros y ffôn, gallwch newid eich meddwl a chanslo o fewn 14 diwrnod. Efallai na fydd hyn yn berthnasol os ydych chi'n cofrestru yn y siop.
- Cyn i chi gofrestru, gwiriwch:
- Pa fath o gysylltiad rydych chi'n ei gael (ffibr llawn neu ffibr rhannol).
- Cyfanswm y gost dros y contract cyfan.
- A all y pris fynd i fyny, pryd a faint.
- Y cyflymder sydd ei angen arnoch ar gyfer eich cartref.
- Pa mor hir mae'r contract yn para.
- Y gost o adael y contract yn gynnar.