Mae newid band eang yn syml gyda ‘Newid Un Cam’. Cysylltwch â'r darparwr rydych chi am symud ato, a byddant yn rheoli'r newid i chi. Weithiau efallai y byddwch angen ymweliad peiriannydd neu offer newydd, ond dylai eich darparwr newydd esbonio beth fydd yn digwydd.
Gall newid darparwr eich helpu i arbed arian os ydych chi allan o gontract. Efallai y byddwch hefyd yn gallu arbed arian trwy fwndelu eich band eang ynghyd â gwasanaethau eraill. Gweler ein cynghorion arbed arian.
Awgrymiadau i newid
- Newid eich band eang – tri cham hawdd
- Gwirio a oes ffioedd terfynu cynnar
- Gwirio beth fydd yn digwydd i'ch cyfeiriad e-bost
- Newid eich band eang pan fydd yn rhan o fwndel o wasanaethau
- Rheoli eich proses newid eich hun
- Canslo'ch newid os byddwch chi'n newid eich meddwl
- Beth i'w wneud os yw'ch darparwr band eang yn mynd allan o fusnes
Gwiriwch a ydych chi'n gymwys i gael tariff cymdeithasol
Os ydych chi'n derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn neu fudd-daliadau eraill, efallai y byddwch yn gymwys i gael tariff cymdeithasol. Mae hon yn fargen band eang rhatach, heb unrhyw gynnydd prisiau canol contract, i bobl ar incwm is. Edrychwch ar ein canllaw tariff cymdeithasol.
Newid eich band eang - tri cham hawdd
1. Cysylltwch â'ch darparwr newydd dewisol i ddechrau'r broses Newid Un Cam
Cofrestrwch ar-lein neu siaradwch â'r darparwr rydych chi eisiau ymuno ag ef. Byddant yn gofyn am eich cyfeiriad, eich darparwr presennol, a'r gwasanaethau rydych chi am eu newid.
2. Gwiriwch y wybodaeth gan eich darparwr presennol
Edrychwch ar y manylion yn ofalus. Bydd eich darparwr presennol yn anfon gwybodaeth bwysig atoch, gan gynnwys manylion unrhyw ffioedd. Os penderfynwch fwrw ymlaen, efallai y bydd y darparwr newydd yn gallu trefnu'r newid ar gyfer eich dyddiad dewisol.
Os ydych chi'n symud i rwydwaith gwahanol, dylai eich darparwr newydd ddweud wrthych os oes angen ymweliad peiriannydd, offer newydd neu unrhyw gamau sefydlu arall.
3. Sicrhau fod y gwasanaeth newydd yn gweithio a chysylltu'ch dyfeisiau
Dylai eich darparwr newydd esbonio beth sydd angen i chi ei wneud i gael eich band eang newydd i weithio, gan gynnwys sut i sefydlu unrhyw offer newydd. Mae hyn yn debygol o gynnwys llwybrydd (router) band eang newydd. Unwaith y bydd eich gwasanaeth newydd yn gweithio, dylai eich hen wasanaeth ddod i ben yn awtomatig.
Cysylltu eich dyfeisiau
Yn gyffredinol, bydd angen i chi ddiweddaru'r gosodiadau Wi-Fi ar eich dyfeisiau cysylltiedig, fel eich ffôn, seinyddion clyfar a thabledi, i'w cysylltu â'r llwybrydd newydd. Efallai y byddwch chi'n gallu gwneud hyn yn haws trwy sganio cod QR a ddarperir gyda'r llwybrydd. Gofynnwch i'ch darparwr am help os nad ydych yn siŵr.
Opsiwn arall yw efallai y gallwch osod eich llwybrydd newydd i ddefnyddio eich hen enw rhwydwaith Wi-Fi a'ch cyfrinair. Gallai hyn leihau'r drafferth o ddiweddaru pob dyfais i gysylltu â'r llwybrydd newydd. Fodd bynnag, mae'n bwysig defnyddio cyfrinair cryf. Os nad ydych yn siŵr sut i newid y gosodiadau hyn, gofynnwch i'ch darparwr am help.
Eich hawliau wrth newid
Ni ddylai eich hen ddarparwr godi tâl arnoch am unrhyw gyfnod rhybudd ar ôl y dyddiad newid. Ni ddylai unrhyw golled gwasanaeth bara’n fwy nag un diwrnod gwaith. Rhaid i'ch darparwr eich digolledu mewn rhai achosion, gan gynnwys os ydych yn cael eich gadael heb wasanaeth am fwy nag un diwrnod gwaith, neu os ydynt yn colli apwyntiad gwasanaeth neu osod. Gweler ein canllaw iawndal awtomatig.
Gwirio a oes ffioedd terfynu cynnar
Gwiriwch a ydych chi allan o gontract ai peidio ar wefan neu ap eich darparwr. Gallwch hefyd ofyn i'ch darparwr neu wirio'ch e-bost am unrhyw hysbysiadau diwedd contract. Os byddwch chi'n newid cyn diwedd eich contract, efallai y bydd angen i chi dalu ffioedd terfynu cynnar. Os ydych chi'n newid gan ddefnyddio Newid Un Cam, rhaid i'ch darparwr ddweud wrthych am unrhyw daliadau cyn i chi newid.
Hyd yn oed os ydych chi'n dal i fod mewn contract ond chi bod chi eisiau newid, gallai rhai darparwyr roi arian i chi tuag at unrhyw ffioedd ymadael os byddwch chi'n newid iddynt.
Gwirio beth fydd yn digwydd i'ch cyfeiriad e-bost
Gwiriwch gyda'ch darparwr band eang os ydych chi'n defnyddio gwasanaeth e-bost y maen nhw wedi'i ddarparu, gan y gallai hyn gael ei effeithio pan fyddwch chi'n newid. Dylent ddweud wrthych os oes gennych unrhyw opsiynau i barhau i ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost ar ôl eich newid. Os na allwch barhau i ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost presennol, sefydlwch gyfeiriad newydd cyn i chi newid.
Newid eich band eang pan fyddwch yn rhan o fwndel o wasanaethau
Os ydych chi'n bwndelu eich band eang gyda gwasanaethau eraill gan eich darparwr presennol, er enghraifft gyda'ch llinell dir, fel arfer byddwch yn dilyn y broses a ddisgrifir uchod i newid y ddau wasanaeth.
Os ydych chi eisiau symud eich band eang i ddarparwr arall ond cadw eich llinell dir gyda'ch darparwr presennol, gwiriwch beth mae eich darparwr presennol yn ei ddweud am newid cyn mynd ymlaen. Mewn rhai achosion, gall trosglwyddo eich band eang effeithio ar y gwasanaeth llinell dir sy'n gysylltiedig ag ef. Os oes gennych chi’r opsiwn i gadw’ch gwasanaeth llinell dir presennol, bydd eich darparwr presennol fel arfer yn gofyn i chi siarad â nhw i gadarnhau beth rydych chi am ei wneud.
Os yw eich bwndel hefyd yn cynnwys mathau eraill o wasanaethau, fel teledu, efallai y bydd angen i chi gysylltu â'ch darparwr presennol i ganslo'r rheini. Bydd eich darparwr presennol yn egluro’ch opsiynau.
Os nad ydych chi'n siŵr, gofynnwch i'ch darparwr presennol cyn bwrw ymlaen.
Rheoli proses newid eich hun
Efallai y byddwch chi'n dewis rheoli newid eich hun, er enghraifft os ydych chi eisiau parhad rhwng eich hen wasanaeth a'ch gwasanaeth newydd. Fodd bynnag, cofiwch na fyddai'r broses Newid Un Cam yn berthnasol yn yr achos hwn.
I reoli eich proses newid eich hun, dywedwch wrth eich darparwr newydd pan fyddwch chi'n archebu, a threfnwch y canslo ar wahân gyda'ch darparwr presennol. Gwiriwch unrhyw ffioedd y gallech fod yn rhaid i chi eu talu i'ch darparwr presennol os ydych chi'n dal mewn contract, neu unrhyw gyfnodau rhybudd os nad ydych chi. Efallai y bydd angen i chi newid y dyddiad canslo os yw'r gwasanaeth newydd yn cael ei ohirio, a thalu am y ddau wasanaeth os ydynt yn gorgyffwrdd.
Canslo'ch newid os ydych chi'n newid eich meddwl
Mae gennych yr hawl i ganslo'ch archeb o fewn 14 diwrnod calendr. Os byddwch chi'n newid eich meddwl, cysylltwch â'ch darparwr newydd i ganslo'ch cais. Os yw'ch gwasanaeth eisoes wedi dechrau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am y gyfran o'r gwasanaeth a ddefnyddir ac unrhyw gostau gosod. Ni fydd eich hen wasanaeth yn cael ei adfer yn awtomatig.
Beth i'w wneud os yw'ch darparwr band eang yn mynd allan o fusnes
Gwiriwch ein cyngor ar beth i'w wneud os yw'ch darparwr yn mynd allan o fusnes.
Fideos cysylltiedig
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig