Ymgynghoriad: Mynd i’r afael â galwadau sgam o dramor

Cyhoeddwyd: 21 Gorffennaf 2025
Ymgynghori yn cau: 13 Hydref 2025
Statws: Datganiad ar y gweill (Wedi'i Gau)
Diweddarwyd diwethaf: 15 Gorffennaf 2026

Er mwyn diogelu pobl a busnesau rhag galwadau sgam, rydym wedi diweddaru ein canllawiau i nodi sut rydym yn disgwyl i ddarparwyr brosesu galwadau o dramor sy'n ymddangos fel pe baent yn dod o rifau symudol (+447) y DU.

Fel rhan o'n strategaeth ar y cyd i fynd i'r afael â thwyll a sgamiau ar draws yr holl wasanaethau rydym yn eu rheoleiddio (ar-lein a thelathrebu), rydym wedi gweithredu mesurau i'w gwneud hi'n anoddach i sgamwyr gyrraedd pobl a busnesau gyda galwadau sy'n ffugio rhifau llinell dir y DU. Mae'r rhain yn cynnwys nodi'r camau y disgwylir i weithredwyr eu cymryd i adnabod galwadau o dramor sy'n ffugio rhifau llinell dir y DU a'u rhwystro.
 
Mae ein rheolau a'n canllawiau yn nodi'r hyn a ddisgwylir gan ddarparwyr ar gyfer arddangos data Adnabod Llinell Galw (CLI) (signalau sy'n dangos pwynt tarddiad yr alwad a/neu hunaniaeth y galwr). Yn 2024, gwnaethom gryfhau ein Canllawiau Adnabod Llinell Galw (CLI) i adlewyrchu ein bod yn disgwyl i ddarparwyr adnabod a rhwystro  galwadau o dramor sy'n defnyddio rhif y DU fel Rhif Cyflwyno (y rhif y gall derbynnydd yr alwad ei weld), ac eithrio mewn nifer gyfyngedig o achosion defnydd cyfreithlon.
 
Rydym wedi diweddaru ein Canllawiau CLI ymhellach i nodi sut rydym yn disgwyl i ddarparwyr brosesu galwadau o dramor gyda Rhifau Cyflwyno Ffôn symudol (+447) y DU.
 
Bydd y mesur hwn yn dileu gallu’r sgamwyr y tu allan i'r DU i gyflwyno Rhif Cyflwyno symudol ffug y DU i bobl a busnesau yn DU. Mae hyn oherwydd na fydd unrhyw ddarparwr yn y DU yn gallu gwirio dilysrwydd y galwadau hyn ac felly bydd y Rhif Cyflwyno yn ymddangos i'r derbynnydd fel un wedi'i guddio.

Gwybodaeth cyswllt

Cyfeiriad

Cat Kelly
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA