Cael cymorth gyda phroblemau band eang a Wi-Fi

Cyhoeddwyd: 13 Hydref 2023
Diweddarwyd diwethaf: 25 Awst 2026

A yw eich band eang neu Wi-Fi yn araf, yn annibynadwy neu wedi stopio'n gyfan gwbl?

Dyma sut i gywiro’r sefyllfa, gan ddechrau gyda'r atebion cyflymaf a rhataf.

 Y cysylltiad wedi stopio gweithio? Tri cham i'w ddatrys

  1. Awgrymiadau ymarferol i geisio datrys problemau
  • Gwiriwch fod eich dyfeisiau band eang wedi'u troi ymlaen: mae hyn yn cynnwys eich llwybrydd, unrhyw atgyfnerthwyr Wi-Fi neu ddyfeisiau rhwyll, ac, os oes gennych fand eang ffibr llawn, y blwch cysylltiad ffibr y mae eich llwybrydd yn plygio ynddo (gelwir y blwch hwn yn ONT).
  • Gwiriwch a oes unrhyw un arall yn defnyddio'ch Wi-Fi, yn enwedig os ydyn nhw'n ei ddefnyddio ar gyfer tasgau sy'n defnyddio llawer o ddata fel lawrlwytho ffeiliau gemau mawr neu ffrydio fideos diffiniad uchel.
  • Rhowch gynnig ar ailgychwyn eich llwybrydd, eich dyfeisiau atgyfnerthu Wi-Fi neu ddyfeisiau rhwyll, eich blwch cysylltiad ffibr (ONT) a'ch ffôn, tabled neu ddyfeisiau eraill.
  • Datgysylltwch neu diffoddwch unrhyw ddyfeisiau nad ydych chi'n eu defnyddio i weld a ydyn nhw'n achosi'r broblem.
  • Os ydych chi wedi gwneud unrhyw newidiadau i'ch cartref neu'ch rhwydwaith ychydig cyn i'r broblem ddechrau, ceisiwch eu hailosod i sut roedden nhw o'r blaen.
  1. Gwiriwch a oes toriad pŵer ehangach 
  • Gwiriwch dudalen we neu ap statws gwasanaeth eich darparwr, neu ffoniwch nhw.
  • Gallwch hefyd wirio trwy ddefnyddio gwasanaethau gwirio toriadau pŵer. Gall gwefannau fel Downdetector ddangos i chi os yw cwsmeriaid eraill eich darparwr yn profi problemau tebyg.
  • Os yw'ch ardal wedi’i heffeithio, gwiriwch pryd mae'ch darparwr yn disgwyl ei drwsio.
  • Os nad oes nam wedi’i restru, rhowch wybod amdano i'ch darparwr, gan efallai nad ydynt nhw’n gwybod amdano eto.
  1. Cysylltwch â'ch darparwr   

    Mae eich darparwr sy'n gyfrifol am drwsio namau, hyd yn oed os yw cwmni arall fel Openreach yn berchen ar y rhwydwaith. Gall dweud wrth eich darparwr am y broblem helpu i fynd i'r afael â'r mater a'ch helpu i gael unrhyw iawndal y gallech fod gennych fod â hawl iddo am golli gwasanaeth.
  • Dywedwch wrth eich darparwr pryd y dechreuodd y broblem, a yw'n gyson neu'n ysbeidiol, a pha wiriadau ac atgyweiriadau rydych chi eisoes wedi rhoi cynnig arnynt. Os yn bosib, anfonwch gofnod o bryd y daeth eich gwasanaeth i ben a pha mor hir y parhaodd pob toriad.
  • Dywedwch wrth eich darparwr os ydych chi'n dibynnu ar eich cysylltiad ar gyfer teleofal neu ddyfeisiau gofal iechyd, larymau, neu os yw rhywun yn eich cartref yn agored i niwed. Efallai y byddwch yn gymwys i gael blaenoriaeth a gall eich darparwr eich helpu i gofrestru ar gyfer hyn. Eglurwch sut mae'r nam yn effeithio arnoch chi, yn enwedig os yw'n eich atal rhag gweithio, astudio neu ddefnyddio gwasanaethau ar-lein hanfodol.
  • Gofynnwch a all eich darparwr eich helpu i aros mewn cysylltiad yn ystod atgyweiriadau. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n cynnig dargyfeirio galwadau neu ffyrdd eraill o ddefnyddio'ch gwasanaeth ffôn tra bod y nam yn cael ei drwsio.
  • Gofynnwch sut y bydd eich darparwr yn eich diweddaru a rhoi amser rhesymol iddynt ddatrys y broblem.

Efallai y bydd eich darparwr yn gofyn i chi ailgychwyn eich dyfeisiau, cysylltu â'ch llwybrydd gyda chebl rhwydwaith, neu blygio'ch llwybrydd i mewn i brif soced y ffôn. Gallent hefyd gynnal gwiriadau ar eich llwybrydd neu'ch llinell o bell. Os ydyn nhw'n awgrymu ailosod offer neu anfon peiriannydd, gofynnwch a fydd tâl am hyn (er enghraifft, os yw'r nam yn troi allan i fod ar eich dyfeisiau eich hun).

Cysylltiad sy’n araf neu’n annibynadwy? Rhowch gynnig ar rhain 

Rhedeg prawf cyflymder am ddim gan ddefnyddio gwiriwr cyflymder band eang ar-lein cyn i chi newid unrhyw beth. Gall hyn ddangos i chi pa gyflymder rydych chi'n ei gael mewn gwirionedd. Rhowch gynnig ar ychydig o wirwyr gwahanol i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael canlyniadau cywir. Gall cyflymder hefyd amrywio yn ôl y dydd a’r amser, felly profwch fwy nag unwaith i gael darlun cyflawn. Nid cyflymder yw'r unig ffactor. Gall oedi neu 'lag' hefyd effeithio ar wasanaethau byw fel galwadau fideo a gemau ar-lein.

Nid yw prawf Wi-Fi araf bob amser yn golygu bod nam ar eich llinell band eang. Gall cyflymder eich Wi-Fi gael ei effeithio gan eich llwybrydd, eich dyfais, pellter o'r llwybrydd, waliau ac ymyrraeth. Rhowch gynnig ar y camau isod i helpu i ddatrys y broblem.

Wyth atgyweiriad am ddim i roi cynnig arnynt

  1. Ailgychwynwch eich llwybrydd band eang. Diffoddwch eich llwybrydd, arhoswch tua 30 eiliad, yna trowch ef yn ôl ymlaen. Gall hyn helpu i glirio problemau dros dro a gwella'ch cysylltiad.  

  2. Cadwch eich llwybrydd a'ch dyfeisiau yn gyfredol. Cadwch eich llwybrydd band eang, eich dyfeisiau atgyfnerthu Wi-Fi neu rwyll, a'ch blwch cysylltiad ffibr wedi'u troi ymlaen, hyd yn oed pan nad ydych chi'n eu defnyddio, fel y gallant dderbyn diweddariadau awtomatig. Mae'r rhan fwyaf o offer modern yn defnyddio cymharol ychydig o drydan. Cadwch eich dyfeisiau, apiau a phorwr gwe wedi'u diweddaru hefyd, gan y gall diweddariadau wella diogelwch a pherfformiad.  

  3. Symudwch eich llwybrydd band eang. Mae Wi-Fi yn gweithio orau pan fydd llai o rwystrau a waliau rhwng eich llwybrydd a'ch dyfais, felly ceisiwch gadw'r llwybr rhyngddynt mor glir â phosibl.  

    Osgoi rheiddiaduron, silffoedd llyfrau, tanciau pysgod a waliau trwchus, er enghraifft. Y lleoliad gorau ar gyfer eich llwybrydd yw allan yn agored, oddi ar y llawr, ac yn fras ganolog yn eich cartref. Os oes ganddo antenâu Wi-Fi addasadwy, ceisiwch eu pwyntio i wahanol gyfeiriadau.

  4. Cadwch y llwybrydd i ffwrdd o ddyfeisiau trydanol eraill. Gall microdonnau, monitorau babanod, ffonau diwifr, lampau halogen, switshis pylu, a seinyddion i gyd ymyrryd â'ch signal. 

  5. Os yn bosibl, defnyddiwch gebl rhwydwaith yn lle Wi-Fi. Mae cysylltiad gwifrau fel arfer yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy. Os oes gan eich cyfrifiadur neu ddyfais gysylltiedig soced Ethernet ac nad oes angen iddo symud o gwmpas, plygiwch ef yn syth i'r llwybrydd. Defnyddiwch gebl sy'n gallu ymdopi â chyflymder eich band eang.

  6. Ailosodwch unrhyw newidiadau diweddar. Ydych chi wedi symud eich llwybrydd yn ddiweddar, wedi newid eich ffôn neu sefydlu band eang neu wedi plygio eitemau trydanol newydd? Gall newidiadau bach gartref effeithio ar eich band eang. Ceisiwch wrthdroi'r newid, os gallwch, yna profiwch eich cyflymder eto.  

  7. Datgysylltwch ddyfeisiau nad ydych chi'n eu defnyddio. Gall ffonau, tabledi, setiau teledu clyfar a dyfeisiau eraill weithiau ddefnyddio'ch Wi-Fi hyd yn oed pan nad ydych chi'n eu defnyddio. Datgysylltwch unrhyw beth nad ydych chi'n ei ddefnyddio, yn enwedig os yw'n lawrlwytho, diweddaru neu ffrydio, i weld ai dyma achos y broblem.

  8. Gwiriwch eich dyfeisiau. Os yw un ddyfais yn llawer arafach na'r lleill, gallai'r broblem fod gyda'r ddyfais honno yn hytrach na'ch band eang. Ailgychwynnwch, caewch apiau nad ydych chi'n eu defnyddio, a gwiriwch fod ganddo'r diweddariadau a'r feddalwedd ddiogelwch diweddaraf.  

Os yw'ch llwybrydd yn plygio i mewn i soced ffôn: Gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i gysylltu â'r prif soced ffôn yn eich cartref. Mae'r cyngor hwn yn berthnasol os ydych chi'n defnyddio gwasanaeth band eang copr neu ffibr rhannol hŷn. Siaradwch â'ch darparwr am gyngor. Os nad oes gan eich soced hidlydd adeiledig, efallai y byddan nhw’n dweud wrthych chi am ddefnyddio microhydlydd i atal ymyrraeth. Osgowch geblau estyniad lle bo modd. Os oes rhaid i chi ddefnyddio un, cadwch ef yn fyr ac o ansawdd da. Efallai yr hoffech hefyd siarad â'ch darparwr am symud i wasanaeth ffibr llawn a allai gynnig cyflymderau uwch a gwell dibynadwyedd.

Atgyweiriadau a allai gostio arian

Os nad yw'r wyth awgrym am ddim uchod wedi datrys eich problemau band eang, yna ystyriwch y pedwar opsiwn hwn, a allai gynnwys talu am ddyfeisiau neu wasanaethau newydd:

  1. Uwchraddiwch eich llwybrydd: Gallai llwybrydd hŷn fod yn eich arafu. Gofynnwch i'ch darparwr, gan y gallent gynnig llwybrydd newydd am ddim. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol y gallai rhai darparwyr godi tâl am hyn. Efallai y byddwch hefyd yn gallu prynu eich llwybrydd eich hun, ond gall fod yn anoddach ei sefydlu ac efallai na fydd eich darparwr yn ei gefnogi, felly gwiriwch gyda nhw yn gyntaf.

  2. Gwiriwch a oes cynhyrchion band eang newydd ar gael: Edrychwch ar ein canllaw i ddewis y band eang cywir ar gyfer eich anghenion. Mae band eang ffibr llawn yn gyffredinol yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy na gwasanaethau hŷn sy'n dibynnu ar linell ffôn gopr. Gallai band eang sy'n defnyddio'r rhwydwaith ffôn 5G neu gysylltiadau lloeren fod yn addas i rai cwsmeriaid hefyd.

  3. Ystyriwch osod rhwydwaith rhwyll: Gallai dau neu dri blwch rhwyll Wi-Fi wedi'u gosod o amgylch eich cartref helpu'ch Wi-Fi i gyrraedd mwy o ystafelloedd. Gall y rhain fod yn dda ar gyfer cartrefi mwy gydag ardaloedd o signal gwan, ond maent hefyd yn ddrytach a gallant waethygu problemau os ydych chi'n ychwanegu gormod. Dilynwch ganllawiau'r gwneuthurwr bob amser i gael y canlyniadau gorau. Efallai y bydd eich darparwr yn gallu cynnig dyfeisiau rhwyll Wi-Fi ychwanegol i chi fel rhan o'ch pecyn band eang, neu gallwch hefyd eu prynu ar wahân.

  4. Ystyriwch atgyfnerthwyr Wi-Fi ac addaswyr llinell bŵer: Mae atgyfneithwyr ‘boosters’ yn helpu i wthio'ch signal i fannau gwan eich cartref, ond gallant hefyd effeithio ar eich cyflymder. Mae addaswyr llinell bŵer yn anfon eich cysylltiad trwy wifrau trydanol eich cartref, ond mae'r canlyniadau yn dibynnu ar sut mae eich gwifrau wedi'u sefydlu. Ar gyfer y naill neu'r llall, gwiriwch fod gan yr addasydd farc diogelwch UKCA neu CE cyn i chi ei brynu.

Gwybod eich hawliau: cwynion ac iawndal

Gofynnwch am iawndal am ddiffygion neu oedi atgyweiriadau

Gofynnwch i'ch darparwr a fyddant yn cynnig credyd cyfrif neu iawndal tra bod y nam yn cael ei drwsio. Os yw atgyweiriadau yn cymryd amser hir (er enghraifft os oes angen gwaith ceblau yn eich stryd neu os oes angen caniatâd i gael mynediad at dir), gofynnwch a allant gynnig unrhyw gredyd cyfrif ychwanegol.

Os yw'ch darparwr wedi cofrestru i'n cynllun iawndal awtomatig, dylech fod â hawl i iawndal mewn rhai sefyllfaoedd. Gall hyn gynnwys pan:

  • rydych chi'n rhoi gwybod i'ch darparwr bod eich gwasanaeth wedi stopio gweithio ac nad yw wedi’i drwsio’n llawn ar ôl dau ddiwrnod gwaith llawn;
  • nid yw peiriannydd wedi troi i fyny ar gyfer apwyntiad wedi'i drefnu, neu mae'r apwyntiad yn cael ei ganslo gyda llai na 24 awr o rybudd;
  • mae eich darparwr yn addo dechrau gwasanaeth newydd ar ddyddiad penodol ond yn methu â gwneud hynny.

Gwiriwch a oes gennych isafswm cyflymder lawrlwytho gwarantedig

Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr wedi cofrestru i'r Cod Ymarfer Cyflymderau Band Eang. O dan y cynllun hwn, rhaid iddynt roi gwybodaeth glir i chi am gyflymder cyn i chi gofrestru, gan gynnwys isafswm cyflymder lawrlwytho gwarantedig. Os yw'ch cyflymder yn disgyn o dan yr isafswm hwnnw ac na all eich darparwr gael eich cyflymder uwchlaw'r lefel honno o fewn 30 diwrnod calendr, efallai y byddwch yn gallu gadael eich contract heb gosb.

Codwch gŵyn ffurfiol am eich problem

Dilynwch weithdrefn gwyno ffurfiol eich darparwr. Os yw'n dal heb ei ddatrys ar ôl chwe wythnos, neu os yw'ch darparwr wedi anfon llythyr ddoddatryd ‘deadlock’ atoch, gallwch fynd â'ch cwyn at gynllun datrys anghydfodau annibynnol am ddim.

Dywedwch wrth Ofcom

Nid oes gennym bwerau i ymchwilio neu ddatrys cwynion unigol, ond os ydych chi'n rhoi gwybod am ddiffygion ac oedi atgyweiriadau trwy ein ffurflen fonitro, mae hyn yn ein helpu i adnabod patrymau a chymryd camau i fynd i'r afael â phroblemau ehangach.

Eich barn ar y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?