Mae ein cynllun iawndal awtomatig yn golygu y gallwch chi gael arian yn ôl gan eich darparwr band eang a llinell dir pan fydd pethau'n mynd o'i le, heb orfod gofyn amdano.
Mae'r darparwyr canlynol wedi'u cofrestru i'r cynllun:
- BT
- EE
- Hyperoptic
- Plusnet
- Sky (gan gynnwys NOW Broadband)
- TalkTalk (mae cyfyngiadau’n berthnasol i gwsmeriaid nad ydynt ar rwydwaith Openreach)
- Utility Warehouse
- Virgin Media
- Vodafone
- Zen Internet
Pryd y gallwch dderbyn iawndal
Bydd cwmnïau sydd yn rhan o’r cynllun yn darparu iawndal yn y sefyllfaoedd a nodir isod. Mae symiau iawndal yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant.
Oedi atgyweirio ar ôl colli gwasanaeth
- Os yw'ch gwasanaeth wedi stopio gweithio a heb ei drwsio'n llawn ar ôl dau ddiwrnod gwaith llawn.
- Iawndal: £10.34 am bob diwrnod calendr nad yw'r gwasanaeth yn cael ei atgyweirio.
Apwyntiadau a gollwyd
- Os nad yw peiriannydd yn troi i fyny ar gyfer apwyntiad wedi'i drefnu, neu os caiff ei ganslo heb roi o leiaf 24 awr o rybudd.
- Iawndal: £32.31 fesul apwyntiad a gollwyd.
Oedi cyn dechrau gwasanaeth newydd
- Os yw'ch darparwr yn addo dechrau gwasanaeth newydd ar ddyddiad penodol ond yn methu â gwneud hynny.
- Iawndal: £6.46 am bob diwrnod calendr o oedi.
Oni bai bod gwaharddiad yn berthnasol, dylech gael iawndal hyd yn oed pan fo'r broblem yn cael ei hachosi gan ddigwyddiad y tu hwnt i'ch rheolaeth chi neu eich darparwr. Mae hyn yn cynnwys tywydd eithafol, streiciau a gweithredoedd trydydd parti.
Os byddwch yn colli gwasanaeth eich llinell dir a'ch band eang ar yr un pryd, dim ond un taliad iawndal y byddwch chi’n ei dderbyn.
Mae'r cynllun hwn yn cwmpasu pob cynnyrch band eang sefydlog a llinell dir preswyl. Mae mwy o fanylion ar gael yn y Cod Ymarfer.
Sut y byddwch chi'n derbyn iawndal
Oni bai eich bod chi’n cytuno fel arall, bydd iawndal yn gredyd ar eich bil, a dylech dderbyn hyn heb fod yn hwyrach na 30 diwrnod calendr ar ôl:
- datrys achos o golli gwasanaeth neu derfynu’r gwasanaeth;
- dyddiad yr apwyntiad a gollwyd;
- datrys oedi wrth gychwyn gwasanaeth newydd neu ganslo’r gwasanaeth.
Bydd y credyd yn ymddangos ar eich cyfrif o fewn yr amserlenni uchod ond efallai y bydd yn ymddangos ar eich bil yn nes ymlaen. Gall eich darparwr gynnig mathau amgen o iawndal o'r un gwerth neu uwch, cyn belled â'i fod yn rhoi gwybod i chi eich faint y gallech chi ei dderbyn ar ffurf credyd ar eich bil.
Beth sydd angen i chi ei wneud i dderbyn iawndal
Os nad yw'ch gwasanaeth yn dechrau ar y dyddiad y cytunwyd arno, neu os bydd eich apwyntiad peiriannydd yn cael ei golli, bydd eich darparwr yn talu iawndal yn awtomatig – nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau.
Os yw'ch gwasanaeth band eang neu linell dir yn stopio gweithio, mae'n rhaid i chi roi gwybod i’ch darparwr am y nam. Os nad yw'r gwasanaeth yn cael ei drwsio ar ôl dau ddiwrnod gwaith llawn, bydd eich darparwr yn eich talu'n awtomatig os yw'r atgyweiriad yn cymryd rhy hir. Byddwch yn derbyn £10.34 i ddechrau os nad yw'r gwasanaeth wedi'i osod dau ddiwrnod gwaith llawn ar ôl i chi roi gwybod am y nam, ac yna £10.34 am bob diwrnod llawn nad yw'n cael ei drwsio ar ôl hynny.
Pryd na allech chi gael iawndal o dan y cynllun?
Mae'r eithriadau canlynol yn berthnasol:
- os yw'r golled mewn gwasanaeth yn cael ei achosi gan offer neu weithgarwch yn eich cartref;
- os byddwch chi'n torri telerau eich contract; neu
- os ydych chi wedi achosi methiant y gwasanaeth neu os ydych chi'n ei atal rhag cael ei ddatrys – er enghraifft, os ydych chi'n gofyn am apwyntiad peiriannydd diweddarach na'r un a gynigir ac yn oedi atgyweiriadau i'r gwasanaeth.
Pan fydd eich darparwr yn honni bod eithriad yn berthnasol, rydym yn disgwyl iddynt esbonio eu rhesymau yn glir wrthych chi a pharhau i weithredu er eich budd gorau. Yn ogystal, lle nad yw llofnodwyr yn talu iawndal awtomatig am resymau cyfreithlon a'ch bod chi heb wasanaeth, ni ddylid codi tâl arnoch am wasanaeth nad ydych chi’n ei dderbyn.
A oes terfyn ar faint o iawndal y gallwch ei gael?
Gall darparwyr hefyd gyfyngu ar faint o iawndal y maen nhw'n ei dalu. Ar ôl 30 diwrnod o dalu iawndal yn awtomatig, gall eich darparwr roi gwybod i chi y bydd taliadau'n stopio ar ôl 30 diwrnod arall (gelwir hyn yn 'hysbysiad terfynu' (cease notification)).
Ar ôl hyn, mae angen i'ch darparwr gymryd camau rhesymol i ddarparu gwasanaeth amgen addas. Os nad yw’n gallu rhoi dewis arall addas i chi, bydd gennych chi’r hawl i iawndal awtomatig o dan y cynllun o hyd.
Beth os nad ydych chi'n derbyn yr iawndal rydych chi'n credu y mae gennych hawl iddo?
Os na wnaethoch chi dderbyn iawndal y dylech fod wedi'i dderbyn o dan y cynllun, rhowch wybod i’ch darparwr. Gall cwynion heb eu datrys fynd trwy wasanaeth datrys anghydfodau amgen (ADR) a gymeradwyir gan Ofcom.
Cynnwys cysylltiedig
Cynnwys cysylltiedig