Datganiad a gyhoeddwyd 10 Gorffennaf 2025
Yn dilyn ein Hymgynghoriad, ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid ac ymchwil defnyddwyr, rydym yn gwneud newidiadau i'r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol (USO) ar y Post Brenhinol a newidiadau cyfatebol i rwymedigaeth y Post Brenhinol i ddarparu mynediad i'w rwydwaith llythyrau.
Mae'r Datganiad hwn yn nodi ein penderfyniadau i gefnogi gwasanaeth cyffredinol wedi'i foderneiddio. Rydym yn diogelu buddiannau defnyddwyr drwy wneud cyfres gyfyngedig o newidiadau a fydd yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar gynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth cyffredinol ac yn cefnogi ei ddarpariaeth barhaus. Bydd gwireddu manteision y diwygiad nawr yn dibynnu ar weithrediad llwyddiannus gan y Post Brenhinol.
Newidiadau i amlder danfon llythyrau Ail Ddosbarth
Ar hyn o bryd mae’r USO yn mynnu bod llythyrau Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth yn cael eu danfon chwe diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Sadwrn). Rydym wedi penderfynu dileu'r gofyniad ar y Post Brenhinol i ddanfon llythyrau Ail Ddosbarth chwe diwrnod yr wythnos a chaniatáu iddo ddanfon llythyrau o'r fath bob yn ail ddiwrnod gwaith (dydd Llun i ddydd Gwener). Mae'r newid hwn yn adlewyrchu'r ffaith nad oes angen dau wasanaeth chwe diwrnod yr wythnos ar ddefnyddwyr post mwyach i ddiwallu eu hanghenion rhesymol a'i fwriad yw cefnogi cynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth.
Bydd y gofynion ar gyfer danfon llythyrau Dosbarth Cyntaf chwe diwrnod yr wythnos yn aros yr un fath.
Newidiadau i dargedau ansawdd gwasanaeth
Mae’n rhaid i’r Post Brenhinol gyrraedd targedau ansawdd gwasanaeth penodol i’w gymell i ddarparu gwasanaeth o safon uchel.
Rydym yn cyflwyno targedau post hwyr newydd sy’n darparu targedau ychwanegol ar gyfer dosbarthu eitemau nad ydynt wedi cyrraedd y targed pennawd ‘ar amser’. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd gwasanaeth dibynadwy ac yn rhoi cymhelliant pellach i’r Post Brenhinol ddanfon post yn fwy rhagweladwy heb oedi hir. Ar gyfer post Dosbarth Cyntaf, bydd yn rhaid danfon 99% o fewn tri diwrnod gwaith. Ar gyfer post Ail Ddosbarth, bydd yn rhaid danfon 99% o fewn pum diwrnod gwaith.
Rydym yn newid y prif darged ar gyfer danfon post Dosbarth Cyntaf y diwrnod canlynol o 93% i 90%, a’r prif darged ar gyfer danfon post Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith o 98.5% i 95%, er mwyn adlewyrchu dewisiadau pobl yn well a chefnogi cynaliadwyedd ariannol. Rydym hefyd yn ailosod y targed ardal cod post Dosbarth Cyntaf cysylltiedig ar gyfer danfon y diwrnod gwaith canlynol o 91.5% i 87%. Mae’r targedau hyn yn parhau i fod yn uchel yn ôl safonau rhyngwladol.
Newidiadau i'r rhwymedigaeth llythyrau mynediad
‘Post swmp’ yw’r rhan fwyaf o’r llythyrau a anfonir heddiw, y llythyrau a anfonir gan sefydliadau mawr megis banciau, adrannau’r llywodraeth, y GIG neu awdurdodau lleol. Anfonir y llythyrau hyn y tu allan i’r gwasanaeth cyffredinol. I gefnogi cystadleuaeth yn y farchnad hon, rydym yn mynnu bod y Post Brenhinol yn darparu mynediad i’w rwydwaith llythyr, sy’n golygu bod yn rhaid iddo ddanfon llythyrau sy’n cael eu casglu gan gwmnïau post eraill. Er mwyn gwireddu manteision diwygio’r USO, mae angen newid y rhwymedigaethau mynediad sydd ar y Post Brenhinol i sicrhau ei fod yn gallu gweithredu’r un model danfon bob yn ail ddiwrnod yn ystod yr wythnos ar gyfer y mwyafrif helaeth o bost. Nod ein penderfyniadau yw galluogi hyn wrth barhau i gefnogi marchnad gystadleuol ar gyfer post swmp sy'n diwallu anghenion sefydliadau mawr a'u cwsmeriaid.
- Mae’r Post Brenhinol yn cyflwyno gwasanaeth mynediad newydd i ddanfon bob yn ail ddiwrnod yn ystod yr wythnos, a fyddai’n danfon llythyrau o fewn tri diwrnod yn ystod yr wythnos (D+3) ar ôl casglu gan yr anfonwr. Byddwn yn rheoleiddio’r gwasanaeth newydd hwn yn yr un ffordd ag yr ydym yn rheoleiddio’r gwasanaethau mynediad presennol ar hyn o bryd.
- Byddwn yn parhau i reoleiddio’r gwasanaeth mynediad D+2 presennol ar gyfer post swmp â blaenoriaeth, o leiaf tra bydd y farchnad yn ymateb i’r diwygio.
- Byddwn yn dileu danfon ar ddydd Sadwrn o wasanaethau mynediad D+5.
Dogfennau datganiad
Prif ddogfennau
Ymatebion
Cysylltwch
Future development of the postal USO team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA