Ar agor
Royal Mail Group Limited (y Post Brenhinol)
1 Mehefin 2026
Bydd yr ymchwiliad hwn yn archwilio cydymffurfiaeth y Post Brenhinol â'i dargedau perfformiad ansawdd gwasanaeth, a osodwyd ar y Post Brenhinol yn amod 1.9.1 y Darparwr Gwasanaeth Cyffredinol Dynodedig (DUSP), yn ystod 2025/26.
Amod DUSP 1.9.1, ac Atodlen 7 i Ddeddf Gwasanaethau Post 2011
Heddiw, agorwyd ymchwiliad gan Ofcom i gydymffurfiaeth y Post Brenhinol â'i dargedau perfformiad ansawdd gwasanaeth yn ystod 2025/26.
Mae ein rheolau yn ei gwneud yn ofynnol i'r Post Brenhinol gyrraedd targedau perfformiad ansawdd gwasanaeth penodol wrth ddarparu cynhyrchion gwasanaeth cyffredinol. Ymhlith targedau eraill, ar gyfer y cyfnod 2025/26, y gofyniad ar y Post Brenhinol oedd:
- dosbarthu 93% o bost dosbarth cyntaf o fewn un diwrnod gwaith i’w gasglu;
- dosbarthu 98.5% o bost ail ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith i'w gasglu.
Mesurir perfformiad yn erbyn y targedau hyn fel lefel perfformiad cyfartalog yn flynyddol ac eithrio cyfnod y Nadolig.
Ar 29 Mai 2026, cyhoeddodd y Post Brenhinol nad oedd yn cyrraedd y targedau perfformiad uchod yn y cyfnod 2025/26, gan ddosbarthu:
- 75.7% o bost dosbarth cyntaf o fewn un diwrnod gwaith i'w gasglu;
- 90.2% o bost ail ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith i'w gasglu.
Mae Ofcom yn cymryd cydymffurfio â'r targedau ansawdd gwasanaeth o ddifrif ac yng ngoleuni perfformiad adroddedig y Post Brenhinol, byddwn yn ymchwilio:
- a yw'r Post Brenhinol wedi methu â chydymffurfio â'i rwymedigaethau o dan amod DUSP 1.9.1 mewn perthynas â chyfnod rheoleiddio 2025/26, gan gynnwys ystyried unrhyw welliannau a wnaed gan y Post Brenhinol dros y cyfnod hwnnw; a
- lle mae methiant, a yw'n briodol gosod cosb ariannol ar y Post Brenhinol am y methiant hwnnw, a lefel unrhyw gosb.
Tîm gorfodi enforcement@ofcom.org.uk
CW/01344/05/26