
Nid yw perfformiad presennol y Post Brenhinol yn dderbyniol. Ers sawl blwyddyn, mae gormod o ddanfoniadau wedi cael eu gohirio, ac mae hyn wedi cael effaith ddifrifol ar deuluoedd, cymunedau a busnesau ar draws holl genhedloedd a rhanbarthau'r DU.
Y gwir broblem wrth law, yw gallu’r Post Brenhinol i fwrw ymlaen a chyflawni yn erbyn ei gynllun gwella, sy’n hir ddisgwyliedig. Mae'n hanfodol bod y cwmni’n gwella ei berfformiad os yw am ailadeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd.
Ffocws Ofcom yw sicrhau bod y farchnad yn cyflawni ar gyfer defnyddwyr a busnesau'r DU. Rydym wedi gweithredu’n bendant, gan ddefnyddio cwmpas llawn ein pwerau, i foderneiddio rhwymedigaethau rheoleiddiol y Post Brenhinol, gan alluogi'r cwmni i ymateb i'r dirywiad parhaus mewn nifer o lythyron. Gwnaed y newidiadau hyn i adlewyrchu anghenion defnyddwyr yn well, cefnogi cynaliadwyedd hirdymor y gwasanaeth, a galluogi mwy o fuddsoddiad mewn perfformiad dosbarthu.
Ers 28 Gorffennaf 2025, mae'r Post Brenhinol wedi cael yr hyblygrwydd a'r cyfle i weithredu'r newidiadau hyn; fodd bynnag, mae’r cynnydd wedi'i gyfyngu o achos anghydfod diwydiannol parhaus, sydd heb ei ddatrys yn ffurfiol eto. Nid rôl y rheoleiddiwr yw ymyrryd mewn anghydfodau diwydiannol rhwng cyflogwyr ac undebau llafur, na’u cyfyngu, ac nid oes gan Ofcom y pwerau i wneud hynny.
I ysgogi newid pellach yn y Post Brenhinol, gwnaethom fynnu bod y cwmni’n cyhoeddi cynllun gwella credadwy, wedi'i gefnogi gan fuddsoddiad gan ei berchnogion. Mewn ymateb, ymrwymodd y Post Brenhinol i ddychwelyd perfformiad yn ôl i'r targedau rheoleiddiedig erbyn Ebrill 2027, ac i fuddsoddi £500 miliwn dros y pum mlynedd nesaf. Rhaid i'r Post Brenhinol roi’r diwygiadau hyn ar waith ar frys.
Fel y rheoleiddiwr, rôl Ofcom yw creu'r cymhellion cywir - fel yr ydym wedi'i wneud - a chymhwyso canlyniadau priodol lle mae perfformiad yn isel. Rydym wedi gosod targedau perfformiad clir ac wedi cymryd camau yn erbyn y Post Brenhinol lle maent wedi methu – gan ddirwyo’r cwmni dros £37 miliwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Bydd y Post Brenhinol yn cyhoeddi ei ddata perfformiad blwyddyn lawn ar gyfer 2025/26 yn fuan. Rydym yn rhagweld y byddwn yn agor ymchwiliad llawn i ganlyniadau llynedd, gan gynnwys ystyried rôl blaenoriaethu parseli.
Rydym wedi ysgrifennu'n ffurfiol at y Pwyllgor, ar wahân, yn dilyn cyhoeddi ei adroddiad.